Croeso i Wicid! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Beth yw WICID?

Gwrandawsom ni arnoch chi, pobl ifanc Rhondda Cynon-taf ac yn rhoi i chi gwefan, ffres, ifanc, trawiadol, lliwgar... WICID!

Beth sy’n gwneud WICID yn arbennig?

Nid yn unig y cafwyd WICID ei gynllunio i chi, pobl ifanc RCT, ond cafwyd ei gynllunio gennych chi. Eich geiriau, eich lluniau, eich Gwefan! Crëwyd gan bobl ifanc i bobl ifanc.

Pam ddylwn i gymryd rhan?

Gallwch ddod at WICID am yr holl wybodaeth sydd angen arnoch chi ar y gweithgareddau a’r gwasanaethau sydd ar gael i chi, pobl ifanc RCT.

Mae’r safle yn gweithredu o fewn eich Ten Entitlements (hawliau pobl ifanc fel y cyflwynir hwy gan y Welsh Assembly Government) ac mae’n cyd-fynd â European Youth Information Charter.

Mae’n caniatáu i chi lanlwytho erthyglau, lluniau, fideos, dyluniadau a chyhoeddi digwyddiadau a gweithgareddau yn ac o amgylch RCT.

Meddyliwch am WICID fel cylchgrawn chwarterol ar-lein, llwyfan i arddangos eich talentau creadigol!

Sut allai gymryd rhan?

Gallai unrhyw un ysgrifennu i WICID! Gallai unrhyw un anfon lluniau! I gyd sydd angen i chi wneud yw cofrestru, dim ond 2 funud bydd yn cymryd. Os oes angen cymorth arnoch e-bostiwch info@wicid.tv

Dewiswyd Grwp Golygyddol i lywio’r safle ac i sicrhau fod yna diweddariadau cynnwys rheolaidd. Bydd y grwp hwn yn cynrychioli pobl ifanc eu hardal.

Pwy yw’r Grwp Golygyddol

Grwp o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n gyfrifol am ysgrifennu, rhoi adroddiadau, tynnu lluniau, dylunio, hyrwyddo a.y.b. Bydd y grwp yn cyfarfod pob mis a hefyd yn gwneud penderfyniadau am gynnwys a newidiadau technegol.

Os teimlwch y gallwch gyfrannu ac yr hoffech gymryd rhan ac ymuno â’r grwp, cysylltwch â info@wicid.tv.

Beth os nad oes profiad gen i?

Paid â phoeni. Fel aelod o’r Grwp Golygyddol byddwch yn derbyn hyfforddiant yn sgiliau newyddiaduriaeth, cynllunio graffig, creu ffilmiau a ffotograffiaeth. Bydd hwn yn gyfle unigryw i chi dderbyn profiad gwaith a datblygu portffolio i ddangos darpar gyflogwyr neu golegau.

Does dim angen i chi wybod sut i’w gwneud yn barod, ond bod gennych y brwdfrydedd, ymrwymiad a pharodrwydd i roi’r amser ar ymdrech i mewn.

Beth sydd angen arno?

Cynnwys ‘WICID’! Beth bynnag yr hoffwch ei rannu gyda phawb. Os ydych yn olygydd brwdfrydig beth am rannu eich ysgrifennu creadigol, newyddion, erthyglau nodwedd. Os ydych yn hyrwyddwr ifanc, pam ddim rhoi gwybod i bawb ynglyn â digwyddiadau yr ydych yn trefnu. Rhowch eich barn ar unrhyw beth a phopeth. Mae gennych y gallu i ychwanegu fideos o YouTube i eitemau newyddion, a gallwch lwytho hyd at bum delwedd i gyd-fynd â’ch stori. Gallwch hefyd nodi pa mor gyfeillgar tuag at bobl ifanc y credwch y bu sefydliad wrth i chi ddefnyddio eu gwasanaeth.

Mae’n siwr eich bod yn tybio sut ddaeth hyn i fod yn y lle cyntaf, wel...

Cyllidwyd ProMo-Cymru i gyflenwi WICID mewn partneriaeth a Gwasanaethau I Bobl Ifanc Rhondda Cynon Taf.

Mae ProMo-Cymru yn gweithio gyda phobl glyfar o’r enw Burning Red, cwmni dylunio creadigol sy’n gweithio ym Mae Caerdydd. Mae’r cwmni cyfoes hwn Burning Red sy’n teimlo’n angerddol am ein gwaith, ac sy’n gweithio o’n lleoliad ym Mae Caerdydd, yn ganolfan greadigol i arbenigwyr dylunio sydd wedi ymrwymo i ddod â’ch brand chi yn fyw. Mae ein cleientiaid yn amrywiol – corfforaethau, sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat, adwerthwyr a cherddorion i enwi dim ond rhai – ond mae ganddynt un peth yn gyffredin – yr angen am gyfathrebu creadigol”.

Mae’r safle yn cynnwys cyfeiriadur ar-lein o’r holl sefydliadau yn RCT sydd yn cynnig gwasanaethau i bobl ifanc. Felly does dim angen i chi fynd unman arall oherwydd ond ‘CLIC’ i ffwrdd ydyw.

Yn son am CLIC. Mae WICID yn rhan o CLIC, y Gwasanaeth Cenedlaethol i roi Gwybodaeth a Chyngor i bobl ifanc yng Nghymru, felly gellir gweld eich erthyglau creadigol yn genedlaethol hefyd.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50