Cwestiynau Cyffredin
- Cofrestru
- Cyflwyno Newyddion
- Y Broses Safoni
- Proffiliau Defnyddwyr
- Grwpiau Golygyddol Pobl Ifanc
- Sefydliadau
- Cyfryngau Eraill
- Amrywiol
Cofrestru
Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair. Help!
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, cliciwch logio i mewn ar y frig y dudalen a byddwch yn mynd ir ardal logio i mewn. Yma byddwch yn gallu dod o hyd ich cyfrinair.
Beth fyddwch chin ei wneud gyda data syn perthyn i mi?
Ni fydd CLIC fyth yn trosglwyddo eich manylion i drydydd parti, nac yn cysylltu â chi heb eich caniatâd. Cedwir eich gwybodaeth yn ddiogel oherwydd bod preifatrwydd yn bwysig i ni.
Beth fyddaf yn ei dderbyn os arwyddaf i ymuno âch rhestr bostio?
O bryd iw gilydd efallai y bydd CLIC yn cysylltu â chi gyda newyddion a diweddariadau am y prosiect. Rydym hefyd yn anfon deunydd allan yn rheolaidd och ardal leol. Gallwch dynnu eich enw or rhestr tanysgrifio ar gyfer y rhain unrhyw bryd, naill ai or tu mewn i CLIC neu drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod yr e-bost. Gallwch hefyd newid eich hoffterau or tu mewn i CLIC i Mi.
Pam ydych chin gofyn yr holl gwestiynau hyn i mi?
Rydym yn awyddus i ddysgu mwy amdanoch chi, defnyddwyr CLIC, i sicrhau bod CLIC mor dda ag y dymunwch iddo fod an bod yn gwneud newidiadau i weddu ich anghenion. Mae arnom angen yr wybodaeth hefyd i wybod faint o bobl ifanc syn defnyddio CLIC ac oherwydd hyn weithiau gallwn ofyn i chi gwblhau arolwg cyflym i gasglu eich adborth ach barn. Peidiwch â phoeni, ni fyddwn fyth yn rhannu eich manylion, ac efallai y bydd cyfle i chi ennill gwobrau da!
Rydw in byw mewn un sir, ond hoffwn dderbyn gwybodaeth am siroedd eraill.
Rydym yn deall efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn newyddion a diweddariadau o siroedd eraill. Os hoffech gael eich diweddaru am beth syn mynd ymlaen mewn ardal arall, logiwch i CLIC i Mi a gallwch reoli eich hoffterau. Gallwch hefyd logio i mewn i safleoedd CLIC lleol eraill gan ddefnyddior un enw defnyddiwr a chyfrinair.
Cyflwyno Newyddion
Alla i gyflwyno cynnwys i CLIC yn y Gymraeg?
Gallwch. Maer safle yn gwbl ddwyieithog. Efallai y gall y broses safoni gymryd ychydig yn hwy oherwydd bydd angen i ni drefnu cyfieithiad.
Alla i ddefnyddio unrhyw ffotograffau neu fideos yn fy eitem newyddion?
Gwaherddir defnyddio cynnwys wedi ei warchod gan hawlfraint ar safle CLIC neu safleoedd rhanbarthol yn gyfan gwbl. Os ydych yn ansicr am ddelwedd neu fideo arbennig, cofiwch gysylltu âch golygydd lleol neu â thîm gwe CLIC a all roi cyngor i chi. Dylid cyhoeddi ffotograffau neu fideos dim ond os ydynt a) wedi eu creu gennych chi, b) yn rhai y rhoddwyd caniatâd i chi gan yr awdur iw ddefnyddio ir pwrpas hwn, neu c) maer ffoto neur fideo yn cael eu rhyddhau o dan drwydded greadigol gyffredin neu maent yn rhai nad oes breindal ynghlwm wrthynt. Ystyriwch ychwanegu diolch am y ffoto (enwr sawl ai cymerodd) a chysylltwch ef ag unrhyw ffotograff yr ydych yn ei ddefnyddio nad ywn un och rhai chi.
Mae gennyf farn gref am rywbeth, alla i ei rhannu ar CLIC?
Wrth gwrs. CLIC yw eich llwyfan chi i rannu a thrafod beth bynnag syn bwysig i chi. Rydym yn croesawu pob barn a safbwynt, ond rydym yn gofyn i chi leisior rhain mewn modd syn ystyriol i ddefnyddwyr eraill y safle. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth drafod materion y mae pobl yn teimlon angerddol yn eu cylch. Gall golygydd eich cynghori i aralleirio rhywfaint och stori, os gellid ystyried fod hyn yn dramgwyddus i bobl eraill.
Y Broses Safoni
Rydw i wedi cyflwyno eitem newyddion. Yn awr beth?
Wedi ich stori gael ei chyflwyno maen ymuno â rhestr iw safoni. Dymar broses lle mae golygydd lleol neu aelod or Grwp Golygyddol yn darllen drwy eich stori ac yn gwirio unrhyw ddolennau, ffotograffau a fideos i fynd gyda hi i sicrhau ei bod yn addas iw chyhoeddi. Gallant hefyd wirio am unrhyw wallau gramadegol a gwallau sillafu. Cyn gynted ag y maent yn hapus fod eich stori yn bodlonir gofynion, bydd yn ymuno âr rhestr o storïau i gael eu gosod yn fyw (y broses o ganiatáu iddi fod yn weladwy ar y wefan).
Bydd yr eitem yn ymddangos ar y wefan ranbarthol y gwnaethoch ei chyflwyno iddi. Ond yn ystod y broses safoni, gall y Golygydd Cenedlaethol neu aelod or tîm golygyddol nodi eich eitem fel un iw phostio yn genedlaethol. Mewn geiriau eraill, os yw eich eitem yn ymwneud ag ardal arall o Gymru gellir ei dewis i ymddangos ar y safle hwnnw yn ogystal. Yn ystod y broses hon bydd eich stori yn cael ei dosbarthu hefyd o dan un neu nifer or penawdau gwybodaeth - e.e. iechyd, addysg - syn golygu y gall ymddangos fel eitem newyddion gysylltiedig pan fo pobl yn mynd drwy dudalennau gwybodaeth am y pwnc hwnnw.
Pa fath o eitem fyddain cael ei dewis ar gyfer y safle cenedlaethol?
Bydd y Golygydd Cenedlaethol yn cynnwys rhai storïau ar safle cenedlaethol CLIC. Gall stori gael ei dewis ar gyfer y safle cenedlaethol os yw golygydd yn teimlo ei bod yn arbennig o dda. Gellid seilio hyn ar y pwnc neur cynnwys. Bydd unrhyw newyddion syn gysylltiedig â CLIC yn ymddangos ar y safle cenedlaethol. Ni allwch gyflwyno eich gwaith eich hun i fod yn genedlaethol; maen rhaid iddo gael ei ddewis gan olygydd.
Gwrthodwyd fy eitem newyddion. Pam?
Mae nifer o resymau pam y gallai eitem newyddion fethur broses safoni, fel pe bai eich eitem yn cynnwys gormod o regi neu gynnwys tramgwyddus, bod ynddi unrhyw ddelweddau neu fideo gyda hawlfraint, neu pe tybid bod y cynnwys yn anaddas ar gyfer CLIC. Os ywr broblem yn ymwneud â delwedd fideo gyda hawlfraint, gall y golygydd ddewis gosod eich stori yn fyw heb y ddelwedd/fideo arbennig honno. Bydd y golygydd hefyd yn gwneud mân newidiadau i unrhyw iaith syn anaddas. Os ystyrir bod yr eitem yr ydych wedi ei phostio yn dramgwyddus, gellir cymryd camau pellach, a all arwain at rewi eich cyfrif. Gall y golygydd ddewis cysylltu â chi ach cynghori am unrhyw newidiadau y dylid eu gwneud er mwyn unionir broblem.
Rydw i wedi dod o hyd i rywbeth syn peri tramgwydd i mi, beth alla i ei wneud?
Ar bob tudalen o CLIC, chwiliwch am y botwm bach adroddwch am hwn. Bydd clicio ar y botwm hwn yn dangos y stori iw hadolygu gan olygydd. Nid ywn cuddior stori ar unwaith, ond byddwn yn ymateb i unrhyw hysbysiadau o fewn 24 awr. Pe bain benwythnos, neu pe teimlwch fod angen sylw brys ar y cynnwys, cysylltwch â thîm CLIC ar info@cliconline.co.uk
Mae fy Nigwyddiad i wedi cael iw wrthod. Pam?
Caiff digwyddiadau eu safoni yn yr un modd ag eitemau newyddion pan gyflwynir nhw i CLIC neur safleoedd rhanbarthol. Bydd y canolwr neur golygydd lleol hefyd yn gwirio i weld bod eich digwyddiad yn addas i gael ei hyrwyddo ar CLIC. Bydd y broses hon yn cynnwys gwirio i weld a ywr lleoliad yn un gwirioneddol ac y bydd y math o ddigwyddiad yn addas ar gyfer yr oed a nodir. Er enghraifft, os ydych wedi cyflwyno eich parti pen-blwydd fel digwyddiad ar CLIC byddain cael ei wrthod. Yn yr un modd bydd unrhyw ddigwyddiadau nad ydynt yn cael eu cynnal mewn lle cyhoeddus, e.e. parti yn nhy Paul, neu rywle yr ydym yn gwybod syn anniogel, neu yr amheuir ei fod felly, yn cael ei wrthod. Gall ein golygyddion lleol gysylltu â chi drwy ebost os dymunant ofyn mwy o gwestiynau am eich digwyddiad.
Proffiliau Defnyddwyr
Pa wybodaeth y gallaf ei hychwanegu at fy mhroffil?
Gallwch ychwanegu llun y defnyddiwr, bywgraffiad byr amdanoch chi eich hun a rhai dolennau i broffiliau rhwydweithio cymdeithasol. Nid oes raid i chi lenwi unrhyw ran or wybodaeth hon, gallwch roi cymaint neu cyn lleied ag y dymunwch. Darllenwch ein gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein cyn llenwi eich proffil.
Dydw i ddim am i bobl wybod pwy ydw i.
Gellir analluogi eich proffil or tu mewn i CLIC i Mi. Er y bydd eich enw defnyddiwr yn ymddangos wrth yr eitemau rydych wedi eu cyflwyno, pan fydd rhywun yn clicio arno, y cyfan y bydd yn ei ddangos yw tudalen yn nodi bod eich proffil yn breifat. Mae CLIC yn llwyfan i chi ddysgu, mynegi eich hun a rhannu eich profiadau mewn amgylchedd diogel. Mewn rhai sefyllfaoedd efallai y byddwch yn teimlo yn fwy cysurus yn cadw eich hunaniaeth yn breifat ac rydym yn parchu hyn. Fyddwn ni fyth yn dweud pwy ydych chi os ydych yn dewis gwarchod eich hunaniaeth. Ewch i weld ein tudalennau diogelwch ar-lein am fwy o gyngor am aros yn ddiogel ar-lein ac am awgrymiadau ar gyfer defnyddio proffiliau CLIC.
Grwpiau Golygyddol Pobl Ifanc
Rwyn sylwi fod gan rai defnyddwyr fegaffon wrth eu henw, beth yw hwn? A sut galla i gael un?
Maer eicon hwnnw yn cynrychiolir ffaith fod y defnyddiwr yn aelod or Grwp Golygyddol ar gyfer ei safle lleol neu genedlaethol. Gweler Cwestiynau Cyffredin Beth maer Grwp Golygyddol yn ei wneud? a Chwestiynau Cyffredin - Sut y gallaf ymuno?
Beth maer Grwp Golygyddol yn ei wneud?
Rhan o brosiect CLIC yw helpu i ddatblygu grwpiau golygyddol o bobl ifanc sydd â diddordeb ym mhob sir a all lywior wefan ai chynnwys. Maer grwpiau hyn yn cyfarfod yn rheolaidd yn bersonol ac ar-lein i drafod sut maer gwefannau yn gweithredu ac yn gweithredu fel gohebyddion, gan ennill sgiliau a phrofiad ar hyd y ffordd.
Grwp Golygyddol Cenedlaethol
Ffurfiwyd y Grwp Golygyddol Cenedlaethol wrth i brif safle CLIC gael ei ddatblygu. Buont yn cymryd rhan mewn cwrs preswyl a helpu i ail-ysgrifennur wybodaeth oedd yn bresennol yn ein mynegai. Ynghyd â grwpiau o siroedd ar draws Gymru, ymgynghorwyd â nhw ynghylch y dyluniad ar cysyniad. Maer grwp hwn o bobl ifanc yn rhannol gyfrifol am safoni cynnwys a byddant yn helpu i ddatblygu prosiectau ac ymgyrchoedd, a rheoli ein proffiliau rhwydweithio cymdeithasol. Mae gan y bobl ifanc brwdfrydig yn y grwp hwn sgiliau ardderchog y gallant eu cyfrannu, gan ddarparu eu barn a gweithredu fel cynrychiolwyr i bobl ifanc eraill ynghylch sut y dylid datblygur wefan. Mae cyfrannu fel hyn yn caniatáu i bobl ddatblygu eu sgiliau, a dysgu rhai newydd gydar cyfle i ennill achrediad a phrofiad gwaith gwerthfawr. Os teimlwch yr hoffech gyfrannu ac yr hoffech gymryd rhan ac ymuno âr grwp, edrychwch ar a chysylltwch â Golygydd Cenedlaethol CLIC, Ryan Heeger drwy ffôn ar 07515 566518 neu drwy ebost Ryan@CLIConline.co.uk
Grwpiau Golygyddol Lleol
Bydd gan bob sir yng Nghymru neu byddant yn y broses o ddatblygu Grwp Golygyddol. Maer rolau'r un fath ag ar gyfer bod yn aelod o Grwp Golygyddol, ond ar lefel leol gyda chyfarfodydd rheolaidd.
Sut y gallaf ymuno?
Cysylltwch â Golygydd Cenedlaethol CLIC, Ryan Heeger, ar y ffôn ar 07515 566518 neu drwy ebost yn Ryan@CLIConline.co.uk
Sefydliadau
Sut y gallaf gyflwyno fy sefydliad?
Ewch i gyflwyno sefydliad a darganfyddwch eich enw cyswllt lleol, cysylltwch â nhw a gofynnwch am ffurflen gofrestru.
Sut y caiff sefydliadau eu safoni?
Maer broses safoni ar gyfer sefydliadau ychydig yn wahanol. Fel rhan on hymroddiad i ddarparu gwybodaeth gywir a defnyddiol, gofynnir i unrhyw sefydliad syn dymuno cyflwyno eu manylion i gael eu rhestru ar gyfarwyddiaduron lleol a/neu genedlaethol CLIC i ddarparu rhai asedau cyn cael eu rhestru. Wedi i chi gofrestru gofynnir i chi lawrlwytho ac argraffu ffurflen, a fydd yn rhoi manylion am y camau nesaf a beth sydd arnom ei angen gennych. Yna bydd un o safonwyr y sefydliadau yn cysylltu â chi.
Mae fy manylion wedi newid, sut y gallaf ddiweddaru fy ngwybodaeth ar CLIC?
IOs oes angen i chi ein hysbysu am newid manylion cyswllt neu am unrhyw ymholiad arall am restriad eich sefydliad, cysylltwch â thîm gwybodaeth CLIC ar info@cliconline.co.uk
Cyfryngau Eraill
Beth y gallaf ei gyflwyno i gyd-fynd âm stori?
Gallwch gyflwyno hyd at bum delwedd (mae jpg., gif, png yn fathau o ffeil a gefnogir) ac un fideo y maen rhaid ei llwytho i wefan syn derbyn fideos a fydd yn cynhyrchu URL i chi. Y gwefannau derbyn fideo a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yw YouTube a Vimeo. Rhowch URL eich fideo dewisedig pan ydych yn cyflwyno eich erthygl a bydd yn ymddangos ger eich stori. Nid oes gennym y cyfleuster ar hyn o bryd i lwytho eich ffeiliau MP3 eich hun, ond os hoffech ychwanegu un, gall aelod o dîm gwe CLIC wneud hynny i chi. Ebostiwch ni yn webteam@cliconline.co.uk. Neu beth am greu fideo gydach MP3 ai chyflwyno felly?
Mae gennyf fideo rwyn meddwl y dylech ei ychwanegu at chwaraewr cyfryngau CLIC.
Os yw eich fideo yn perthyn i un or 10 o brif benawdau gwybodaeth yna gellid rhoi sylw iddo yn chwaraewr cyfryngau CLIC, neu ar un or tudalennau gwybodaeth. Gallwch ddewis naill ai ei e-bostio atom yn video@cliconline.co.uk neu bostio DVD at ProMo Cymru, Uned 13, Gweithdai Royal Stuart , Adelaide Place, Caerdydd CF10 5BR
Ar ba fformat yr hoffech ei gael?
Yn ddelfrydol hoffem gael y fideo mewn quicktime movie (.mov) .avi neu mp4. Peidiwch â phryderu os nad yw eich fideo yn un or fformatau hyn ac na allwch ei drosi. Rydym ni yma i helpu.
Amrywiol
Beth yw sianel RSS?
Mae RSS yn golygu Really Simple Syndication ac yn fyr maen sianel i gynnwys deinamig or wefan. Maer sianel hon yn cynnwys delweddau testun a dolennau ac yn cael ei diweddaru yn awtomatig. Gallwch danysgrifio ir sianeli hyn, syn golygu eu bod yn eich hysbysu pan ychwanegir rhywbeth at y safle. Felly, os ydych yn tanysgrifio ir sianel newyddion RSS ar CLIC, fech diweddarir bob yn hyn a hyn gydar newyddion diweddaraf a ychwanegwyd. Gallwch edrych ar y sianeli RSS hyn och porwr, darllenydd RSS neur rhan fwyaf o ffonau symudol. Y fantais o ddefnyddio sianel RSS yw y gallwch weld cynnwys o bob un och hoff wefannau mewn un lle, neu wrth symud o gwmpas. Mae CLIC yn cynnwys nifer o sianeli RSS i ddewis ohonynt ar dewis o greu un eich hun. Felly er enghraifft gallwch ddewis sianel RSS o unrhyw newyddion wedi ei dagio gyda cherddoriaeth. Os ydych yn defnyddio porwr gwe modern (Firefox, Safari neu Internet Explorer 7 ac uwch) byddwch yn gallu tanysgrifio i sianel or tu mewn ich porwr. CLICiwch ar y ddolen ir sianel RSS a chliciwch tanysgrifiwch yn awr. Gellir canfod esboniad mwy cynhwysfawr ar RSS yn Wikipedia.
Maer fideo YouTube a gyflwynais gyda fy eitem newyddion wedi ei dileu, pam?
O bryd iw gilydd bydd YouTube yn dileu fideos. Gallai hyn fod am nifer o resymau ac mae hyn yn anffodus allan on rheolaeth ni. Er na allwch chi olygu eich stori wedi iddi gael ei chyflwyno, gallwch gysylltu ag aelod staff a all naill ei dileu neu ei hamnewid.
Mae gen i broblem yn edrych ar neu yn cyrchu at nodweddion ar safle CLIC.
Pryd bynnag y bo hynnyn bosib, rydym wedi ceisio darparu fformatau eraill ar gyfer cyfryngau yr ydym yn gwybod y gellir eu rhwystro gan rai cyfrifiaduron. Ond os oes gennych unrhyw broblemau wrth edrych ar neu gyrchu at rannau o safle CLIC, cysylltwch â thîm gwe CLIC yn webteam@cliconline.co.uk neu cyflwynwch docyn cefnogi yma a byddwn yn ceisio ei ddatrys cyn gynted â phosib.
Mae gennyf awgrym ar gyfer CLICar-lein.
Rydym wrth ein bodd yn cael eich adborth ac yn arbennig eich syniadau, felly e-bostiwch dîm gwe CLIC drwy webteam@cliconline.co.uk gydach awgrymiadau. Cofiwch fod CLIC yn safle syn esblygu yn gyson sydd angen eich cyfraniadau chi iw gwneud hyd yn oed yn well!

