Sut y gallaf i gymryd rhan yn WICID?
Gall unrhyw un gyda syniad, barn, profiad, erthygl neu ffotograff yr hoffent eu rhannu gyda phobl ifanc eraill gyfrannu at WICID. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru - a dilyn y cyfarwyddiadau syml am sut i gyflwyno eich cynnwys eich hun. Mae bod yn aelod cofrestredig yn rhoi cyfle i chi roi sylwadau hefyd ar erthyglau eraill.
Rhan o brosiect WICID ydy cael Grwpiau Golygyddol o bobl ifanc sydd â diddordeb a all lywior gwefannau ar cynnwys. Maer grwpiau hyn yn cyfarfod yn rheolaidd yn bersonol ac ar-lein i drafod sut maer gwefannau yn gweithio a gweithredu fel gohebyddion, gan ennill sgiliau a phrofiad ar hyd y ffordd. Gweler Cyfarfod ar Tîm am ragor o wybodaeth.
Ond os nad yw ysgrifennu yn apelio atoch ond eich bod yn dal i fod eisiau dweud eich dweud neu fod yn gysylltiedig â WICID, gallwch:
- Adael eich sylwadau i ni ar y tudalennau perthnasol
- Ein hychwanegu ar un on proffiliau rhwydweithio cymdeithasol
- Creu eich proffil rhwydweithio cymdeithasol eich hun. Os oes gennych brosiect neu yr hoffech ddechrau grwp neu broffil ar gyfer eich ardal, sefydliad neu grwp golygyddol lleol gallwch ddarganfod awgrymiadau a phwyntiau pwysig ar ein tudalennau diogelwch ar-lein.
Grwp Golygyddol WICID
Os teimlwch y gallwch gyfrannu ac yr hoffech gymryd rhan ac ymuno âr grwp, ewch i grwpiau golygyddol a chysylltwch âr Golygydd Catrin Wyn Southall, drwy alwad ffôn ar 07881 832557 neu drwy fodd e-bost ar cat@wicid.tv
Sut y gallaf ymuno?
Cysylltwch â Golygydd WICID, Catrin Wyn Southall, ar y rhif ffôn 07881 832557 neu drwy fodd e-bost ar cat@wicid.tv

