Croeso i Wicid! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dan Do » Gwersi Aerobeg

  • Yfwch ddigonedd o ddŵr yn ystod y wers i gymryd lle’r dŵr y byddwch yn ei golli trwy chwysu
  • Rhowch wybod i’ch hyfforddwr aerobeg os ydych wedi’ch anafu – gallant gynnig ymarferiadau eraill i’w gwneud fel na fydd yr anafiad yn mynd yn waeth
  • Gall aerobeg fod yn ffordd hwylus iawn i gadw’n heini. Mae’r gwersi fel arfer yn gyfuniad o ymarferiadau corfforol gyda hyfforddwr sy’n dweud wrthych sut i wneud pob ymarferiad i rythm y gerddoriaeth
  • Mae canolfannau chwaraeon a hamdden yn cynnal gwersi aerobeg yn ystod yr wythnos ac ar y penwythnos
  • Mae gwersi aerobeg yn amrywio o ran pa mor ddwys yr ydynt, yn dibynnu ar eich ffitrwydd. Os nad ydych yn siŵr pa wers i ymuno â hi, siaradwch â rhywun sy’n gweithio yn eich canolfan chwaraeon neu hamdden leol am gyngor
  • Mae sawl math o wersi aerobeg ar gael. Mae rhai’n cynnwys:
    • aerobeg dawns : trefn aerobeg sy’n cyfuno symudiadau dawns
    • aerobeg step : trefn aerobeg sy’n cyfuno gris neu blatfform er mwyn cael sesiwn ymarfer fwy dwys
    • box–a–cise : gwers aerobeg ddwys sy’n cyfuno technegau bocsio fel dyrnu, lempanau uchel a phwtio
    • kaibo : trefnau aerobeg sy’n cyfuno technegau crefft ymladd
  • Mae mathau eraill o aerobeg yn cynnwys hyfforddiant cylchol, cic–bocsio a gwersi rhedeg
  • Mae’n syniad i chi wylio gwers cyn cymryd rhan os ydych yn ystyried ymuno
  • Ewch i sawl gwers wahanol i weld p’un sydd orau gennych
  • Dylech wisgo dillad ysgafn fel crys–t a throwsus byr i wersi aerobeg. Hefyd, bydd rhaid i chi gael esgidiau ymarfer sy’n ddigon cadarn a chyfforddus

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50