Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dan Do » Sboncen
- Dau berson sy’n chwarae gêm sboncen, dan ddefnyddio un raced yr un, gyda phêl mewn cwrt â waliau o’i gwmpas
- Rhaid i’r chwaraewyr daro’r bêl yn erbyn y wal rhwng dwy linell sydd wedi’u marcio
- Y person sy’n serfio yn unig sy’n gallu sgorio pwyntiau. Pan fo’r serfiwr yn ennill rali, mae’n ennill un pwynt
- Y person sy’n ennill y nifer fwyaf o gemau allan o dri neu bump sy’2 n ennill, yn dibynnu ar y math o gystadleuaeth
- Mae sawl fersiwn o’r gêm i weddu i wahanol grwpiau oedran
- Gall plant ddefnyddio pêl sbwng i ddechrau sydd ychydig yn fwy na phêl sboncen rwber arferol. Mae racedi bychan neu iau ar gael i blant hefyd
- Wrth chwarae sboncen, dylech wisgo dillad ysgafn ac esgidiau chwaraeon â gwadnau gwyn i osgoi marcio’r llawr