Croeso i Wicid! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Y Celfyddydau Digidol » Cyfrifiaduron a'r Rhyngrwyd

  • Mae cyfrifiaduron ar gael ar sawl ffurf a gallwch eu defnyddio at amrywiaeth o ddibenion
  • Prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data, gemau, chwarae a chreu cerddoriaeth a defnyddio’r rhyngrwyd yw’r dibenion mwyaf cyffredin
  • Mae’n bosib y byddwch chi’n ei chael yn hwylus defnyddio cyfrifiadur i greu a storio gwaith ysgol neu brosiect rydych chi’n gweithio arno
  • Bydd llawer o bobl yn defnyddio rhyw fath o gyfrifiadur ar gyfer eu swyddi
  • Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur yn yr ysgol, ond mae cyrsiau ar gael ichi eu dilyn os ydych chi am ddysgu mwy – gwelwch y cysylltau isod i gael rhagor o wybodaeth

Y rhyngrwyd

  • Mae defnyddio’r rhyngrwyd yn un o ddibenion mwyaf cyffredin cyfrifiaduron personol
  • Bydd pobl yn defnyddio’r rhyngrwyd at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys:
    • Dod o hyd i wybodaeth am unrhyw bwnc
    • Dysgu
    • Cael y newyddion diweddaraf
    • Creu busnes
    • Prynu a gwerthu nwyddau
    • Cyfarfod â phobl a ’sgwrsio’
    • Siarad â phobl
    • Cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau
  • Mae mynediad i’r rhyngrwyd am ddim yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru.

Ystafelloedd Sgwrsio

  • Mae ystafelloedd sgwrsio yn ffordd wych o rannu diddordebau a barn â phobl, ond cofiwch fod modd i unrhyw un sydd wedi mewngofnodi ac sy’n edrych ar y dudalen we weld yr hyn rydych chi’n ei deipio i mewn i ystafell sgwrsio neu fwrdd negeseuon.
  • Y ffordd orau o ddefnyddio ystafell sgwrsio yw defnyddio un sy’n cael ei goruchwylio. Mae hyn yn golygu bod goruchwyliwr yn monitro pynciau’r sgyrsiau ac yn rhybuddio pobl sy’n dweud rhywbeth amhriodol neu ddifrïol
  • Gall goruchwylwyr hefyd wahardd pobl o rai ystafelloedd sgwrsio

Risgiau Ystafell Sgwrsio

  • Gall sgwrsio â phobl dros y rhyngrwyd fod yn hwyl, ond mae’n rhaid ichi sylweddoli na fyddwch chi weithiau yn adnabod y bobl rydych yn cyfathrebu â nhw
  • Gall rhai pobl ddweud celwydd ac esgus eu bod yn rhywun nad ydyn nhw mewn gwirionedd, felly mae’n bwysig cadw’n ddiogel
  • Mae cadw’n ddiogel pan fyddwch chi ar–lein yn rhwydd
    • peidiwch â rhannu unrhyw fanylion personol nac ariannol, gan gynnwys eich oed, eich rhif ffôn, eich cyfrif banc, eich cyfeiriad cartref
    • peidiwch â dweud i ba ysgol neu brifysgol rydych chi’n mynd
    • peidiwch ag anfon unrhyw luniau ohonoch chi’ch hun dros y rhyngrwyd
    • peidiwch â chredu popeth y bydd pobl yn ei ddweud wrthych chi
  • Os bydd rhywun yn gofyn am gael eich cyfarfod, mae hi lawer yn fwy diogel eu cyfarfod yn yr ystafell sgwrsio
  • Os ydych chi’n penderfynu eu cyfarfod, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n penderfynu ar rywle cyhoeddus, ac ewch â ffrind gyda chi, beth bynnag fo’ch oed
  • Os ydych chi dan 16 oed, byddai’n well mynd yng nghwmni oedolyn er eich diogelwch chi

Siopa dros y rhyngrwyd

  • Mae prynu nwyddau dros y rhyngrwyd yn ffordd gyflym o siopa – gallwch chi chwilio am yr eitem rydych chi am ei chael a thalu amdani ar–lein
  • Mae risg ynghlwm â thalu am nwyddau â cherdyn debyd neu gerdyn credyd, gan y gallai defnyddwyr eraill y we gael mynediad i’r dudalen a chasglu manylion eich cerdyn
  • Pan fyddwch chi’n siopa ar–lein, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio gwefannau diogel yn unig. Chwiliwch am logo clo clap ar waelod eich sgrïn
  • Mae’r logo clo clap yn golygu na all defnyddwyr eraill y we weld y wybodaeth rydych chi’n ei hanfon dros y rhyngrwyd
  • Os byddwch chi’n prynu nwyddau ar–lein gan ddefnyddio’ch cerdyn credyd neu ddebyd, mae gennych chi’r un hawliau â phe byddech wedi’u prynu mewn siop –gwelwch wefan y Swyddfa Masnachu Teg i gael rhagor o wybodaeth

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50