Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Y Celfyddydau Digidol » Gwneud Ffilmiau ac Animeiddio
Yn yr Adran Hon
Gwneud Ffilmiau
- Mae’r term gwneud ffilm yn cynnwys y gweithgaredd a’r broses o gynhyrchu ffilm Er ei bod yn cymryd blynyddoedd i wneud ffilmiau yn broffesiynol, ac yn gofyn am lawer iawn o arian, bydd llawer o bobl yn gwneud ffilmiau byrion neu fideos cartref ar lefel is ac ar gyllideb fach
- Gall gwneuthurwyr ffilmiau amatur ifanc gyflawni canlyniad hynod broffesiynol trwy ddefnyddio proses ffilmio digidol a phecyn cartref o feddalwedd golygu
- Mae sawl agwedd wahanol ar wneud ffilmiau y gallech chi ddysgu amdanyn nhw neu fod yn rhan ohonyn nhw, er enghraifft golygu, cyfarwyddo, cynhyrchu neu ysgrifennu sgriptiau – mae’r rhain i gyd yn wahanol iawn i’w gilydd ond yn agweddau yr un mor bwysig ar wneud ffilmiau
- Dyma gamau gwneud ffilm:–
- datblygu
- cyn–gynhyrchu
- cynhyrchu
- ôl–gynhyrchu
- dosbarthu
- I ddysgu am wneud ffilmiau fe allech chi astudio llyfrau ar y pwnc, mynd i weithdy neu gwrs gwneud ffilmiau, astudio gwneud ffilmiau yn y coleg neu’r brifysgol neu gysylltu â’ch Canolfan Ddysgu Gymunedol i gael mwy o wybodaeth
- Neu fe allech chi wneud fideo cartref gan ddefnyddio camera fideo
- Efallai y byddwch chi’n penderfynu gwneud ffilm fer am hwyl, i ennill profiad, i roi syniad ar brawf neu i geisio gwneud rhywfaint o arian
- Os ydych chi am i’ch ffilm fer gael ei sgrinio, mae’n bosibl y bydd sianel deledu yn ei dangos, ond mae’n debyg mai’r ffordd orau fyddai gŵyl ffilmiau, neu ei dangos i’ch ffrindiau a’ch teulu i gael eu hymateb nhw. Gallech chi hefyd ei gosod ar y rhyngrwyd
- Bydd angen i ffilm fer gyrraedd lefel ansawdd benodol cyn cael ei darlledu ar y teledu
Cyn ichi ddechrau ar y prosiect, ceisiwch nodi’ch amcanion, oherwydd dyma fydd yn eich helpu i benderfynu faint o gyfarpar fydd eu hangen arnoch chi, p’un a oes angen criw ai peidio, a beth yw’r ansawdd ffilm rydych chi’n anelu ato - Mae’n bosib y byddwch chi hyd yn oed yn gallu dod o hyd i gyllid ar gyfer eich prosiect gan fod yna bobl sydd am fuddsoddi mewn syniadau newydd a allai fod yn llwyddiannus
- Mae Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd yn cynnig cyrsiau amser llawn ym mhob agwedd ar wneud ffilmiau, gan gynnwys ei gwrs Animeiddio adnabyddus
Animeiddio
- Cynhyrchu llun symudol yw animeiddio. Gallai hyn fod trwy:–
- animeiddio plaen, e.e. dilyniant o luniau
- animeiddio cyfrifiadurol, neu
- animeiddio â phypedau e.e. modelau o glai
- Animeiddio cyfrifiadurol yw’r math mwyaf poblogaidd
- Mae cannoedd o raglenni a ffilmiau plant wedi’u hanimeiddio – sioe animeiddio â chlai yw ’Wallace and Gromit’, animeiddio plaen yw ’Sleeping Beauty’, ac animeiddio cyfrifiadurol yw ’Toy Story’
- Gallwch chi ddysgu am animeiddio trwy astudio cwrs, trwy gymryd rhan mewn gweithdy neu drwy edrych ar lyfrau neu’r rhyngrwyd
Mae gan radd Animeiddio Prifysgol Casnewydd yn Ne Cymru enw da iawn drwy’r byd - Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr o animeiddio fel celfyddyd ffilm yn ogystal ag ar ddysgu technegau animeiddio. Mae’r cwrs yn cael ei addysgu trwy gyfres o weithdai, seminarau a phrosiectau ymchwil gyda goruchwyliaeth bersonol
- Gwelwch fanylion cysylltu Prifysgol Cymru, Casnewydd i gael rhagor o wybodaeth am y cwrs Animeiddio

