Gwybodaeth » Tai » Prynu Cartref Newydd
Yn yr Adran Hon
Mae llawer o bobl yn y wlad hon yn prynu eu cartref eu hunain. Ond nid yw eiddo yn eiddo i chi hyd nes y mae’r benthyciad banc yr ydych wedi ei gymryd (y cyfeirir ato yn gyffredin fel morgais) wedi ei ad-dalu’n llawn. Weithiau gall hyn gymryd hyd at 30 mlynedd felly pan fo rhai pobl yn dweud “Rydw i wedi prynu tŷ’, yr hyn maen nhw’n ei olygu mewn gwirionedd yw ‘Rydw i yn prynu tŷ’!
Efallai nad prynu eich llety eich hun yw’r dewis gorau o anghenraid i bawb oherwydd mae’n ddrud ac yn golygu ymrwymiad ariannol tymor hir.
Fel arfer mae angen swm sylweddol o arian hefyd fel blaendal i’w dalu ymlaen llaw. Oherwydd hyn, mae’n aml yn ddewis afrealistig ar gyfer y mwyafrif o bobl ifanc.
Ond mae’n bwysig darganfod beth a olyga prynu eich lle eich hun oherwydd gallwch ddewis gwneud hynny rhyw ddydd. Bydd yr adran hon yn rhoi’r holl wybodaeth y mae angen i chi ei gwybod am dai.
Sefydliadau
-
Citizens Advice Bureau
Help and advice on buying a house
-
Financial Services Authority
Financial advice about mortgages
-
Need2Know
Help and advice on buying a new home

