Croeso i Wicid! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Bod yn rhan o Deulu

Gall bod yn rhan o deulu fod yn wych oherwydd bydd gennych bob amser rywun sy’n perthyn i chi, sydd ag atgofion sy’n cael eu rhannu gyda chi, ac a all eich helpu a’ch cefnogi.

Mae bob teulu yn wahanol, o rai bach i rai mawr, teuluoedd gyda’i gilydd a rhai sy’n byw ar wahân, teuluoedd mabwysiedig, llys-dadau neu lysfamau a llysfrodyr neu chwiorydd, neu fyw gyda rhieni maeth neu warcheidwaid.

Weithiau mae problemau o ran cyd-fynd â phobl pan ydych yn byw mor agos at eich gilydd ac yn gorfod rhannu lleoedd byw. Mae’n naturiol ac yn arferol dadlau ar brydiau ac nid oes y fath beth â theulu perffaith. Ond gallwn ddysgu llawer am gyd-fynd â phobl eraill wrth ddysgu byw gyda’n teuluoedd gartref.

Dyma rai awgrymiadau i sicrhau perthnasoedd teuluol da:

  1. Siaradwch ag aelodau eich teulu am eich teimladau a’ch pryderon ond cofiwch wrando ar eich gilydd hefyd.
  2. Os hoffech i bobl eich trin chi yn briodol yna mae’n rhaid i chi eu trin nhw yn briodol hefyd. Bydd pobl sy’n trin ei gilydd gyda pharch yn cyd-fynd yn llawer gwell na phe baent yn anghwrtais, yn uchel eu croch ac yn hunanol.
  3. Nid yw bod yn ferch neu fachgen, yr hynaf, yr ieuengaf, y byrraf neu’r talaf yn rhoi dim mwy o hawliau i chi na’r lleill yn y teulu. Mae’n ymwneud â bod yn oddefgar a bod yn ystyriol o’ch gilydd.

Mae’r adran hon yn rhoi’r holl wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth i chi fel y gallwch fwynhau bywyd fel teulu.

Sefydliadau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.