Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Bod yn rhan o Deulu » Gofalwyr Ifanc
- Os na all rhiant neu aelod o’r teulu agos ofalu amdano’i hun, yna ambell dro, aelodau iau y teulu fydd yn gofalu amdanyn nhw
- Mae degau o filoedd o ofalwyr ifanc yn y DU, a rhai ohonyn nhw’n gorfod esgeuluso’u gwaith ysgol neu eu bywyd cymdeithasol i ofalu am aelod o’r teulu sydd angen eu gofal
- Gall bod yn ofalwr ifanc olygu bod eich iechyd corfforol ac emosiynol dan straen, gan y gall fod yn waith amser llawn i rywun ifanc
- Mae’n bosib y bydd y profiad yn golygu na fyddwch chi’n cael digon o gwsg di-dor, a’ch bod yn dioddef o straen, tlodi neu unigrwydd cymdeithasol.
- Mae’n bosibl hefyd y byddwch chi’n teimlo’n ddig, yn ofidus, yn wan, ac yn teimlo bod pethau’n drech na chi
- Gall straen emosiynol gofalu am rywun effeithio arnoch chi yn y tymor hir, felly peidiwch â chadw’ch meddyliau a’ch teimladau i chi’ch hun. Os ydych chi’n teimlo na allwch chi siarad â’ch rhiant neu rywun yn y teulu, mae grwpiau cyfrinachol ar gael sy’n fodlon gwrando arnoch chi. Gwelwch y cysylltau isod i gael mwy o wybodaeth
- Yn aml iawn ni fydd gofalwyr ifanc a’u rhieni’n trafod y gofal rhag ofn iddyn nhw gael eu gwahanu, neu oherwydd eu bod nhw’n teimlo euogrwydd neu falchder, ond nid oes unrhyw gywilydd mewn gofyn am help os oes ei angen arnoch chi
- Os ydych chi’n ofalwr ifanc ac mae angen cefnogaeth neu gyngor arnoch chi, mae yna bobl y gallwch chi siarad â nhw ac sy’n gallu helpu. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, a does dim rhaid ichi ymdopi â phethau ar eich pen eich hun.