Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Gwyliau a Theithio » Cadw Mewn Cysylltiad
- Gallwch chi ddefnyddio’ch ffôn symudol pan ydych chi dramor, ond mae rhai gwledydd - fel UDA - yn defnyddio amledd gwahanol i ffonau symudol ym Mhrydain felly efallai na fydd eich ffôn chi’n gweithio dramor. Cysylltwch â’ch cwmni ffôn cyn ichi fynd i sicrhau’ch bod chi’n gallu defnyddio’ch ffôn symudol
- Mae’n syniad da peidio â dibynnu ar eich ffôn symudol gan na fydd gan bob ardal gyrhaeddiad rhwydwaith. Gallech chi hefyd golli eich ffôn ar eich taith
- Gall fod yn ddrud defnyddio’ch ffôn symudol dramor. Mae gan lawer o wledydd gardiau ffôn y gallwch chi eu prynu o siopau a swyddfeydd post. Yn aml gall y cardiau yma fod yn ffordd ratach o wneud galwadau ffôn.
- Pan ydych chi’n ffonio Prydain o wlad arall, bydd yn rhaid ichi newid y 0 ar ddechrau’r rhif i +44
- Mae e-bost yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad, a gall fod yn rhad iawn. Mae gan lawer o drefi a dinasoedd we-gaffis lle gallwch chi dalu am fynediad i’r we fesul awr
- Gwelwch y rhan ar Gyfathrebu yn adran Byw Dramor am ragor o gyngor