Croeso i Wicid! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Gwyliau a Theithio » Cynllunio ac Archebu

Cynllunio

  • P’un a ydych chi eisiau teithio am benwythnos neu am flwyddyn, mynd i ochr arall y byd neu i ochr arall Cymru, bydd cynllunio’n gywir yn eich helpu chi i fwynhau eich taith yn fwy
  • Os ydych chi’n cynllunio gwyliau yn dda, byddwch chi’n gallu gweld yr holl bethau rydych eisiau eu gweld yn yr amser sydd gennych chi, heb wario mwy o arian na fedrwch chi ei fforddio, gobeithio!
  • Pan ydych chi’n cynllunio lle rydych chi eisiau mynd iddo ar eich gwyliau, mae yna lawer o bethau ymarferol sy’n rhaid ichi eu hystyried, megis fisâu neu frechiadau arbennig sydd angen ichi eu cael - edrychwch ar yr adrannau eraill yn Gwyliau a Theithio am ragor o wybodaeth
  • Gall rhai gwledydd fod yn beryglus ac mae’n bwysig eich bod chi’n sicrhau bod y wlad rydych chi eisiau mynd iddi yn ddiogel. Gallwch chi wirio hyn â’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, sydd â rhestr yn dangos pa mor ddiogel yw pob gwlad i deithio ynddi
  • Bydd pwy rydych chi’n teithio gyda nhw yn cael effaith fawr ar eich gwyliau. Os ydych chi’n teithio gyda ffrindiau, gwnewch yn siŵr eich bod chi eisiau’r un pethau o’ch taith
  • Dylech chi hefyd ystyried yr adeg o’r flwyddyn rydych chi eisiau mynd i ffwrdd. Hyd yn oed os ydi hi’n haf ym Mhrydain, gall fod yn dymor corwynt neu monsŵn mewn rhai gwledydd ar ochr arall y byd
  • Mae yna lawer o lyfrau a chanllawiau teithio y gallwch chi eu defnyddio i’ch helpu i gynllunio lle rydych eisiau mynd iddo ar eich gwyliau, a beth fydd angen ichi ei wneud cyn ichi fynd yno. Gallan nhw eich helpu i ddewis y mannau rydych chi eisiau eu gweld fwyaf, ac awgrymu teithlen ar gyfer eich taith
  • Nid yw gwyliau’n golygu mynd dramor bob tro. Mae Cymru yn lleoliad poblogaidd i dwristiaid, ac mae pobl yn dod o bedwar ban byd i ymweld â thirlun hardd ein gwlad ac i gael blas o groeso enwog Cymru

Archebu

  • Mae yna sawl ffordd o archebu gwyliau. Gallwch chi fynd ar y we, defnyddio’r ffôn neu fynd i swyddfa deithio
  • Gall archebu ar y we fod yn ffordd ddefnyddiol o arbed arian, ond peidiwch â chymryd yn ganiataol bob amser mai dyma’r ffordd rataf. Mae trefnwyr teithiau yn arbenigwyr a gallan nhw ddod o hyd i wyliau ichi sy’n rhoi mwy o werth eich arian ichi yn aml nag un rydych chi wedi dod o hyd iddo eich hun
  • Efallai nad ydych chi eisiau archebu rhywle i aros bob nos cyn ichi fynd i ffwrdd, a’ch bod am fod yn deithiwr mwy annibynnol
  • Mewn rhai lleoedd, gallwch chi gyrraedd a chael ystafell yn syth, neu archebu gyda’r gwasanaeth croeso lleol a fydd yn gallu awgrymu gwesty fydd yn gweddu i chi. Fodd bynnag, mae bob amser yn syniad da gwybod lle y gallwch chi fynd iddo i archebu ystafell fel nad ydych chi’n cael eich hun heb unman i aros!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50