Croeso i Wicid! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y Du a Chymru » Gwyliau a Theithio » Iechyd a Diogelwch

Eich iechyd

  • Mewn rhai gwledydd, efallai y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd neu’n ddrud i gael triniaeth feddygol, felly mae’n bwysig iawn amddiffyn eich hun rhag peryglon iechyd yn y wlad rydych chi’n mynd iddi
  • Cyn ichi adael, gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddigon o yswiriant teithio i dalu am driniaeth os byddwch chi’n cael eich anafu
  • Gall yr Adran Iechyd ddarparu cyngor meddygol ichi ar gyfer y wlad rydych chi’n mynd iddi
  • Os ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth, gwnewch yn siŵr bod gennych chi gyflenwad digonol i fynd gyda chi a gofynnwch a fedrwch chi gael y feddyginiaeth dramor
  • Gwnewch gais am Gerdyn Iechyd Ewropeaidd o’ch swyddfa bost. Bydd hyn yn sicrhau y byddwch chi’n gallu cael triniaeth os byddwch chi mewn damwain neu os byddwch chi’n sâl tra rydych chi i ffwrdd
  • Efallai y bydd angen ichi gael brechiadau i’ch amddiffyn chi rhag afiechydon mewn gwledydd eraill. Cysylltwch â’ch meddyg am gyngor ar y pigiadau y bydd eu hangen arnoch chi

Eich diogelwch

  • Mae’n bwysig ystyried eich diogelwch pan ydych chi mewn gwlad dramor. Cymerwch gyngor a byddwch yn synhwyrus tra rydych chi i ffwrdd. Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin a pheidiwch â chymryd risgiau os yw’n golygu rhoi eich hunan mewn perygl
  • Gwnewch gymaint o ymchwil â phosib cyn ichi fynd. Prynwch arweinlyfr da i’r wlad, ymchwiliwch i’w chyfreithiau a’i harferion a siaradwch â phobl eraill sydd wedi aros yn y wlad honno
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw’ch pasport, eich dogfennau teithio ac unrhyw ffurflenni pwysig mewn lle diogel
  • Bydd y Swyddfa Dramor yn darparu gwybodaeth a chyngor ar beth i fod yn wyliadwrus ohono tra rydych chi i ffwrdd
  • Mae’r Cyfeirlyfr Worldwise, sy’n cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh, yn darparu gwybodaeth am iechyd a diogelwch ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd y byd. Gwelwch y cyswllt isod am fwy o wybodaeth
  • Un o’r peryglon iechyd mwyaf i deithwyr yw damweiniau ffordd yn hytrach nag afiechydon prin. Mae gan rai gwledydd enw dychrynllyd. Mae’r Gymdeithas Teithio’n Ddiogel ar y Ffordd Ryngwladol (ASIRT) yn cynhyrchu Adroddiadau cynhwysfawr ar Deithio ar y Ffordd sy’n cynnwys dros 130 o wledydd.
  • Byddwch yn ofalus beth rydych chi’n ei fwyta a’i yfed, yn enwedig mewn gwledydd poeth. Os ydych chi mewn gwlad sydd â dŵr tap sy’n anaddas i’w yfed, prynwch ddŵr potel
  • Gwelwch y rhan ar Iechyd a Diogelwch yn adran Gwyliau a Theithio am ragor o wybodaeth

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50