Croeso i Wicid! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Trosedd

Mae yna deimlad cyffredinol yn y DU bod troseddu difrifol wedi cynyddu’n syfrdanol dros y blynyddoedd diweddar, gan gynnwys mygio pobl i gael eu ffonau symudol, gangiau’n ymladd, troseddau drylliau ac ymosodiadau hiliol, a bydd rhai o’r rhain yn arwain at lofruddiaeth neu ddynladdiad. Mewn gwirionedd, mae'r wlad yma'n dal i fod yn gymharol heddychol. Er bod rhai ardaloedd yng Nghymru a’r DU wedi gweld cynnydd mewn troseddau treisgar, nid yw’r ddelwedd mai niferoedd mawr o bobl ifanc yw ffynhonnell y troseddau yma yn wirioneddol fanwl-gywir. Ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl ifanc unrhyw beth i'w wneud â throseddu, ond maen nhw'n llawer fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr trosedd.

Yn yr adran yma gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am rai categorïau o droseddau a chysylltau i wefannau eraill a fydd yn rhoi gwybodaeth fanylach ichi. Mewn rhai achosion, rydym ni hefyd wedi cynnwys llinellau cymorth.

I ddysgu mwy am drosedd ac ystadegau troseddu ewch i’r gwefannau canlynol:

www.thesite.org
Ar y wefan yma ewch i Law ac yna Crime Statistics.

www.youthinformation.com
Ar y wefan yma ewch i Justice and Equality ac yna i Crime.

Trosedd Ieuenctid

Er mwyn cwtogi ar drosedd ieuenctid ac atal pobl ifanc a phlant rhag troseddu, ym 1998 fe sefydlodd y llywodraeth y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn a’r System Cyfiawnder Ieuenctid.

Mae Timau Troseddu Ieuenctid (TTIau) wedi’u sefydlu ym mhob awdurdod lleol. Mae’r rhain yn golygu'r heddlu yn cydweithio ag adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, prawf, addysg ac iechyd wrth gyflenwi gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, atal troseddu a sicrhau bod yna ddewisiadau amgen effeithiol i droseddu ar gyfer pobl ifanc. Mae’r timau yma'n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 ac 18 oed.

Yn ogystal â’r heddlu a’r system gyfiawnder yn delio â phobl ifanc 14 oed a hyn fel oedolion o ran cyfraith droseddol, gan gynnwys byrgleriaeth, troseddau traffig a throseddau treisgar, gallan nhw hefyd roi gorchymyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol (GYG neu ASBO) i bobl ifanc 10 oed a hyn.
Mae’r rhain yn delio ag ymddygiad difrifol ond nid troseddol o reidrwydd. Byddan nhw’n cael eu rhoi i bobl ifanc sy’n aflonyddu ar unrhyw un arall, neu'n achosi braw neu drallod iddyn nhw. Os byddwch chi’n derbyn gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol a chithau wedyn yn mynd â gwneud y pethau rydych chi wedi cael eich gorchymyn yn benodol i beidio â’u gwneud, fe allech chi fynd i’r carchar am hyd at 5 mlynedd.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am faterion sy’n ymwneud â chyfiawnder ieuenctid a throsedd ieuenctid, piciwch i mewn i’r gwefannau canlynol:

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.