Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Trosedd » Twyll
Yn yr Adran Hon
Mae yna gysylltiad rhwng twyll a ffugiad, ac mae’n cynnwys ffugio rhywbeth fel llofnod, pasport neu gerdyn credyd a’i ddefnyddio fel pe bai yn gwbl ddilys. Bydd y gair bathu yn cael ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer copïo/ffugio arian papur.
Mae lladrad syniadau hefyd yn dwyll, felly mae lawrlwytho ffilmiau, cerddoriaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a gemau cyfrifiadurol herwrol yn torri’r gyfraith, a gall y gosb fod yn ddifrifol os cewch chi eich dal. Ni cheir copïo unrhyw eitem sydd â hawlfraint arni oni bai bod y cyhoeddwr yn rhoi ei ganiatâd, ac weithiau bydd yn rhaid talu ffi am hyn.
Os byddwch chi’n dioddef twyll neu ffugiad, gall fod yn drallodus, ac mae yna ffyrdd o’ch amddiffyn eich hun:
Cadwch ddogfennau pwysig gyda chi bob amser, neu gwnewch yn siwr eich bod chi’n gwybod eu bod nhw mewn lle diogel.
Peidiwch â rhannu’ch gwybodaeth bersonol ag unrhyw un arall oni bai eich bod chi’n gwybod yn union pwy ydyn nhw.
Peidiwch byth â dweud eich rhifau PIN wrth unrhyw un, hyd yn oed os byddan nhw’n dweud eu bod nhw’n dod o’ch banc neu’n dweud mai’r heddlu ydyn nhw.
Cymharwch gyfriflenni eich cerdyn neu’ch cyfriflenni banc â derbynebau i wneud yn siwr nad oes unrhyw drafodion arnyn nhw nad oeddech chi’ch hun yn gyfrifol amdanyn nhw.
Defnyddiwch wefannau diogel, adnabyddus yn unig pan fyddwch chi’n siopa ar-lein. Peidiwch â phrynu o wefannau nad ydyn nhw’n nodi rhif ffôn a chyfeiriad post llawn, a gwiriwch y rhain cyn prynu os nad ydych chi’n hollol siwr.
Carpiwch pob dogfen sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol ac ariannol; peidiwch â’u taflu i’r bin heb eu carpio.
Os oes gan eich ffôn symudol rif PIN neu god diogelwch, gwnewch yn siwr eich bod chi’n ei ddefnyddio.
Rhowch nod diogelwch ar eich ffôn symudol.

