Hygyrchedd

MYNEDIAD AT WYBODAETH A CHANLLAWIAU � I ALLU CAEL GWYBODAETH, CYNGOR A CHEFNOGAETH AR YSTOD EANG O FATERION SY�N EFFEITHIO AR EICH BYWYD, PRYD BYNNAG Y BO ARNOCH EI ANGEN.

Eich hawl chi yw gallu cyrchu at wybodaeth ac arweiniad. Addewid barhaus CLIC yw cyflenwi hyn i bobl ifanc ar draws Cymru. Bydd rhoi gwybodaeth i chi am yr holl bynciau a�r materion sy�n effeithio ar eich bywyd, mewn ffyrdd sy�n hawdd eu deall, yn eich helpu chi i wneud y penderfyniadau sydd orau i chi yn eich bywyd.

Mae gwefan CLIC yn anelu at eich helpu i ddeall yn well y ffyrdd y gallwch gyrchu at yr wybodaeth y mae arnoch ei hangen ar ein gwefan, beth bynnag yw lefel eich gallu neu os oes gennych anabledd.

Wrth gofleidio technolegau newydd, rydym hefyd yn anelu at:

  • sicrhau bod defnyddwyr gydag anabledd yn cael mynediad gyda�u meddalwedd neu eu setiadau cyfrifiadurol sydd yno i�w cynorthwyo
  • sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu cyfeirio i�r cyfeiriad iawn i gael gwybodaeth am sut i addasu eu cyfrifiaduron

CAEL EICH CLYWED � EICH HAWL CHI I GAEL Y CYFLE I GAEL EICH CYNNWYS MEWN GWNEUD PENDERFYNIADAU, CYNLLUNIO AC ADOLYGU GWEITHRED A ALLAI EFFEITHIO ARNOCH CHI.

Byddwn yn eich cynnwys yn barhaus yn y gwaith o ddatblygu ein datganiad hygyrchedd fel y gallwch gael llais yn y modd y gallwn wneud gwybodaeth yn fwy hygyrch a dealladwy i chi. Os oes gennych unrhyw adborth neu sylwadau am sut y gallwn wneud hynny, cysylltwch � th�m gwe CLIC yn webteam@wicid.tv.

Byddwn yn adolygu�r ddogfen hon yn rheolaidd i sicrhau ei bod mor gyfoes a defnyddiol � phosibl.

I gael mwy o wybodaeth am hygyrchedd ewch i �My Web, My Way – Accessibility Help� y BBC.

Mae�r safle hwn yn cydymffurfio �r safonau gwe a ddiffiniwyd gan World Wide Web Consortium (W3C) ac yn cydymffurfio � Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd y DU 1995.

Caiff y cynnwys ei gyflwyno fel xHTML wedi strwythuro yn semantig. Gwahanir gwybodaeth a gyflwynir a defnydd deinamig oddi wrth y cynnwys gan ddefnyddio �Cascading Style Sheets� a ffeiliau Javascript y cyfeirir atynt yn allanol.

Oherwydd hyn gellir gweld y safle:

  • gyda delweddau, dalenni arddull, Javascript (neu unrhyw gyfuniad ohonynt) wedi eu hanalluogi,
  • gan ddefnyddio ystod eang o ddyfeisiadau fel ffonau symudol, cyfrifiaduron llaw a darllenwyr sgrin,
  • gan ddefnyddio cyfrifiadur o unrhyw oed a manyleb a all redeg porwr sy�n cydymffurfio � safonau (fel Firefox neu Internet Explorer 7),

a bydd yn parhau yn hygyrch ac yn ddealladwy.

NEWID MAINT Y TESTUN

Mae gwefan Cymru CLIC Online wedi ei chynllunio i adael i chi newid maint y testun a gosodiadau arddangos eraill drwy gosodiadau’r porwr safonol. Mae’r dudalen hon oddi wrth y W3C dangos i chi sut i ddefnyddio rhai o’r lleoliadau hyn porwr arddangos.(cyswllt allanol)

RHAGLENNI DARLLEN A MEDDALWEDD

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae’r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim. Mae’r cysylltiadau hyn wedi’u cynnwys yma er hwylustod i chi. Nid yw CLIC Online yn ardystio unrhyw un o’r rhaglenni hyn. Mae pob cyswllt a nodir yn perthyn i wefannau allanol. Rhaglenni darllen/gweld

Mae rhaglenni darllen a gweld yn caniat�u i chi ddarllen y mathau o ffeiliau sy’n perthyn i raglenni masnachol heb fod angen i chi eu gosod ar eich cyfrifiadur. Gall rhaglenni darllen a gweld fod hyd at 12MB o ran eu maint, ond dim ond unwaith y bydd angen i chi eu lawrlwytho.

Os ydych yn defnyddio technoleg darllen sgrin neu dechnoleg cynorthwyol tebyg i ddarllen ein gwefan, efallai y byddwch yn dymuno defnyddio offeryn trosi ar-lein Adobe er mwyn creu fersiynau html o ddogfennau pdf. Gallwch weld yr offeryn trwy glicio ar yr URL canlynol:

http://www.adobe.com/products/acrobat/access_onlinetools.html(cyswllt allanol)