Gwobrau Sport Relief UnLtd
English version
Os wyt ti rhwng 11-21 oed ac yn meddwl fod gen ti syniad gwych a allai
wneud gwahaniaeth cadarnhaol i dy gymuned, darllena ymlaen!
Gall Gwobrau Sport Relief UnLtd, a gyllidir gan Comic Relief, roi cymorth ac arian i ti i ddefnyddio gweithgareddau chwaraeon, y celfyddydau neu weithgareddau adloniadol i ddatrys gwahaniaethau yn dy gymuned a dod â phobl at ei gilydd drwy brosiect neu ddigwyddiad a gynhelir am un tro yn unig.
Mae’r rhaglen yn rhoi grantiau o rhwng £250 a £10,000 i bobl ifanc sefydlu cynlluniau i ddod â’u cymunedau at ei gilydd drwy chwaraeon. Mae enghreifftiau yn cynnwys timau pêl-droed sy’n croesi gwahanfuriau cymdeithasol a diwylliannol, twrnameintiau criced bychain a chystadlaethau Wii cymunedol.
Mae hyn yn rhoi cyfle i ti gyfarfod pobl newydd, eu tynnu i mewn i weithgareddau na fyddent fel arfer yn cymryd rhan ynddynt a chysylltu â phobl ifanc eraill o wahanol gefndiroedd a ffyrdd o fyw.
Gall hefyd dy helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy fel arweinyddiaeth, cynllunio prosiectau, rheoli cyllid, marchnata a gwerthuso, a all gael effaith gadarnhaol ar dy fywyd a bywydau pobl eraill.
Mae cymorth ar gael gyda llenwi’r ceisiadau. Yna derbynnir y rhain (naill ai fel copïau meddal neu galed) ar ddechrau pob mis i’w hystyried gan grŵp o bobl ifanc o bob rhan o’r DU.
Y dyddiad terfyn nesaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5pm ddydd Gwener 8 Ionawr. Gall ddarganfod mwy o wybodaeth a lawrlwytho’r ffurflenni cais yma.
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau gall gysylltu ag Amanda Everson, Rheolwr Datblygu UnLtd ar gyfer Cymru, ar 02920 484811 neu e-bostia amandaeverson@unltd.org.uk
DELWEDD: vramak


