G?yl Slam Dunk 2012
Cyn i ni gychwyn, mae’n rhaid i mi ddweud mai 30% o fy rhesymau dros ysgrifennu’r erthygl hon yw addysgu a 70% oherwydd y cyffro afreolus rwyf yn ei deimlo.
Mae’n dda gennyf ddweud y bydd tri o fy hoff fandiau yn dod i lwyfan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ddydd Llun nesaf, y 26ain: Taking Back Sunday, Motion City Soundtrack a Say Anything. Bydd sawl perfformiwr ardderchog yn ymuno â’r cewri pop-pync hyn, yn cynnwys Cancer Bats, The Audition a While She Sleeps fel rhan o ?yl Slam Dunk 2012.
Mae’n argoeli’n noson ffrwydrol, felly i’ch annog i ddod i hwyl pethau, dyma grynodeb o’r prif berfformwyr a rhai argymhellion ar gyfer pob artist.
Taking Back Sunday
Sefydlwyd yn 1999, mae’r prif berfformwyr Taking Back Sunday wedi bod yn hyrwyddo’u cyfuniad arbennig hwy o bop, pync, emo a roc ers 13 blynedd, ac nid oes unrhyw awgrym eu bod am arafu pethau. Mae eu halbwm gyntaf, 'Tell All Your Friends' yn glasur o’i math, ac er bod llawer wedi newid ers hynny, maent yn dal yn adnabyddus am eu dywediadau bachog a’u hiwmor sych a ddaeth â theitl ‘arwyr pop pync’ iddynt!
Gwrandewch ar hon:
"MakeDamnSure" - Taking Back Sunday
Motion City Soundtrack
Mae pum aelod gr?p pop pwerus Motion City Soundtrack yn hannu o Minnesota, UDA. Mewn oes o ofid a gwae, mae eu dehongliad pêr o chwalfeydd a methiannau yn chwa o awyr iach. Byddwch yn canu eu caneuon yn eich pen am oriau ar ôl eu clywed, rwy’n addo hynny i chi!
Gwrandewch ar hon:
Everything Is Alright" - Motion City Soundtrack
Say Anything
Dyma fy ffefryn i o blith y perfformwyr: Say Anything. Dan arweiniad y canwr carismataidd Max Bemis, mae Say Anything yn cyfuno hiwmor sych iawn, geiriau hynod bersonol a melodïau rhagorol i greu rhywbeth sy’n unigryw iawn iddynt hwy.
Mae Max Bemis wedi’i alw yn Bob Dylan modern. Gallwch chi benderfynu a yw hynny’n wir neu beidio, ond yn sicr, mae’n werth gwrando arnynt.
Gwrandewch ar hon:
"The Church Channel" - Say Anything gyda Hayley Williams
Cancer Bats
Gwrandewch ar hon:
"Road Sick" - Cancer Bats
While She Sleeps
Gwrandewch ar hon:
"Dead Behind The Eyes" - While She Sleeps
Of Mice And Men
Gwrandewch ar hon:
"Let Live" - Of Mice And Men,/p>
The Audition
Gwrandewch ar hon:
"You've Made Us Conscious" - The Audition
Don Broco
Gwrandewch ar hon:
"Priorities" - Don Broco
Straight Lines
Gwrandewch ar hon:
"Loose Change" - Strait Lines
Mae tocynnau ar gyfer g?yl Slam Dunk yn dal ar gael yma.
Llun gan notsogoodphotography


