Lawnsio WICID.tv
A ‘DA NI OFF!
Ar ôl wythnosau o baratoi a chyffro oedd yma o'r diwedd! Ond cyn gynted ag oedd yma, roedd hi ‘di mynd. Ychydig fel Nadolig! Ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod llawn hwyl allan. (Neu diwrnod wicid fel oedd Cat, Rhiannon a Hannah yn cadw dweud!)
Treulio'n ni’r bore yn cyfweld a phobl, gymryd lluniau, yn cofrestru pobl ar safle ac yn sgwrsio gyda phobl a oedd yno – roedd cael yr holl adborth gan blant ac oedolion ar draws y radar yn unig yn dangos pa mor wych ac yn ddefnyddiol fydd y lle hwn yn pan fyddwn ni yn full swing! Os oeddech chi yn un o’r rhai a wnaeth arwyddo i fyny ac nad ydych wedi bod yn ôl eto, rydym yn gwybod pwy ydych chi. Felly watch out, ma gyda ni lygaid ym mhobman!
Bu lansio WICID.tv yn rhan o'r digwyddiad " Ynglyn â CHIfainc" ym Mhrifysgol Morgannwg i roi gwbod i ni fel bobl ifanc beth sydd ar gael o ddigwyddiadau yn yr ardal i gefnogaeth gyda stondinau gan yr Heddlu, gweithwyr Ieuenctid, camddefnydd cyffuriau ag alcohol a oh Ie, Guitar Hero! (Dim ond neges bach i bwy bynnag ennillodd y gystadleuaeth, DA IAWN rydym yn disgwyl reiview o’r gig ar ôl i chi wedi bod!)
Fel rhan o'r Tîm Golygyddol, cefais y cyfle i gofnodi rhai o'r fideo’s y bydd yn cael ei ddangos ar WICID.tv yn eich ardal chi yn fuan! Ond doedd o ddim yn unrhyw hen camera llaw, cefais i’r kit cyfan! Camera fawr, fluffy mic a set o glustffonau! STOKED. Fel rhan o’r tim cefais i’r cyfle i recordio Cyfarfod y Cyngor lle bu pobl ifanc o ysgolion lleol (Bryn Celynnog, Y Pant a’r Ddraenen Wen) yn rhoi cwestiynau i'r Cyngor am benderfyniadau diweddar o gymorth gyrfaoedd i golegau Chweched - i gyd yn rhan o'r arolwg a gynhaliwyd ble tyfodd gwreiddiau WICID. Mae hyn yn golygu newid i ni bobl ifanc yn yr ardal!
Wel, dyna ni! Dwi'n sicr y bydd gweddill y tîm yn rhoi eu cyfrifon am y diwrnod a'r hwyl trwy gydol y dydd! Dwi’n gobeithio wnaeth pawb mwynhau'r digwyddiad ac rydych yn parhau i fwynhau WICID. Unrhyw awgrymiadau, anfonwch nhw i mewn! Rhys.



