Mwy o Arian i Gerddoriaeth Cymraeg?
Os wyt ti yn ysgrifennu caneuon, yn gyfansoddwr neu yn gyhoeddwr yna efallai bydd gen ti ddiddordeb mewn adroddiad newydd wedi cael ei rhyddhau gan Brifysgol Bangor.
Mae’r adroddiad ‘Adeiladu Strategaeth Busnes Newydd ar gyfer y Diwydiant Cerdd yng Nghymru’ yn edrych ar sut mae breindaliadau yn cael eu talu i artistiaid Cymraeg pan mae eu caneuon yn cael eu chwarae yn gyhoeddus ac yn awgrymu mai’r peth gorau fyddai cael Asiantaeth Trwyddedu Cymraeg newydd.
Yn y diwydiant cerddoriaeth iaith Gymraeg nid oes llawer o arian yn cael ei wneud o werthiant CDs gan fod y farchnad gymaint llai ac felly mae artistiaid yn dibynnu ar freindaliadau sydd yn cael ei dalu bob tro mae eu cân yn cael ei chwarae ar y radio, teledu, y rhyngrwyd, mannau cyfarfod ac yn y blaen.
Mae ysgrifenwyr caneuon, cyfansoddwyr a chyhoeddwyr yn ymuno gyda’r ‘Performing Rights Society (PRS) for Music’ ac maen nhw yn casglu ac yn talu breindaliadau i’w haelodau pan mae eu cerddoriaeth yn cael ei chwarae yn gyhoeddus. Maen nhw’n sefydliad ddi-broffit sydd yn cymryd canran fach i dalu costau.
Mae’r adroddiad newydd yma yn dweud nad ydy’r PRS yn gweithio yn effeithiol i’r aelodau yng Nghymru gan fod y diwydiant mor wahanol i rannau eraill o Brydain. Maen nhw yn dweud fod y diwydiant yng Nghymru o dan fygythiad gan fod toriadau mawr wedi ei wneud i faint o freindaliadau hawlfraint sydd wedi ei dalu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn 2007 newidiwyd y ffordd roedd y PRS yn cyfri’r raddfa breindaliadau ac mae’r adroddiad yn rhoi ffigyrau brawychus, gyda gostyngiadau yn gallu bod mor uchel â 84%. Os oedd cyfansoddwr yn ennill £25,000 yn 2006 erbyn 2010 bydd hyn yn gostwng i £4,250. Os ydy cyfansoddwr yn ennill £5,000 gostyngai hyn i £850.
Os ydym yn edrych ar y ffigyrau hyn o safbwynt cyhoeddwyr/cwmnïau recordio yng Nghymru yna gall breindaliadau o £400,000 yn 2007 ostwng i £64,000 yn 2010, neu freindaliadau o £40,000 yn disgyn i £6,400. Maent yn meddwl fod toriadau fel hyn yn sicr o arwain at golli swyddi ac efallai hyd yn oed diweddu rhai cwmnïau.
Mae’r raddfa'r munud mae Radio Cymru yn talu wedi gostwng hefyd pan benderfynodd y PRS ailwampio'r taliadau o 89c yn 2006 i 66c yn 2009, erbyn 2010 bydd hyn yn 49c. Er y newidiadau mae rhai gorsafoedd radio fel BBC Asian Network wedi codi o 74c i £2. Y rheswm am hyn ydy eu bod ar y Band Clywedol Digidol (DAB) a dydy Radio Cymru a Radio Wales ddim. Os byddent yn mynd drosodd i DAB yna golygai hyn gall taliadau'r funud fynd fyny i £4.71 gan ei fod yn cyrraedd mwy o bobl. Mae’r adroddiad yn dweud fod rhaid i’r pwysau ddod oddi wrth wleidyddion o fewn y Cynulliad i wneud y newid hwn.
Roedd rhan o’r ymchwil hwn yn holiadur ar-lein i gael ymateb pobl sydd yn gysylltiedig â’r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg. Dangosai’r canlyniadau fod 86% efo diddordeb mewn ymuno gyda gwasanaeth casglu gwahanol.
Mae’r adroddiad yn awgrymu y dylai fod cefnogaeth ariannol gan y llywodraeth i edrych os byddai Cymdeithas Breindaliadau Cerddoriaeth Cymraeg yn gweithio. Maen nhw yn dweud nad ydy’r diwydiant cerddorol Cymraeg erioed wedi cael cefnogaeth ariannol fel diwylliannau Cymraeg eu hiaith eraill fel llenyddiaeth a barddoniaeth. Maent hefyd yn dweud fod rhaid gwneud mwy i hyrwyddo cerddoriaeth Cymraeg fel ei fod yn gallu cael ei glywed mewn llefydd fel siopau, archfarchnadoedd, caffis, tai bwyta, cystadlaethau chwaraeon, twristiaeth, canolfannau celf, gwyliau llenyddol, digwyddiadau diwylliannol, ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Maent hefyd yn awgrymu y dylai sefydliadau cerddoriaeth ymuno i sefydlu Rhwydwaith Cerddoriaeth Byw yng Nghymru. Byddai hyn yn casglu rhestr o lefydd perfformio a chalendr o gigs fel bod cynulleidfaoedd yn gweld yn union beth sydd yn mynd ymlaen mewn lle penodol.
Os hoffet weld copi o’r adroddiad llawn yna mae ar gael ar eu gwefan.
DELWEDD: Jsome1



