Annwyl Dad…
Mae Sul y Tadau yn ddathliad sydd yn parchu tadau ac yn dathlu tadolaeth, rhwymau tadol, a'r dylanwad o dadau mewn cymdeithas.
I ddathlu Sul y Tadau, mae'r tîm Golygyddol Wicid wedi ysgrifennu llythyrau i'w tadau.
Pam ddim ysgrifennu llythyr i dy dad neu ffigwr dadol di i adael iddynt wybod faint maent yn golygu i ti?
Annwyl Dadi,
Dwi eisiau i ti wybod fy mod yn dy garu di.
Er nad ydym erioed wedi defnyddio'r gair yna mae'r ddau ohonom yn gwybod fod y teimlad yn bresennol.
Dwi eisiau dweud fy mod i'n falch iawn ohonot ti a dwi'n edmygu'r dyn rwyt ti.
Dwi yn pwy ydw i oherwydd yr addysg ti wedi'i roi i mi. Dwi'n meddwl mai dyna yw'r peth pwysicaf gall merch etifeddu gan ei thad.
Tad, roeddet ti yn wastad ger fy ochor, yn cefnogi fi ac yn rhoi cryfder i mi, ond nes i erioed ddweud wrthyt ba mor bwysig wyt ti a faint o gariad sydd gen i tuag atat. Felly ar y diwrnod arbennig yma dwi eisiau i ti wybod fy mod yn dy garu di llawer iawn.
Andreia Pereira
Annwyl Tad,
Dwi eisiau i ti wybod fy mod i yn wirioneddol edmygu ti fel dyn, fel gŵr ac wrth gwrs fel tad!
Yr holl flynyddoedd hyn dwi wedi bod yn gwylio ti yn deffro'n fuan yn y bore i fynd i'r gwaith ac yn dod yn ôl yn hwyr yn y nos ond y peth od ydy nad ydw i erioed wedi clywed ti'n cwyno am y peth!
Roeddet ti yn wastad yn dangos i ni mai ein cysur a'n sefydlogrwydd oedd yn flaenoriaeth i ti ond ti hefyd wedi cyflwyno ni i'r pwysigrwydd o werthoedd fel gonestrwydd ac urddas.
Dysgais i ni sut i wahaniaethu rhwng beth sydd yn wirioneddol bwysig a beth sydd yn ormodol, ond i mi'r peth pwysicaf ti wedi dangos i ni bob dydd ydy faint rwyt ti'n caru ac yn pryderu, yn rhoi beth dwi'n feddwl ydy'r esiampl gorau o sut gall person fod yn grêt yn ei symlrwydd ei hun.
Mae hyn i gyd i ddweud wrthyt ti Mr Bernardo Vaz:
Dwi'n caru ti dadi!!!
Maria Vaz
Dadi,
Dwi'n defnyddio'r diwrnod bendigedig hwn i ddiolch i ti yn anfeidraidd am yr holl gariad ac anwyldeb, ac am yr holl amddiffyn a diogelwch ti wedi'i roi i mi trwy gydol fy mywyd, yn ogystal â'r addysg a'r gwerthoedd ardderchog, gan fy mod i yn pwy ydw i heddiw diolch i ti a mam!
Dydd Sul y Tadau hapus!
Llawer o swsys llawn cariad
Dy Ines di
Ines Semedo
Annwyl Dad
Dwi jest eisiau dweud diolch am yr holl gymorth ti wedi'i roi i mi dros y blynyddoedd, a bod yr hyder ti wedi'i gael ynddo i a'r penderfyniadau dwi wedi'i wneud. Gyda'r holl newidiadau sydd wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf dwi'n falch fy mod i'n gwybod dy fod di yno i siarad ag ef ac i helpu fi – hyd yn oed os mai i ddweud "fe ddwedes i do!" pan mae'r penderfyniadau dwi wedi'i wneud ddim wedi bod y rhai gorau! Sul y Tadau hapus!
Rhys Taylor
Annwyl Dad
Mae hwn yn llythyr i ti Dad ar gyfer Sul y Tadau ac i ddweud diolch. Ond yn gyntaf hoffwn ddweud mai ti ydy'r person sydd yn adnabod fi orau. Ti'n gwybod beth dwi'n hoffi ac yn fwy na hynny beth dwi ddim yn hoffi. Ti'n gwneud i mi chwerthin a gwenu hyd yn oed pan fydd yr awyr yn llwyd. Dwi'n gwybod beth dwi'n gwybod heddiw oherwydd ti, mae'r ysgol wedi dysgu y rhan fwyaf o bethau i mi ond ti ydy'r athro gorau gall unrhyw ferch gael. Efallai ein bod yn anghytuno ar rai pethau ond un peth rydym yn cytuno arno ydy fy mod i yn iawn bob tro. Hoffwn ddiolch i ti am yr holl bethau ti wedi'i wneud i mi a'r pethau ti yn ei wneud, ti yn wastad yn gymorth ac yn annog fi yn beth bynnag dwi'n wneud. Diolch.
Hannah Griffiths
Annwyl Dad,
Dwi ddim yn meddwl dy fod yn gwybod faint dwi'n dy garu di. Ti ydy'r tad mwyaf anhygoel gall plentyn (neu oedolyn, gan fod Angie a Luke yn oedolion) byth gael. Ti'n rhy ffeind i mi a ti bob tro yno i roi cyngor i mi ac i arwain fi yn y cyfeiriad cywir. Dwi wrth fy modd gyda'r ffaith ein bod yn gallu siarad am oriau am unrhyw beth a phopeth. Pan fydd fy ffrindiau mewn tymer ddrwg ac yn dweud faint maent yn "casáu eu tad"… wel, dwi ddim yn meddwl gallwn i byth ddweud fy mod yn casáu ti gan dy fod di bob tro yn rhoi i mi,
Dwi'n gwybod dy fod di'n ymddiheuro trwy'r adeg pan fydd pethau yn mynd o'i le – fel y trychineb ym Mharis llynedd – wel, fel dywedais o'r blaen, dwi'n maddau i ti. Weithiau mae pethau yn mynd yn chwithig ond dyna yw bywyd, dad a dwi ddim yn rhoi bai arnat amdano. Hyd yn oed yr adeg pan roddais drwyn gwaed i mi ar ddamwain! Nid dy fai di oedd hynna! (Oedd, roedd rhaid i mi sôn am hynny er mwyn dy brofocio. Ti'n gwybod fy mod i'n caru ti go iawn ac wedi maddau i ti am hynna hefyd!)
Gan ei bod hi'n Sul y Tadau, dwi'n meddwl byddai'n gwell cyfaddef i rywbeth. Dy synnwyr hiwmor cawslyd di. Dwi'n cwyno amdano lawer, dwi'n gwybod. Wel, yn gyfrinachol, dwi wrth fy modd efo fo! Dyma sydd yn gwneud ti yn pwy wyt ti ac o leiaf ti ddim yn ddiflas fel tadau eraill! Dwi'n gwybod nad wyt ti fel y mwyafrif o dadau oherwydd y ffordd ti'n edrych a beth ti'n hoffi, ond dyma sydd yn gwneud ti'n arbennig dad. Mae'n gwneud ti yn dad FI (iawn, iawn, EIN dad os dwi'n cyfri Angie a Luke) a dwi ddim eisiau i ti newid am y byd.
Dwi'n caru ti dad a gobeithio dy fod di'n gwybod hynna. Ti yn anhygoel a dwi byth eisiau colli ti.
Jazmin Williams oxoxoxo
Tudalen Bod yn Dad



