Welcome to Wicid! Please sign up or login

Annwyl Fyd – Cenedligrwydd

Posted by CrazyDistortion from Rhondda Cynon Taff - Published on 24/01/2011 at 11:30
1 comments » - Tagged as Creative Writing, Education, People, Topical

  • fflag

English version

Annwyl Fyd,

Os nad oeddet ti’n gwybod, dwi’n Gymro. Mae’n wir. Mae gen i dystysgrif geni a phopeth.

Nid yn unig hynny, cefais fy ngeni i mewn i deulu oedd yn siarad Cymraeg.

Wel, dwi’n dweud hynny, dwi’n golygu cefais fy ngeni i mewn i deulu penderfynodd rhoi eu plant i mewn i ysgol Cymraeg. A dwi’n falch fod gen i’r gallu i siarad Cymraeg.

Ond mae yna rywbeth dwi ddim yn ddeall yn iawn. Pam fod cymaint o gasineb yn erbyn pobl cafodd eu geni mewn gwlad wahanol?

Mae’n deg dweud fod, fel fi, ar ryw gyfnod mewn amser, cefais di dy eni hefyd. Er gallaf fod yn o leiaf saithdeg y cant yn bositif nad oes neb ar wyneb y ddaear efo dewis i gael eu geni lle cawsant.

Ni allaf gofio, wythnos cyn i mi gael fy ngeni, gyrru neges i ymennydd fy mam trwy’r llinyn bogail yn dweud “dyma ni, cariad, gei di ollwng fi'n fan hyn”.

Na, nid oes neb wedi gwneud hynny. Os byddai’r gallu hwn gennym, yna byddai pawb yn byw bywyd gwahanol i beth rydym nawr. Ond nid yw’n gwneud synnwyr i fi pan fydd rhywun o wlad benodol, gad i ni ddefnyddio Prydain fel esiampl, yn rhefru am sut na ddylai bobl estron fod yma.

“Y diawl Pwyliaid yna”, perchennog ystād dosbarth uchaf, efallai o’r enw Sebastian, yn cychwyn. “Damnia, pam fod rhaid i ni agor y drws i Ewrop gyfan? Pam fod rhaid i’r Pwyliaid uffern yna ddod i’n gwlad ni, yn cymryd ein swyddi ni?”

Mae Edward, enw arall posib i berson arall posib gallai o bosib fod yn berchennog ystād mewn lle ofnadwy o gain ym Mhrydain, gall o bosib ymateb i’r sylwad posib yna gyda’r Sebastian realistig o bosib gyda’r canlynol. O bosib.

“A ni fyddent yn stopio gyda’r Pwyliaid, Seb”, mae Edward yn cael caniatād i alw Sebastian gyda sillaf gyntaf ei enw. Edward ydy tad Sebastian o bosib, wedi’r cwbl.

“Seb, gwranda arnaf i. Nid y Pwyliaid yn unig sydd yn dod yma, chwaith. Mae yna eraill. Ac i be? I ddwyn swyddi oddi wrth bobl Brydeinig sydd yn gweithio’n galed ac i wneud y wlad wych yma yn uffern.”

Mae’r gwas, fydd yn cael ei alw’n Jeeves gan na fedraf feddwl am enw gwell am was, a hefyd yn ddyn Pwylaidd cyfrinachol ei hun, yn cwestiynu pam eu bod yn meddwl fel hyn. “Pam fod chi’n meddwl fel hyn, syrs?” gofynnai. Mae newydd gerdded i mewn i’r rhefru.

“Beth? Dyna wyt ti eisiau, Jeeves? Wyt ti eisiau enwau estron i gyd, heb allu i ddarllen nac ysgrifennu’r iaith Saesneg gwych, gerdded ein strydoedd? Dyna wyt ti eisiau? Wyt ti’n si?r hoffet ti gael rhyw Almaenwr yn cerdded i mewn i Brydain fel petai’r Ail Ryfel Byd erioed wedi digwydd? Dyna wyt ti eisiau? Nid dyma ydw i eisiau. Dwi ddim eisiau unrhyw bobl estron yn dod yma, yn dwyn ein swyddi, yn bwyta ein bwyd, yn cysgu yn ein gwlāu.

“Ac os fyddi di byth yn rheoli’r wlad wych hwn rhyw ddydd, Jeeves, ac yn caniatįu i ddrysau Prydain cael eu hagor i bawb, bydd y bobl afreolus yn difrodi'r ystād gan-acr, yn bwyta'r ffesant, yn treisio fy Mildrid, ac yna fe fyddi di allan o waith. Wyt ti’n deall?”

Gwiriondeb

Beth dwi'n feddwl ydy, dydy pobl fel hyn ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i mi. Dydy’r ffaith fod pobl estron yn y wlad ddim yn golygu ei fod wedi mynd i uffern arnom. Pam na allet ddeall hynny? Nid yn unig hynny, dwi’n meddwl ei fod yn eithaf doniol pan mae Americanwyr yn meddwl yr un ffordd.

Nid ydynt eisiau pobl estron yn eu gwlad? Wel, yn dechnegol, na ddylai pob Americanwr symud, gan eu bod i gyd yn hynafiad o fewnfudwyr?

Ar drywydd gwahanol, pam fod pobl yn casįu tīm chwaraeon gwlad arall, am eu bod nhw o wlad arall?

Esiampl dda o hyn ydy’r Cwpan Byd FIFA diweddar. Pan roedd Lloegr yn chwarae roedd tipyn o sylwadau gan cyd-Gymru yn dweud eu bod eisiau i rywun ond Lloegr ennill y gźm. Am ba bwrpas? Am mai Lloegr oedd o.

Dim oherwydd bod y tīm yn ddiffyg yr awydd i ennill, na’r ffaith fod y canolwyr yn ddiffyg sylwedd, na. Am fod y chwaraewyr i gyd oedd yn chwarae i Loegr yn, yn rhyfeddol, Saesneg.

Ble mae’r rhesymeg yn hynny? Iawn, doeddwn i ddim eisiau i Loegr ennill y Cwpan Byd chwaith, ond dim ond am fod fi'n teimlo fod gan yr Almaen ochr gwell. Ond gallaf gyfaddef fod Lloegr yn dīm gweddus ac, os byddent ar eu gorau, wedi gallu mynd yn bellach yn y gystadleuaeth.

Dyna ddigon am y cwestiwn ‘pam fod pob gwlad efo’r potensial i gasįu ei gilydd?’

Fel soniais cynt, dwi’n Gymro. Nid yn unig hynny, dwi’n gallu siarad yr iaith hyfryd hefyd. Mae’n wir.

Efallai bod pob siaradwr Cymraeg arall yn edrych yn boenus pan glywant fi'n siarad Cymraeg. Dyma sut fydda i'n teimlo wrth geisio'i siarad beth bynnag. Gan nad yw fy ngallu yn yr iaith ddim mor safonol ag y hoffwn, dwi’n teimlo fod pawb yn barnu fi am fy niffyg sgiliau.

Gallaf ddarllen o’n iawn, dwi’n gallu ei ddeall yn berffaith. Ond mae yna un peth na allaf wneud yn hyderus, a dyna yw siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Mae’n teimlo fel fy mod yn cael fy marnu pob tro dwi’n siarad Cymraeg. Nid oes gen i syniad pam. Dwi bob tro’n tybio fod y person dwi’n siarad Cymraeg iddo, pwy bynnag ydynt, yn meddwl fy mod yn llofruddio’r iaith Gymraeg. Os ydy rhywun yn gwybod pam, atebion yn yr adran sylwadau, plīs.

Dwi wedi ysgrifennu llawer o erthyglau i Wicid, gyda rhai yn mynd ar CLIC [gan gynnwys hwn, woop! – gol cenedlaethol]. Nid yw’r un o’r rhain yn Gymraeg. Maen nhw i gyd yn Saesneg. Hyd yn oed pam mae’r erthyglau hyn yn cael eu cyfieithu i Gymraeg, dim fi ydy hwnnw. Ac, am ryw reswm od, dwi ddim yn hapus gyda hyn.

Hoffwn yn fawr iawn os byddwn yn gallu ysgrifennu yn Gymraeg, wir ar. Ond gwae fi, mae fy sgiliau i roi brawddegau at ei gilydd yng Nghymraeg yn dirywio pob dydd, ac nid yw’n helpu fy mod mewn cwrs yn y brifysgol lle nad oes neb yn gwybod Cymraeg. Damnia fo ac ati.

Diolch i ti, fyd.

Erthyglau Annwyl Fyd gorffennol Crazy Distortion…

Annwyl Fyd – Guitar Hero

Annwyl Fyd - Marwolaeth

Annwyl Fyd – Alcohol A Chyffuriau

Annwyl Fyd – Duw

Annwyl Fyd – Bywyd Modern

1 CommentPost a comment

CLICtania

CLICtania

Commented 30 months ago - 30th November 2010 - 10:46am

Dwi bob amser yn mwynhau darllen yr erthyglau yma. Da iawn. Ti'n gofyn am sylwadau felly ga' i gynnig rhywbeth?

Fel rhywun sydd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf dwi'n gwybod fy mod i yn bendant, a phawb dwi'n adnabod, wrth ein boddau pam fydd rhywun yn gwneud ymdrech i siarad yr iaith, a byddwn ni byth yn beirniadu rhywun os nad yw'r safon yn berffaith. Dwi'n adnabod llawer o bobl yr un peth a ti hefyd, rhai sydd ofn siarad Cymraeg o flaen eraill am yr un rheswm (ond yn gallu gwneud yn wych pam maent wedi cael ychydig o 'dutch courage'!).

Yn bersonol dwi'n meddwl ei fod yn fwy o fater o hyder na fod pobl yn barnu, fel unrhyw beth ti ddim yn sicr amdano mae dy hyder yn isel wrth ei geisio. Ond y ffordd o ddod dros hyn ydy drwy wneud yn fwy aml. Os wyt ti'n dysgu i gerdded 'tightrope' ti ddim yn mynd i fod yn hyderus iawn ac efallai ddim eisiau gwneud y tro cyntaf, ond y fwy aml rwyt ti'n gwneud hyn yr haws mae'n dod i ti. (Cymhariaeth od dwi'n gwybod!!!)

Dwi'n deall fod hyn yn anodd i ti os nad wyt ti'n cymysgu gyda phobl sydd yn siarad yr iaith yn y Brifysgol. Dwi ddim yn gwybod i ba Brifysgol ti'n mynd ond dwi'n gwybod pam roeddwn i ym Mhrifysgol Bangor roedd opsiwn o wneud modiwl Gloywi'r Iaith. Ydy hyn ar gael yn dy Brifysgol di? Efallai byddai hyn yn gyfle i ti gael mwy o hyder yn defnyddio'r iaith.

Dwi'n falch fod gen ti falchder yn gallu siarad yr iaith a gobeithio un dydd bydd gen ti'r hyder i'w ddefnyddio mwy heb deimlo bod pobl yn dy farnu.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.