Annwyl Fyd: Trolio
Annwyl Fyd,
Dal am funud, am yr un yma dwi'n mynd i newid pethau ychydig…
Annwyl cyfryngau hen (rhaglenni teledu a radio).
Fedrwch chi os gwelwch yn dda stopio galw popeth drwg ar y rhyngrwyd yn "trolio" (trolling)?
Gad i mi roi esiampl i chi.
Heddiw, sef 27 Mawrth 2012, daeth y newyddion fod dyn 21 oed o Bontypridd wedi cael ei garcharu am 56 diwrnod am tweetio hiliol yn erbyn y bêl droediwr Fabrice Muamba ar ôl iddo ddioddef o broblemau gyda'i galon yn ystod gêm bêl droed.
Wrth siarad am hyn, dywedodd y gohebydd newyddion fod hwn yn ffurf arall o drolio.
Ydych chi'n deall pa mor anwybodus rydych chi'n ymddangos? Nid trolio ydy hyn, bwlio ydy ef. Bwlio a hiliaeth.
Dwi hefyd yn cofio sioe, ble mae'r cyflwynydd Richard Bacon yn ceisio chwilio am ei "drol" rhyngrwyd, sydd yn gyrru tweets iddo'n barhaol am chwalu ef yn racs. Eto, nid trolio ydy hyn, ond bwlio.
Dwi'n teimlo fod hyn yn annheg ofnadwy i labelu unrhyw ffurf o fwlio – fel hiliaeth, rhagfarn rhyw, homoffobia ac ati – fel trolio, pan fod hyn yn bell iawn o'r gwir.
Dwi'n cofio gweld trolio ar CLIC, ar yr erthygl Ffotograffydd Ifanc y Flwyddyn, ar y diwedd ble mae'r gân Never Gonna Give You Up gan Rick Astley. Ac mae'r rhai sydd wedi byw ar y rhyngrwyd yn gwybod mai'r gân yma ydy un o'r ffurfiau mwyaf adnabyddus o drolio. Ydy'r gân yma yn bwlio? Nac ydy, ac os ydy rhywun yn meddwl hynny, yna mae'n rhaid i chi stopio darllen y Daily Mail.
Dyma esiampl berffaith. Gad i ni ddweud fod myfyriwr Affricanaidd wedi gadael ei fflat i fynd i'w ddarlith, ond mae wedi anghofio cloi ei ystafell. Mae ei gyd denantiaid yn cael syniad. Tair awr wedyn, mae'r myfyriwr yn dychwelyd ac yn darganfod fod popeth wedi'i lapio mewn ffoil.
Ail esiampl, yr un myfyriwr, yr un sefyllfa. Mae'n dod yn ôl o'i ddarlith a'r tro hwn mae'r llofft wedi'i orchuddio gyda negeseuon o gasineb. Negeseuon fel "cer yn ôl i wlad dy hun" ac ati dros y wal mewn beiro lliw gwaed.
Pa esiampl ydy ffurf o fwlio? Yr ail esiampl, gan ei fod yn ffurf amlwg o hiliaeth.
Mae'r cyntaf, ta waeth sut ti'n ceisio edrych arno, yn ddim mwy nag ychydig o hwyl ddiniwed. Cafodd dim ei ddwyn, dim ei falu, dim ond gorchuddio efo ffoil. Dydy hyn, fy ffrindiau, ddim yn bwlio. Mae hyn yn ffurf o drolio.
Dyma fy niffiniad i am y ddau. Efallai nad wyt ti'n cytuno ond dwi'n si?r byddi di'n darganfod dy lais rhywsut.
Trolio ydy ble mae pawb – bod hyn y troliwr, yr un sydd yn cael ei drolio a phawb arall – yn gallu gweld mai jôc ydyw heb ddim malais o gwbl. Math o dric bach.
Bwlio ydy pan fydd rhywun yn fwriadol yn ceisio dod a rhywun i lawr, am unrhyw reswm. Mae'r bwlio yn ceisio difetha hyder person drwy ddweud pethau niweidiol am hiliaeth, oed, taldra, rhyw, tarddiad, crefydd, beth bynnag.
Mae gwahaniaeth, a cyn gynted a bydd cyflwynwyr BBC ac ITV yn sylweddoli hyn, y mwy sydyn gallai pawb sydd ddim yn gyfarwydd iawn gyda'r rhyngrwyd ddod i sylweddoli nad ydyw'n llawn casineb, bwlio ac ati. Dwi ddim yn wirion, dwi'n gwybod bod casineb, bwlio ac ati ar y rhyngrwyd, ond dydy trolio a bwlio ddim yn debyg i'w gilydd.
Mae'r rhai sydd yn cyflwyno'r newyddion fel hyn, ac yn honni fod hyn yn ffurf o drolio yn defnyddio hyn fel ffactor ofni. Ffordd o gael pobl i gasglu at ei gilydd i greu casineb yn erbyn gr?p o bobl.
Ar Wicipedia, mae'n dweud bod "y cyfryngau torfol wedi defnyddio trol i ddisgrifio 'person sydd yn anharddu gwefannau teyrnged Rhyngrwyd gyda'r bwriad o achosi gofid i deuluoedd'".
Nid digwyddiadau trol ydy hyn. Digwyddiadau bwlio ydy'r rhain. Bwli gwan sydd angen dod o hyd i rywbeth gwell yn eu bywydau yn hytrach na difetha bywyd rhywun arall mewn ffordd mor pathetig.
Dwi'n ymddiheuro fod hwn braidd yn gymysglyd ar ran cynnwys, ond mae'n rhaid dweud. Ac ia, dwi'n gwybod, dim ond fy marn i ydy hyn.
Dwi'n diolch i ti fyd. Fe ddiolchaf y cyfryngau torfol pan fydda nhw'n stopio galw bwlio yn 'trolio'.



