Dweud O Fel Y Mae
Am ddiwrnod oedd dydd Gwener 19 Tachwedd, gyda chymaint yn digwydd.
O Blant Mewn Angen, i’r gêm Cymru yn erbyn Fiji, y ffilm Harry Potter newydd a lansiad y pecyn cymorth Dwedwch Hi Fel Y Mae sydd wedi’i greu gan y Cynulliad.
Mae Wicid wedi bod yn rhan o greu’r pecyn cymorth Dwedwch Hi Fel Y Mae drwy roi cyngor ar sut dylai’r pecyn edrych a’r cynnwys.
Pwrpas y pecyn ydy i ddangos i oedolion ifanc sut gallent ddylanwadu’r cyfryngau drwy bortreadu eu hunain mewn ffordd bositif.
Roedd hi’n brysur iawn yn y ddinas ac yn y Cynulliad, gyda phlant ysgol yn meddiannu dathliadau pen blwydd 21 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Cychwynnodd y lansiad yn y Cynulliad am 10yb ac yn gorffen am 3:30yp, ac am ddiwrnod gawsant. Roedd yr awyrgylch yn wych, gyda phawb yn mwynhau.
Roedd perfformiadau ffantastig gan bobl ifanc yn y digwyddiad, i gyd yn adlonni’r gynulleidfa, gan gynnwys band dur Ysgol Gynradd Oakfield, roddodd perfformiad gwych.
Cawsom berfformiadau hefyd gan y grŵp dawns Funk Fatale, Côr Y Cwm, myfyrwyr celfyddydau perfformio o Goleg Castell-Nedd Port Talbot, a pherfformiad acwstig gan Paul Magee ar y gitâr.
Roedd dau ŵr gwadd arbennig yn y digwyddiad. Dirprwy Weinidog Dros Blant, Huw Lewis, oedd y cyntaf, a gyflwynodd y Gwobrau CLIC a rhoi araith am sut y dylai pobl ifanc gael eu cyflwyno yn y cyfryngau mewn ffordd bositif, yn hytrach nag bob tro yn pwysleisio ar y portreadau negyddol lleiafrifol.
Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, oedd y gŵr gwadd arbennig arall, fe gymerodd at y deciau DJ yn arbennig a rhoi tro da ar wneud curiad. Dim y deciau yn unig oedd yn gwneud sŵn, fe ofynnodd y Comisiynydd i’r plant i gyd weiddi nerth eu llais i sicrhau fod Gweinidogion y Cynulliad yn eu clywed nhw. Ac fe glywsant yn bendant! Da iawn!
Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr ymhob ffordd. Y neges mae'n rhaid i'r cyfryngau glywed nawr ydy bod angen sicrhau eu bod yn adrodd ar lwyddiannau’r bobl ifanc, a rhoi ffydd ynddon ni fel yr ydym yn haeddu.
Paid anghofio DWEUD O FEL Y MAE!





