Dydd Gŵyl Dewi Hapus!
Roedd gweithgareddau yn cael eu cynnal ar draws Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi heddiw (1/3/10).
Yng Nghaerdydd y flwyddyn yma wnaeth Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gŵyl Dewi blodeuo’n fwy lliwgar a bywiog nag erioed, eleni oedd y seithfed tro i’r orymdaith gael ei chynnal.
Roedd yr orymdaith ganol dydd wedi casglu at ei gilydd ysgolion Gynradd ac Uwchradd, bandiau, perfformwyr ac unigolion.
Yn rhan o’r orymdaith hefyd oedd Mr Urdd. Wnaeth Mr Urdd mynd am dro o gwmpas y dref a chwrdd â phlant ac i hysbysebu’r ddiwrnod. Mae Mr Urdd yn symbol o Urdd Gobaith Cymru.
Gyda Mr Urdd oedd aelod Urdd Gobaith Cymru, Eleri, “mae’r orymdaith heddiw yn wych ar gyfer pobl ifanc cymryd rhan mewn er mwyn dathlu ei etifeddiaeth”
Nod y diwrnod oedd dathlu ein Cymreictod mewn ffordd llawn egni a chyffroes.
Roedd yr orymdaith wedi cael ei chefnogi gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth y Cynulliad.
Roedd o’n wych i weld shwt gymaint o bobl yn cymryd rhan yn y dydd, a chlywed yr iaith Cymraeg yn cael ei siarad ar y stryd.
Os oeddech chi’n rhan o’r orymdaith gobeithio eich bod wedi mwynhau ac wedi cael Diwrnod dydd Gŵyl Dewi hapus!
Gan Hannah Griffiths




1 Comment – Post a comment
Syhr
Commented 6 months ago - 3rd March 2010 - 19:16pm
Oedd o'n ddiwrnod hwyl iawn! Roedd clywed cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad yn dangos bod nifer o bobl ar draws De Cymru YN siarad Cymraeg. Roedd gweld cymaint o blant ifanc hefyd yn cymryd rhan ac yn canu hefyd yn dangos pa mor gryf mae'r Gymraeg ar y foment.
Cerddwn Ymlaen!