Welcome to Wicid! Please sign up or login

EisteddFlog: Dydd 3 Blog 2

Posted by Han from Rhondda Cynon Taff - Published on 02/06/2011 at 09:30
0 comments » - Tagged as Creative Writing, Education, Festivals

  • Rapsgaliwn
  • Towler

English version

Yr wythnos hon, mae CLIC yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe. Bob dydd, bydd un o'n hysgrifenwyr yn rhannu ei brofiad o'r ŵyl. Dyma fydd Eisteddflogiau'r Urdd a dyma Han o Wicid.tv yn blogio ar y trydydd diwrnod…

Mae Wicid.tv wedi bod yn Eisteddfod yr Urdd heddiw gyda CLIC, y cylchgrawn ar-lein i bobl ifanc yng Nghymru. Ac am ddiwrnod! O gychwyn am 8 y bore, a theithio i Abertawe, ac yn cyrraedd o'r diwedd am 10 ar gyfer y gynhadledd i'r wasg, mae wedi bod yn ddiwrnod prysur. Ond yn un sydd wedi bod yn bleserus iawn! Roedd hi'n wych gweld cymaint o bobl o gwmpas y maes, yn dathlu ac yn cymryd rhan mewn digwyddiad mor greadigol a thalentog. O gantorion i ddawnswyr, chwarae piano a action yn y prif bafiliwn, roedd cymaint i weld a gwneud.

Roedd stondinau ar gyfer y siopwyr sydd yn hoffi siopa. O'r ffrog berffaith i bobl sydd wrth eu boddau yn darllen, roedd rhywbeth i bawb o bob oed. Roedd hefyd cyfle i rieni gymryd rhan mewn dysgu'r iaith Gymraeg. Mae Lisa Jones, awdur 'Welsh for Parents', wedi dylunio llyfr yn benodol i helpu rhieni sydd eisiau dysgu Cymraeg efo'i blant.

Ond i mi roedd yn fater o gyfarfod, ar hap, fy hen (wel ddim mor hen) athrawon o'r ysgol nad oeddwn wedi gweld ers gadael. Roedd hi'n grêt i weld nhw a siarad am yr ysgol a'r dyfodol. Roedd yn anhygoel hefyd gweld pobl enwog yn crwydro'r maes yn mwynhau'r ŵyl. Cefais ysgwyd llaw Paul John, hyfforddwr clwb rygbi Pontypridd a gallwn i ddim credu ei fod yno. Roedd ffrind Wicid a CLIC, Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler yno hefyd, yn cerdded o gwmpas yn amsugno'r awyrgylch. Roedd Rapsgaliwn o gwmpas y maes hefyd ac efo amser i sefyll am lun sydyn. Ond y gorau oll oedd cyfarfod dyn yr wythnos, Mistar Urdd, oedd yn gwneud y mwyaf o'r diwrnod yn union fel pawb arall.

I weld mwy o luniau o'r Eisteddfod edrycha ar ein halbwm Flickr ar ddiwedd pob dydd.

EISTEDDFLOGIAU
Dydd 1 Blog 1

Dydd 1 Blog 2

Dydd 2 Blog 1

Dydd 2 Blog 2

Dydd 3 Blog 1

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.