Eisteddfod yr Urdd 2010
“Heddiw, mae Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn ŵyl fawr, gyffroes a bywiog. Mae’r Eisteddfod wedi tyfu a datblygu dros y blynyddoedd gan sicrhau ei bod yn gyfoes ac yn berthnasol i ieuentid heddiw.” – Urdd Gobaith Cymru.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yng Nghorwen yn 1929 – dros 80 o flynyddoedd yn ôl! Cafodd ei chynnal am ddau ddiwrnod yn unig ddiwedd mis Mai yn hytrach na’r chwe diwrnod a geir heddiw. Prif ddigwyddiadau’r ŵyl, bryd hynny oedd cynnal gorymdaith fawr a seremoni hanesyddol ym Mhafiliwn Corwen, yn ogystal â’r cystadlaethau gwahanol. Erbyn heddiw mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn un o wyliau celfyddydol ieuenctid mwyaf Ewrop!
Ymgartrefodd yr Eisteddfod y flwyddyn yma ar ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sef Llanerchaeron, Ceredigion rhwng dydd Llun, 31 Mai a dydd Sadwrn, 5 Mehefin. Bu llu o gystadlaethau llwyfan, ysgrifennu, dylunio ac wrth gwrs cystadleuaeth y gadair, cyfle i bawb cael cymryd rhan ym mwrlwm yr Eisteddfod.
Yn dilyn llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni bydd wyth o bobl ifanc mwyaf talentog Cymru yn cystadlu am wobr Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru mewn noson Wefreiddiol. Nod yr ysgoloriaeth yw meithrin a datblygu talentau pobl ifanc Cymru gan roi cyfle iddynt ddatblygu ymhellach yn eu maes.
Fydd yr wyth ddaeth yn fuddugol yn y cystadlaethau o dan 25 oed yn cystadlu am wobr ariannol o £4,000 a’r anrhydedd o ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel, “un o gewri’r byd opera”, yn ôl Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.
Pob lwc i bawb fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst ac i ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel!






