Hip neu Sgip cymunedol yn erbyn y cloc - Canolfan yr Urdd, Aberdar
Cyn yr Haf cefais y syniad i wneud cais i fod yn rhan o’r rhaglen boblogaidd ar S4C o’r enw Hip neu Sgip. Y prif reswm am wneud y cais oedd am fy mod yn awyddus i ddechrau Adran Wythnosol i blant y gymuned yn Neuadd yr Urdd.
Ar hyn o bryd nid yw’r lle yn ddigon cŵl a ffynci i ddenu plant a phobl ifainc yr ardal i ddod yma, ond, y gobaith yw ar ôl i’r tîm trawsnewid y neuadd mi fydd yn lle byddent am fynd iddi. Nid oes lle yn y gymuned i blant a phobl ifainc i gymdeithasu trwy’r Gymraeg ar ol Ysgol felly mi fydd hwn yn gyfle gwych i ni ddechrau Adran.
Mae Tîm S4C yn dod i ffilmio yng Nghanolfan yr Urdd, Wind St, Aberdar yn ystod wythnos hanner tymor Hydref 26 a 27. Rydym yn chwilio am oedolion, plant a phobl ifainc i fod yn rhan o’r trawsnewid cyffrous yma. Rydym yn dibynnu ar eich help chi, cymuned Aberdâr i wireddu’r freuddwyd o gael lle cŵl i blant a phobl ifainc yr ardal i gymdeithasu.
Mae’n bwysig eich bod chi fel dyfodol y Ganolfan yn cael mewnbwn i’r broses o drawsnewid y lle. Rydym hefyd yn gobeithio cael help gwirfoddolwyr sy’n arbenigo mewn gwaith coed, peintio a thrydanwyr.
Cofiwch mi fyddwch chi hefyd yn rhan o’r rhaglen deledu lwyddiannus Hip neu Sgip ar S4C! Ond cofiwch os nad ydych am gael eich ffilmio gallwch dal fod yn rhan o’r prosiect.
Felly, peidiwch ag oedi, os oes gennych ddiddordeb a chofiwch chi a’ch teulu bydd yn manteisio o’r prosiect yma, cysylltwch â fi ar 01685 883953 neu delyths@urdd.org
Rydym eisiau i Gymru weld pa mor gryf ydym fel cymuned yn Aberdar. Felly, profwch hynny trwy gysylltu â fi!
Diolch yn fawr a gobeithio clywed gennych yn fuan. Plîs cysylltwch os yn bosib cyn 18fed o Hydref fel ein bod yn glir o bwy sydd am helpu yn ddigon cynnar cyn i dîm S4C dod i’r Ganolfan.
Delyth Southall
Swyddog Datblygu Cymoedd Morgannwg




