RCT Addysg Gyfrwng y Gymraeg
Dyfodol Addysg Cymraeg.
Gall penderfyniad diweddar y Cyngor i ddod a diwedd i Ddosbarthiadau Chwech yn yr ardal creu difrod anferth yn addysg gyfrwng y Gymraeg, a lle ni ydi hi fel pobl ifanc, i ddod a stop i’r benderfyniad, i gadw addysg gyfrwng y Gymraeg yn fyw.
Mae’r twf yn addysg gyfrwng y Gymraeg ar ddraws Cymru, ag yn enwedig yn ein ardal ni, (o 80 o ddisgyblion yn Ysgol Rhydfelen yn 1964 hyd at dair ysgol Cymraeg heddiw; Garth Olwg, Glantaf a Llanhari) wedi cynyddu’n sylweddol ar ddraws y degawdau diwethaf, ac mae’n sicr ni fydd y colegau yma yn gallu darparu addysg gyfrwng y Gymraeg (sylweddol) i’r weddill a fydd yn dod trwy’r system. Cyn bo hir fallae ni fydd yr opsiwn gyda myfyrwyr i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n bwysig ein bod ni yn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg yn addysg ol 16.
Hoffwn ni, fel fy mod i’n siwr hoffech chi, cael y ddewis i allu astudio’n Gymraeg neu’n Saesneg yn ystod ein dau flynedd olaf yn yr ysgol yn astudio Lefel A – dylai’r ddewis fod yna ar ei’n cyfer! Ni dylai fod rhaid inni ymladd ar gyfer y dewis ‘na, ond fel popeth arall, mae’n rhaid inni.
Fydd nifer o ysgolion ar ddraws Rhondda Cynon Taf yn trafod beth allai’r ysgol wneud i greu ddadl yn erbyn penderfyniad y Cyngor, a plis, gwnewch eich orau i fynychu i’r cyfarfodydd a chymryd pob mantais i helpu i ennill y frwydyr hon – dydyn ni methu gadael hon fynd, mae’n broses hir ac mae’n rhaid inni sefyll ar ein traed a’i wynebu, ar bob achos.
Oes oes unrhyw cyfarfodydd yn eich ysgol chi sydd yn agored i bawb, cyflwynwch digwyddiad ar y wefan i roi gwbod i bawb. Mae’n bwysig bod digon o ymwybyddiaeth trwy gydol y ddadl hon a fod pawb yn ymwybodol o’r ddadl.
Ymunwch gyda ni yn y ddadl – mae rhaid inni sicrhau dyfodol addysg gyfrwng y Gymraeg, ol 16.





3 Comments – Post a comment
williamsluke
Commented 23 months ago - 3rd March 2010 - 20:45pm
Ar ol flynyddoedd o wario arian ar sefydlu addysg gyfrwng-Cymraeg yn RCT, sut allai'r cyngor cyfiawnhau negyddu yr holl cynnydd yma? Nag oes yna posibilrwydd o un Coleg Chweched trwy'r cyfrwng Cymraeg?
syhrtaylor
Commented 23 months ago - 11th March 2010 - 17:29pm
Well, ma' nifer wedi cynnig y syniad 'na ond fyddai costau uchel ar gyfer coleg gyfrwng y Gymraeg (staff etc.) ac os yna teimlad o gystadlu rhwng y colegau os fyddai un yn Gymraeg? Dwi ddim yn credu byddai cystadlu, ond dyna sut mae'r Cyngor.
Han
Commented 23 months ago - 15th March 2010 - 18:32pm
Os ydyn yn penderfynnu cael un coleg cymraeg rhaid ystyried faint mor hir bydd rhaid ir ddisgyblion ei traffeilu o ei ardal i'r coleg. Yn fy marn i dydy hyn ddim yn deg, os ydy disgybl eisiau parhau ei addysg trwy yr iaith gymearg tan ei bod yn 18 yn yr ysgol 'y chweched dosbarth' wedyn dyle nhw cael y dewis yna.