Welcome to Wicid! Please sign up or login

Y Siwrne Yn Parhau

Posted by Ihavethecyrusvirusx from Rhondda Cynon Taff - Published on 09/04/2012 at 12:07
0 comments » - Tagged as Health, People

  • dep
  • dep

English version

Dwi ddim yn gwybod os wyt ti wedi darllen fy erthygl Y Siwrne Nerfus Trwy Bryder Ac Iselder ond efallai byddai'n syniad i ti ddarllen hwnnw gyntaf cyn darllen hwn, neu bydda di'n dweud "be ddiawl mae'r eneth yma yn mwydro amdano?" Felly… ia, efallai bod o'n syniad da i ti ddarllen hwnnw. Unwaith ti wedi tyrd yn ôl ac fe gawn ni barhau. O, ac nid pwrpas yr erthygl yma ydy i gael pobl i deimlo tosturi drosta i, ond i brofi nad yw'n ddiwedd y byd os oes gen ti broblem.

Y tro diwethaf dywedais wrthyt ti sut dwi wedi dod yn fwy hyderus, sut dwi'n gwella, ayb. Ar ôl ysgrifennu hynny roedd popeth yn parhau i fod yn iawn… ond yna daeth mis Med.

Yn fis Medi cychwynnais flwyddyn 11. Roedd hyn yn bwysau mawr yn ei hun, ond ar ben hynny roeddwn i hefyd yn teimlo fod y feddygaeth roeddwn i'n cymryd yn dechrau dod yn aneffeithiol. Roeddwn wedi bod arnynt am dair blynedd, ac roeddwn i wedi cael gwybod gallai hyn weithiau ddigwydd pan fydd dy gorff di yn dod i arfer efo meddygaeth penodol. Yn ôl pob sôn, mae hyn yn fwy cyffredin gyda phobl ifanc.

Roeddwn i'n dechrau gofidio a phryderu eto ac, i wneud pethau'n waeth , roedd yr athrawon yn yr ysgol yn bod yn fwy caled. Roeddwn i dan bwysau, yn gofidio ac yn panicio, un diwrnod cefais tri 'detention' mewn un diwrnod. Yr wythnos honno torrais i lawr eto, nid mor ddrwg â'r tro diwethaf, ond yn ddigon drwg i atal fi rhag mynd i'r ysgol am dair mis.

Roedd methu'r ysgol am dri mis yn amlwg yn cael effaith ar fy addysg. Yn fid Tachwedd, cefais fy rhoi ar restr i weithio gyda gweithiwr allweddol yr ysgol, Catherine. Yn syth, pan oeddwn i'n gwybod mai o'r  ysgol oedd hi, meddyliais "O na, athro, dwi mewn trwbl." Anghywir. Daeth Cath i weld fi gartref a chyflwyno ei hun. Am yr wythnosau nesaf, daeth i ymweld â fi gartref, rhoi gwaith ysgol i fi geisio cwblhau yn amser fi fy hun.

Yn ystod y cyfnod yma roeddwn i'n gweld fy seicolegydd i weld beth allwn i wneud efo'r feddygaeth. Cychwynnodd fi ar bresgripsiwn newydd (fedra i ddim ysgrifennu na'i ddweud. Dylai nhw wneud yr enwau yma yn haws i ddweud). Roedd newid o un feddygaeth i un arall boen. Roedd fy nhymer ymhobman. Ar y diwrnod cyntaf dychrynais mam: dwi ddim y math o berson i redeg o gwmpas am ddim, ond roeddwn i fel person lloerig! Roeddwn i'n rhedeg i fyny ac i lawr bobman. Roedd mam yn dweud mod i fel roeddwn i ar sbîd neu rywbeth (ac er gwybodaeth, na, doeddwn i ddim ar sbîd. Mae cyffuriau fel yna yn ddrwg bobl, felly cadwch draw) felly roedd rhaid i mi dorri i lawr ar y feddygaeth a gweithio i fyny tuag ato achos yn amlwg roedd yn ormod i mi gymryd i mewn.

Yn amlwg, roedd bod i ffwrdd o'r ysgol yn golygu ddim yn gweld ffrindiau a llai o gymdeithasu. Roeddwn i wedi treulio'r ddwy flynedd diwethaf yn ceisio cael fy mywyd cymdeithasol yn ôl at ei gilydd, felly roeddwn i mewn perygl o ddifetha popeth unwaith eto. Roedd fy nheulu yn cytuno gallwn i dal gymryd rhan gyda Wicid a CLIC gan nad oedd yn dda i fi fod yn y t? drwy'r adeg.

Gyda Wicid a CLIC, dwi'n berson cwbl wahanol nag yn yr ysgol. Fedra i fod yn fi fy hun, ond yn yr ysgol dwi'n swil, yn ddistaw ac yn cyfri'r munudau nes i fi gael mynd adref.. Roedd ennill CLICiwr y Flwyddyn yn ystod y cyfnod yma yn hwb mawr i'm hyder (diolch i bwy bynnag wnaeth roi fy enw ymlaen ac i'r rhai fu'n pleidleisio, dwi'n caru chi cymaint) ac roedd yn gwneud i mi sylweddoli fod fy mywyd cymdeithasol yn iawn.

Reit, gad i ni ddod ymlaen at nawr. Ar ôl gweithio efo Cath, dwi wedi magu'r hyder i fynd i'r ysgol tri diwrnod yr wythnos yn llyfrgell yr ysgol, ynghyd â disgybl arall sydd wedi dioddef rhywbeth tebyg i fi. Dwi'n gobeithio cwblhau'r TGAU craidd a dwi wedi cwblhau holl Draethodau Dan Reolaeth Saesneg, sydd yn arwydd dda.

Dwi wedi gorfod gwneud penderfyniad mawr yn ystod hyn i gyd. Fy nghynllun gwreiddiol ar ôl blwyddyn 11 oedd mynd i'r Chweched i astudio Saesneg, Cyfryngau a Drama, ond gan fod i ar amserlen gyfyngedig roedd rhaid i mi ollwng fy mhynciau dewisol felly fedra i ddim gwneud Drama ac mae'n debyg dim Cyfryngau chwaith. Gan fod yr ysgol wedi cael cymaint o effaith ar fy mhryder (dwi ddim yn dweud ei fod yn ysgol ddrwg. Mae'n ysgol dda, ond yn un mawr iawn a chaeth iawn. Rhywbeth sydd yn anodd i berson fel fi.) felly dwi wedi gwneud penderfyniad i wneud cais am y coleg mis Medi. Dwi yn cael cefnogaeth f nheulu, ffrindiau a Cath, a dwi'n hapus iawn efo hynny.

Dwi ddim mor ddrwg ag yr oeddwn i ar ôl torri i lawr am y tro cyntaf. Er esiampl, fe wnaeth rhywun cyfrif yn casáu fi ar Twitter. Os bydda hyn wedi digwydd yn ôl yn 2009, byddwn i wedi wylo a gwrthod gadael y t?. Nawr dwi'n sylweddoli fod y person tu ôl i'r cyfrif yna yn delio gyda phroblem eu hunain yn amlwg ac eisiau targedu fi. Dwi'n teimlo'n sori drostynt a dwi eisiau iddynt wybod fod yna gymorth allan yna. (Diolch i bawb wnaeth gadw fy rhan gyda llaw, mae'n meddwl lot.)

Dwi dal ddim 100% yn well a fydda i ddim byth. Dwi wedi sylweddoli bydd gen i Cyclothemia am byth a bydd y pryder yno o hyd, ond bydd yn distewi. Mae'n ofidus gwybod bod hyn am fod efo fi am byth a dwi bob tro yn meddwl am beth fydd yn digwydd yn y dyfodol ac os fydda i yn torri i lawr unwaith eto. Ond dwi'n gwybod nawr nad oes rhaid i mi roi gorau i bob dim oherwydd hyn, Dwi dal yn astudio am y TGAU a dwi'n teimlo'n hyderus iawn am gychwyn pennod newydd yn fy mywyd a chychwyn yn y coleg fis Medi.

Hoffwn ddiolch (eto) i bawb sydd wedi cefnogi fi. Fy ffrindiau, teulu, CLIC, Wicid, seicolegydd a diolch mawr i Cath. Heb gymorth a chefnogaeth hi, fyddwn i ddim yn cwblhau fy arholiadau nac yn cysidro mynd yn ôl i'r ysgol o gwbl. A chofia beth ddywedais o'r blaen os wyt ti'n dioddef: nid oes rhaid i ti ddioddef, yn enwedig ar ben dy hun. Mae yna rywun allan yna. Mae'n rhaid i ti fod yn barod i adael iddynt helpu ti. Creda fi, mae'n werth o.

O.N.: Os wyt ti'n dioddef ac yn teimlo fel dy fod di angen clywed gan rywun fod popeth am fod yn iawn, gwylia Stay Strong ar MTV. Mae'r seren Demi Lovato hefyd yn dioddef o ddeubegwn a thorrodd i lawr gyda phryder ac iselder hefyd. Mae Stay Strong yn rhaglen ddogfen am y gwaeledd yma a beth ddigwyddodd ayb. Hyd yn oed os ti ddim yn hoff iawn ohoni hi, dwi'n awgrymu i ti wylio hwn, mae'n profi bod hyd yn oed selebs yn cael trafferthion.

Cysylltiadau:

Gwybodaeth – Iechyd Emosiynol a Meddyliol

Prosiect "Caru Fi am Fi"

Mae'n Gwella

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.