Heb Gategori

Digartrefedd Yng Nghymru

By -
Dim Sylwadau

English version

Pam mae Digartrefedd yng Nghymru yn Gymaint o Broblem?

Diben yr ymchwiliad hwn yw edrych ar ddigartrefedd yng Nghymru a phenderfynu pam ei fod yn gymaint o broblem.

Er fy mod yn cydnabod nad yw’r pwnc arbennig hwn yn unigryw, penderfynais gynnal ymchwiliad gan fy mod yn teimlo ei fod yn broblem.

Mae’n amhosibl mynd i ardal drefol yng Nghymru heb daro ar rywun sy’n ymddangos ei fod yn ddigartref, a gall beri gofid emosiynol i lawer o bobl.

Yn ddiweddar, gwelwyd rhaglen ddogfen a ddangosodd deulu cyfan yn treulio’r Nadolig ar y strydoedd gan eu bod yn ddigartref. Gan fy mod theimladau cryf am y mater hwn, penderfynais fachu ar y cyfle i astudio digartrefedd yng Nghymru ynghyd ’r rhesymau pam ei fod yn ymddangos yn gymaint o broblem.

Dewisais y teitl Pam mae Digartrefedd yng Nghymru yn Gymaint o Broblem? am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae’n caniatu i mi ymchwilio i pam ei fod yn broblem, a hefyd i gymharu’r mater ag ardal arall a phenderfynu a ddylid gwneud rhywbeth yn ei gylch.

Er mwyn ateb y cwestiwn, rhaid i mi yn gyntaf benderfynu ar ddiffiniad o ddigartrefedd. Yna, byddaf yn edrych ar pam ei fod yn gymaint o broblem, neu beidio yn dibynnu ar fy nghasgliadau, a chynnig atebion. Yna byddaf yn cau pen y mwdwl ac yn gwerthuso llwyddiant yr ymchwiliad hwn.

Er mwyn cynhyrchu ymchwiliad dibynadwy a chraff, bydd angen casglu gwybodaeth fanwl gywir a’i gwerthuso ac felly defnyddir cymysgedd o ffynonellau sylfaenol ac eilaidd. Fy mwriad yw defnyddio holiadur i weld pa mor ymwybodol yw pobl o’r mater, ac i ddarparu sail i ymchwiliad cadarn.

Dechreuaf drwy ddisgrifio yr hyn a olyga’r term ‘digartrefedd’.

Mae Wikipedia yn disgrifio digartrefedd fel cyflwr a chategori cymdeithasol pobl sydd heb gartref sefydlog. Yn syml, golyga hyn nad oes ganddynt hawl preswylio mewn tŷ. Gall y term hefyd gynnwys pobl sy’n preswylio dros nos mewn lloches, sef sefydliad sy’n darparu preswylfa dros dro i bobl y bwriedir eu gosod mewn sefydliad, neu mewn man cyhoeddus neu breifat nad yw wedi’i gynllunio ar gyfer ei ddefnyddio fel llety i gysgu ynddo’n rheolaidd.

Mae nifer mawr o resymau pam y gall person fod yn ddigartref. Efallai na all fforddio na chynnal llety sefydlog, diogel a digonol. Fodd bynnag, nid yw pob person digartref yn ddigartref am y rheswm hwn. Mae nifer bach o bobl yn ddigartref o ddewis, fel pobl Romani, a elwir yn amlach yn Sipsiwn.

Mae rhai aelodau o isddiwylliannau hefyd yn ddigartref o ddewis. Amcangyfrifir bod yna 100 miliwn o bobl yn ddigartref ledled y byd.

Felly, dyma’r diffiniad, ond pam ei fod yn gymaint o broblem yng Nghymru? Mae ffigurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dangos bod nifer y bobl sydd wedi’u cofnodi fel rhai sy’n ddigartref yng Nghymru yn parhau i gynyddu.

Amcangyfrifodd Shelter Cymru, sef sefydliad sy’n darparu lloches i bobl ddigartref, fod o leiaf 50,000 o bobl yn cael profiad o fod yn ddigartref yng Nghymru bob blwyddyn. Nododd arolwg a gynhaliodd Shelter Cymru ym 1995 fod disgwyl i nifer yr aelwydydd angen llety yng Nghymru gynyddu 12% rhwng 1996 a 2016.

Yng Nghymru hefyd mae rhai o’r amodau tai gwaethaf yn y DU, gydag amcangyfrif o 225,000 o bobl yn byw mewn llety heb fod yn ffit.

Nid oes gan bobl sy’n ddigartref anghenion dynol sylfaenol, fel gofal iechyd da, meddyginiaeth a gwasanaethau meddygol. Gan nad oes ganddynt gyfeiriad sefydlog, ni allant ddod o hyd i waith, a heb ffurf ar incwm, ni allant fforddio rhentu eiddo. Felly, maent i bob pwrpas yn sownd yn y cylch digartrefedd. (Dim swydd = dim arian = dim llety, dim llety = dim cyfeiriad sefydlog = methu chael gwaith).

Gwlad o ardaloedd gwledig yw Cymru yn bennaf, ond mae ynddi hefyd rai ardaloedd mawr diwydiannol, yn bennaf yn Ne Cymru. Ers y 1980au, bu dirywiad sydyn yn y diwydiannau trwm traddodiadol fel glo a dur, gan arwain at gynnydd sylweddol mewn diweithdra.

Ar ben hyn, mae problemau yn y diwydiant amaeth hefyd wedi effeithio ar gyfraddau diweithdra. Dyma un o nifer mawr yr achosion dros ddigartrefedd wrth i bobl gael eu gorfodi i symud allan ar y strydoedd dan bwysau cynyddol biliau’r cartref na allant eu talu, fel morgeisi a biliau trydan. A chyda effeithiau’r wasgfa gredyd yn cynyddu, disgwylir i ddigartrefedd gynyddu’n sydyn yn y ddwy flynedd nesaf.

Gall pobl sy’n chwilio am lety dan eu cynghorau lleol yng Nghymru ddisgwyl aros am bedair blynedd ar gyfartaledd cyn cael cynnig llety. Oherwydd y rhestrau aros hir hyn, daw llawer o bobl yn ddigartref yn y cyfamser. Gan nad oes modd cysylltu nhw, ni fydd y mwyafrif o bobl yn cael tŷ oddi wrth y cyngor pe bai tŷ yn dod ar gael.

Felly, ffactorau strwythurol fel y farchnad dai a thlodi yw achosion mwyaf cyffredin digartrefedd, gan effeithio ar allu unigolion i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain. Wrth i brisiau tai godi, roedd mwy o alw am dai fforddiadwy, felly roedd mwy o bobl yn dod yn ddigartref.

Dyma yw’r brif broblem ym marn Shelter Cymru, ac maent yn dadlau fod cost uchel prynu cartref a diffyg llety fforddiadwy ar rhent wedi cyfrannu at y cynnydd hwnnw.

Ymhlith ffactorau eraill sy’n achosi digartrefedd mae canlyniadau argyfyngau fel tn neu lifogydd, neu rhyw argyfwng bersonol e.e. pobl ifanc yn eu harddegau yn rhedeg i ffwrdd o gartref am resymau personol ac, yn y pen draw, yn cysgu ar y stryd.

Bydd pobl ifanc rhwng deunaw ac ugain oed a fu mewn gofal yn flaenorol yn ceisio tai fel rheol. Gallant ddod yn ddigartref, yn ogystal ’r rheiny sy’n agored i niwed oherwydd trais domestig, a’r sawl a fu’n staff milwrol neu’n garcharorion.

Gall bod yn gaeth i gyffuriau, gan gynnwys bod yn alcoholig, hefyd ychwanegu at ddigartrefedd, gan ei bod yn bosibl y bydd y person yn gwario pob ceiniog ar y caethineb hwnnw. Mae’n bosib hefyd na fydd y person hwnnw yn gallu dod o hyd i waith gan fod cyffuriau yn newid personoliaeth ac ymwybyddiaeth y sawl sy’n eu cymryd. Os yw person yn byw mewn llety ar rhent ac yn cael ei ddal gyda chyffuriau yn ei feddiant, yna bydd yn cael ei droi allan.

Fodd bynnag, nid yw’r ffactorau hyn a drafodwyd sy’n achosi digartrefedd yn adlewyrchu’r ffactorau hynny y mae diffyg help neu wasanaethau yn eu hachosi. Dywed Peter Black, llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, mai ffactorau economaidd sy’n achosi’r cynnydd mewn digartrefedd yn bennaf – “Mae’r nifer fwya o achosion o ganlyniad i’r cynnydd ym mhrisiau tai a’r prinder o dai cymdeithasol ar gael”. Dywedodd hefyd fod 40,000 o bobl wedi mynd at gynghorau lleol i geisio help.

Dywedodd mai un o’r rhesymau sy’n arwain at ddigartrefedd yw nad oes gan gynghorau’r cyfleusterau i ddelio ’r mater a chafodd ei ddyfynnu’n dweud “Serch hynny, dw i ddim yn credu fod cynghorau lleol yn buddsoddi digon” a “Dyw Llywodraeth y Cynulliad ddim yn darparu adnoddau angenrheidiol sydd eu hangen i godi tai newydd chwaith”.

Dengys hyn ei fod o’r farn mai cynghorau lleol a llywodraeth y Cynulliad sy’n rhannol gyfrifol gan nad oes ganddynt unrhyw wasanaethau ar waith i atal digartrefedd. Mae’r rhestr a ganlyn yn amlinellu rhai o’r ffactorau hyn:

  • Canlyniad i argyfwng personol
  • Problemau yn y diwydiant amaethyddol
  • Diffyg help neu wasanaethau
  • Caethinebau
  • Y farchnad dai
  • Tlodi
  • Y dirwasgiad economaidd
  • Dirywiad y diwydiannau trwm traddodiadol
  • Cynnydd ym mhris tai
  • Diweithdra

Byddaf nawr yn edrych ar y mater yn Lloegr a gweld beth yw maint y broblem yno, ac os yw’n broblem fwy neu’n broblem llai nag yng Nghymru.

Yn Lloegr, nifer yr aelwydydd a gafodd eu cydnabod yn swyddogol eu bod newydd ddod yn ddigartref yn ystadegau 2007 oedd 99,500. Cafodd can mil o aelwydydd eu cydnabod yn swyddogol gan eu hawdurdod lleol fel newydd ddod yn ddigartref yn 2007. Roedd hanner y rhain ar y rhestr ‘angen blaenoriaethol’ a’r awdurdodau lleol wedi derbyn eu bod angen llety a bod ganddynt hawl iddo.

Tra dengys y ffigurau hyn fod digartrefedd yn Lloegr yn broblem, mae’r niferoedd wedi disgyn yn sydyn ac maent bellach yn hanner yr hyn oeddent yn 2004, ac yn is na’r hyn oeddent ddeng mlynedd yn l.

Ynghyd ’n gwybodaeth mai yng Nghymru mae’r amodau tai gwaethaf ym Mhrydain Fawr a bod digartrefedd ar gynnydd yng Nghymru, mae hyn yn effeithiol wrth ddangos maint problem digartrefedd yng Nghymru. Byddai felly yn ddilys honni bod digartrefedd yn broblem fwy yng Nghymru nac yn Lloegr.

Gan hynny, os yw digartrefedd yn gymaint o broblem , pam wnaed cyn lleied i’w atal? A pham fod cyn lleied o gefnogaeth ar gael i bobl digartref? Erys y ffaith nad yw pobl yn ymwybodol bod digartrefedd yn gymaint o broblem.

Mewn arolwg a gynhaliais yn ddiweddar, dywedodd wyth allan o ddeg o bobl nad oeddent o’r farn bod digartrefedd yn llawer o broblem a dywedodd un person ei fod o’r farn ei fod ar gynnydd yn ardaloedd trefol Cymru yn unig. Dywedodd pump o bobl fod eu barn ar ddigartrefedd wedi newid wrth iddynt weld ei fod yn fwy o broblem na’r disgwyl.

Pan ofynnwyd beth oedd y prif ffactorau sy’n achosi digartrefedd, daeth lliaws o wahanol atebion, a chamddefnyddio cyffuriau oedd ar y brig. Hwn oedd yr unig ffactor yr oedd pobl yn gytn yn ei gylch, sy’n dangos bod pobl o’r farn mai camddefnyddio cyffuriau yw’r prif ffactor sy’n achosi digartrefedd yng Nghymru.

Pan ofynnwyd faint o bobl yng Nghymru fyddai’n cael eu gwneud yn ddigartref bob blwyddyn, roedd yr ateb yn amrywio o 100 i 3,000,000, gan ddangos nad oedd gan unrhyw un amcan clir o’r gwir ffigur. Cafodd y mwyafrif syndod gan nad oeddent wedi sylweddoli fod y ffigur mor uchel.

Mae canlyniadau’r arolwg yn effeithiol wrth ddangos nad yw pobl yn gwybod digon am ddigartrefedd i’w ystyried yn broblem. Dengys hyn nad yw pobl mor wybodus ag y dylent fod oherwydd, mae’n debyg, nad oes llawer am y pwnc yn y cyfryngau.

Er bod digon o wybodaeth am y pwnc ar gael yn rhwydd ar y rhyngrwyd, ychydig o bobl sy’n darllen y wybodaeth hon. Nid oes fawr o syndod mai bach yw nifer yr elusennau i atal digartrefedd ac mai ychydig o roddion fyddant yn eu derbyn.

Felly, beth ellir ei wneud i ddatrys y broblem? Nid oes unrhyw gam sydyn y gellir ei gymryd dros nos i ddatrys y broblem. Waeth pa gamau sy’n cael eu cymryd, bydd yna bob amser rywfaint o ddigartrefedd yng Nghymru.

Yr unig ffordd i newid pethau yw achosi newid yn y patrwm fel bod digartrefedd naill ai’n dechrau lleihau neu’n aros ar yr un lefel. Mewn byd realistig, mae’r broses hon yn debygol o gymryd ambell flwyddyn a bydd angen cefnogaeth y genedl ynghyd ag ymdrechion llawn y llywodraeth a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Fy awgrym cyntaf yw codi lefel ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddigartrefedd, trwy’r cyfryngau. Ni fydd hyn yn codi unrhyw dai newydd ond pe bai’r cyhoedd yn gweld maint y broblem, yna maent yn fwy tebygol o roi i elusennau. Pe bai mwy o bobl yn pryderu am y broblem, yna byddai’n rhaid i’r llywodraeth ymateb.

Rhaid i mi ddyfynnu geiriau Peter Black ar gyfer fy awgrym nesaf. Fe ddywedodd: “Mae’n rhaid i ran o’r buddsoddiad hynny fod i sicrhau, pan ddaw rhywun at ei gyngor lleol am gymorth, y bydd llety dros dro addas ar gael iddo nes y gellir gwneud trefniadau mwy parhaol.”

Yr awgrym yma yw bod ar gynghorau lleol angen cael mwy o gyfleusterau ar gael i bobl ddigartref, ac roedd Leanne Wood, llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol yn ategu’r geiriau hyn pan ddywedodd, “ Rydym angen buddsoddiad enfawr mewn tai cymdeithasol.” Felly mae’n rhaid i gynghorau lleol ddarparu mwy o dai.

Ffordd arall o weithredu fyddai i’r llywodraeth ariannu’r elusennau presennol ac agor rhai newydd. Gan fod y broblem fwyaf wedi’i chysylltu diweithdra, sydd yn ei dro weithiau ynghlwm bod heb gyfeiriad post, gellid sefydlu gwasanaeth y llywodraeth ar gyfer pobl digartref. Gellid anfon eu post yno, gan roi cyfle iddynt ddod o hyd i waith ac felly’r posibilrwydd o ddianc oddi wrth ddigartrefedd.

Peth arall y gellir ei wneud yw darparu gwasanaeth a fyddai’n rhoi mynediad at ofal iechyd a thriniaeth feddygol. Gellid rhoi bwyd hefyd, yn ogystal dillad gwely a blancedi. Ac, fel un ardal yn Ffrainc, gellid darparu pebyll i bobl digartref gan roi lloches sylfaenol ac ychydig o gynhesrwydd iddynt.

Er na fydd yr ychydig weithredu hyn yn datrys y broblem, credaf y dylai fod gan bawb yr hawl i ofal iechyd da, bwyd a lloches sylfaenol. Mae’r sawl sy’n iach yn fwy tebygol o geisio gwaith na rhywun sy’n wael. Felly, gallai darparu’r gwasanaethau hyn fod o fudd yn y pen draw o ran lleihau cyfradd diweithdra.

Wrth gwrs, mae un peth amlwg y gellir ei wneud i helpu ’r broblem nad ydym hyd yma wedi edrych arno. Rwy’n byw yng Nghwm Rhondda ac yn ddiweddar, gwelodd yr ardal gau un o’i chyflogwyr mwyaf, sef ffatri Burberry.

Mae cwmnau tebyg yn cau ledled Cymru oherwydd y wasgfa gredyd neu oherwydd ei bod yn rhatach cynhyrchu eu nwyddau dramor. Pe bai’r llywodraeth yn rhoi cymhellion i’r cwmnau hyn ac yn eu cefnogi i’w hatal rhag cau, yna byddai’r cynnydd mewn cyfradd diweithdra yn dod i ben ac felly byddai’r cynnydd mewn digartrefedd hefyd yn arafu.

Gallai’r llywodraeth hefyd dargedu ardaloedd lle mae digartrefedd yn uchel a chynnig cymhellion i gwmnau newydd i ddatblygu yn yr ardaloedd hyn.

I derfynu, mae’r cwestiwn Pam mae Digartrefedd yng Nghymru yn Gymaint o Broblem? wedi’i ateb gan fod canlyniadau’r ymchwiliad hwn yn amlwg yn dangos bod digartrefedd yn bendant yn broblem yng Nghymru. Yn bennaf, mae hyn oherwydd cymysgedd o ddiweithdra, prinder tai fforddiadwy a’r wasgfa gredyd yr ydym yn ei chanol ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni ystyried ffactorau eraill. Yn y dirwasgiad presennol, mae ymdrechion y llywodraeth yn canolbwyntio ar ddatrys y broblem hon a fydd, mewn gwirionedd, yn helpu i leihau nifer cynyddol y digartref. Rhaid nodi yma hefyd fod materion eraill efallai sy’n cael eu hystyried yn fwy pwysig na digartrefedd, fel gofal iechyd a chamddefnyddio cyffuriau.

Nid oedd pobl yn gwybod digon am ddigartrefedd, fel y llwyddodd yr arolwg i brofi, a gall hyn godi’r cwestiwn: a yw swyddogion y llywodraeth a’r awdurdodau lleol yn gwybod digon am ddigartrefedd i fod yn ei ystyried yn broblem hefyd?

Os nad ydynt, mae hyn yn ateb i’r cwestiwn pam mae digartrefedd yn broblem yng Nghymru. Felly, i ddod ’r ymchwiliad hwn i ben, mae digartrefedd yn fwy o broblem yng Nghymru nag yn Lloegr a gellir gwneud llawer i geisio datrys y broblem hon. Ond a wneir unrhyw beth am y mater gan yr amcangyfrifir bod angen tri biliwn o bunnoedd i wella pob cartref yng Nghymru hyd at safon foddhaol?

Aeth yr ymchwiliad yn eithaf da ac roedd ynddo amrywiaeth o wybodaeth wahanol, fel yr arolygon a’r ffynonellau eilaidd. Fodd bynnag, yn l y disgwyl, roedd cyfyngiadau y gellid eu gwella. Roedd yr arolwg a gynhaliwyd yn gyfyngedig i ddeg mewn nifer mewn ardal ddaearyddol fach ac roedd y cyfranogwyr fwy neu lai yr un oed.

Byddai wedi bod yn arolwg mwy effeithiol pe bai mwy o holiaduron wedi’u llenwi, er mwyn cael mwy o safbwyntiau. Gan fod yr oedrannau’n debyg, fe allai o bosib fod wedi bod yn well ymestyn ystod oedran cyfranogwyr yr arolwg, oherwydd bod barn wahanol gan bobl o wahanol oed yn aml. Hefyd, pe bai’r arolwg wedi’i gynnal mewn ardal ehangach yn ddaearyddol, neu mewn lleoliad fel Caerdydd lle mae digartrefedd yn fwy o broblem, gallai’r ymateb fod yn wahanol.

Byddai cyfweliad ar y mater gydag aelod o’r awdurdod lleol neu aelod o elusen digartrefedd wedi darparu gwybodaeth amhrisiadwy gan y byddai wedi rhoi tystiolaeth sylfaenol am farn pobl sy’n ymdrin ’r mater hwn yn aml.

Mae awdurdodau lleol yn delio llawer o faterion gwahanol. Yn yr arolwg hwn, ceir yr awgrym nad ydynt yn gwneud digon ynghylch problem digartrefedd yng Nghymru, ond mae’n rhaid cydnabod eu bod dan bwysau sylweddol ac nad oes ganddynt bob amser fynediad at yr adnoddau gofynnol.

Rhaid cydnabod hefyd bod rhai bobl yn ddigartref o ddewis ond maent yn parhau i gael eu cyfri yn yr ystadegau. O ystyried hyn, mae’n bosib nad yw’r ffigyrau ar ddigartrefedd yn adlewyrchu’r sefyllfa yn fanwl gywir.

FFYNONELLAU

Ystadegau ar ddigartrefedd yng Nghymru a Lloegr: homelesspages

Dyfyniadau gan Peter Black, Leanne Wood ac ati: Newyddion y BBC

DOLENNI

Shelter Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

The Poverty Site

Tudalennau gwybodaeth digartrefedd CLIC

DELWEDDAU: Franco Folini / Watt Dabney

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl