Heb Gategori

Annwyl Fyd Marwolaeth

By -
Dim Sylwadau

English version

Annwyl Fyd,

Cyn i ti gychwyn darllen y peth llon hwn, dwi’n rhybuddio ti, nad yw’n fater pwnc mor hapus ’r un diwethaf ysgrifennais i ti. Ond mae’n rhywbeth sydd yn effeithio ni i gyd.

Ia dyna ti

Marwolaeth.

Drwy’r gair yna yn unig, efallai bod pobl yn galw fi’n emo, goth neu unrhyw eiriau stereotypical eraill sydd yn cael eu cysylltu marwolaeth a’r l-fywyd. Ond mae gen i un cwestiwn i ti, Fyd. Pam fod rhaid i ni wybod, ac ar yr un adeg ddim gwybod, am sut byddem yn diweddu?

Gad i mi ehangu. Nid oedd gen i ymwybyddiaeth y byddwn yn cael fy ngeni. Y tro cyntaf i mi sylweddoli fy mod yn bodoli ar y blaned hon oedd pan agorais fy llygaid a gweld rhywbeth na allaf gofio ar hyn o bryd. Wel, i fod yn deg dim ond ychydig funudau oed oeddwn i ar yr adeg. Ond pam fod rhaid i ni wybod y ffaith y byddem yn marw?

Rydym i gyd yn gwybod ein bod am farw. Fedra’i ddim dweud celwydd am hynny. Fedri di fyw dy fywyd mor hapus a rhydd a hoffet, ond ar ryw bwynt byddet yn brwydro gyda’r ffaith nad wyt ti’n anfarwol. Wel, mae’n debyg. Dwi’n gwybod fy mod i.

Dwi am fod yn gwbl onest gyda thi. Dwi wedi brwydro gyda’r ffaith fy mod i am farw cyn i fy oed gyrraedd ffigyrau dwbl. Dwi’n cofio crio gyda phanig a gweiddi “Dwi ddim isio marw” pan roedd erthygl newyddion ar y BBC yn dweud sut bydd y Byd yn dod i ben. Roeddwn i yn wyth neu naw ar y cyfnod. Pam dwi’n dweud hyn wrthyt ti? Dim syniad. Efallai mai un o’r cof cynharach sydd gen i ydy o, wel hynny a chael fy mwrw yn y trwyn yn yr ysgol feithrin. Lyfli.

Tra roeddwn i’n eistedd fy arholiadau yn yr ysgol, roeddwn i mewn picl. Yn un ochr o fy meddwl, roeddwn yn meddwl “Tyrd wan, Ga, canolbwyntia. Ti angen gwneud yn dda yn yr arholiadau yma”, tra ar yr ochr arall, roedd meddwl mwy tawel yn sleifio i fyny arnaf i, yn meddwl “Beth ydy’r pwynt? Nid oes posib mynd ag ef efo ni pan rydym yn marw”. Dim ond cyn eistedd fy arholiadau Lefel Ac eleni llwyddais drechu fy meddyliau, ond roedd hi’n rhy hwyr. Fe wnes i yn erchyll yn fy arholiadau, ond fe basiais er hyn.

Os wyt ti’n adnabod fi, byddet yn gwybod mai hwn fy mod yn troi’n 19 oed wythnos yma. Dwi ddim am ddweud pa bryd. Fe wnawn ni gystadleuaeth fach, mae’r cyntaf i ddyfalu fy mhen-blwydd i yn cael crybwylliad ar borth twitter fi a Wicid. Ia, dwi’n gwybod, mae’n wobr rhy dda i anwybyddu.

Wrth i mi gofio mod i yn troi’n 19 wythnos yma, fe ddaeth a phopeth yn l. Pam? Atebion yn y man sylwadau os gwelwch yn dda. Efallai fod hyn yn ffordd naturiol o gadw rheolaeth ar bobl. Ti’n gwybod, atgoffa rhywun eu bod yn camu’n nes at farwolaeth nag yr oeddent flwyddyn yn l.

Efallai dyna un rheswm pam dwi’n gweld fy mhen-blwydd i fel unrhyw ddiwrnod arall. Pam? Wel, am ei fod o. Dydy’r ffaith fod mam wedi rhoi genedigaeth i fi am ddeg munud i hanner nos ar fy mhen-blwydd ddim yn gwneud y diwrnod yn fwy arbennig nag os oeddwn o wedi cael fy ngeni’r diwrnod cynt, neu’r wythnos wedyn, neu wedi fy ngeni o gwbl. Efallai mai diwrnod i ddathlu i rieni’r plentyn ddylai fod, gan mai nhw oedd y ddau berson yn fy nheulu wnaeth wneud fi. Yr unig beth dwi wedi’i wneud ydy bodoli, fy rhieni ydy’r rhai oedd yn edrych ar fy l i pam oeddwn yn ieuengach ac yn gwneud yn siŵr fy mod i’n iawn. Felly pam mai fi sydd yn cael y clod i gyd?

Dwi ddim yn ceisio ysgrifennu hwn mewn ffordd fydd yn digalonni ti, fyd. Dim ond mod i wedi meddwl yn ddiweddar, pam fod rhai di ni wybod pa bryd rydym yn marw? Dwi’n gwybod y gallwn i fod efo trideg mlynedd dda ar l yma, ond mewn rhyw synnwyr dydy hynna ddim digon. Be dwi’n feddwl ydy, dwi wedi darllen yn rhywle (dwi ddim yn cofio ble, felly ymddiheuriadau os ydw i’n dweud y ffeithiau yn anghywir) fod y dyn cyfartalog yn marw o gwmpas ei saithdegau, neu wythdegau hwyr. Golygai hyn, os dwi’n ddyn cyfartalog, dwi wedi byw chwarter fy mywyd. Dwi’n dechrau bod yn yr amser o’m mywyd ble fyddai’n agosach i fy marwolaeth na fy ngenedigaeth. Wedi dweud hyn, does neb yn gwybod yn sicr pa bryd fyddent yn marw, dim ond yn stwffio nifer o bethau i mewn i’w bywydau byr cyn i’r anochel ddigwydd.

Dwi ddim am ddigalonni ti ymhellach, annwyl fyd, gan fy mod yn gwybod dy fod di yn dechnegol yr un oed a fi, ac mae gen ti amser hir iawn cyn i ti fynd (er, yn dy achos di ychydig filenia sydd gen ti, tra yn fy achos i ychydig ddegawdau ydyw).

Diolch i ti, fyd.

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl