Heb Gategori

Annwyl Fyd Bywyd Modern

By -
Dim Sylwadau

English version

Annwyl Fyd,

Dwi wedi sylwi ychydig o bethau wrth i mi fyw fy mywyd.

Y peth cyntaf ydy fod Firefox efo gwiriwr sillafu a dwi’n credu ei fod wedi ei osod i Saesneg Americanaidd, ac nid Saesneg Cymraeg.

Damnia ti, y cadno o fflamau

Hefyd, dwi wedi cychwyn cael rhyw syniad o fywyd o beidio siarad os nad oes rhywun yn siarad gyda thi. Ti’n gwybod. Mae fel nad oes gen i ddim byd diddorol i siarad amdano (ac fe fyddet yn cytuno os wyt ti wedi darllen fy mlog, nid oes dim diddorol yna dim ond y bisr), felly pam siarad? Pam rhoi baich ar eraill gyda gwybodaeth ddiwerth sydd yn, wel, diwerth? Wedi dweud hynny, nid yw hyn yn meddwl na fyddaf yn siarad yn l os wyt ti’n siarad gyda fi, ond dwi ddim yr ymddiddanwr gorau.

Dwi ddim yn gallu meddwl am adeg ble gychwynnais sgwrs gyda sylwad. Mae bron bob tro wedi bod yn gwestiwn. Gofynna i Olygydd CLIC neu Wicid, a byddent yn debygol o gytuno. Mae bron pob e-bost dwi wedi ei yrru iddynt, wedi gofyn cwestiwn. Yr unig adeg arall pan dwi wedi cychwyn sgwrs ydy pan dwi’n dweud rhywbeth wrth rywun, fel ‘Mae gen i’r peth yna ti wedi gofyn amdano’, neu ‘mae rhywun yn chwilio amdanat ti’ neu wybodaeth fel hynny.

Fedra i ddim cofio cychwyn sgwrs gyda rhywbeth fel “o, roedd Chelsea yn ofnadwy neithiwr” neu “dwi’n crefu McDonalds”. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i mi i gychwyn sgwrs fel hyn. Yn ychwanegu at y ffaith nad wyf yn mynd allan llawer, dwi ddim yn gwylio llawer o ffilmiau ac ati, nid oes gen i lawer i siarad amdano. Iawn, os byddet yn gofyn i mi am Photoshop neu sut i gyflawni trosglwyddiad sbin coes mewn criced, yna gallaf helpu. Ond dwi yn eithaf anobeithiol pan ddaw i sgyrsiau ‘normal’.

Ac, i fod yn deg, mae’r delfryd wedi mynd drwodd i Fywyd 2.0 neu i’r bobl sydd ddim yn deall, bywyd ar-lein. Mae’n swnio’n eithaf truenus, ond dwi’n trio cadw ataf i’n hun ar Facebook ac ati. Dwi’n dileu unrhyw beth ar fy wal dwi ddim yn hoffi, neu sydd yn dweud fy mod wedi gwneud rhywbeth. Dwi wedi mynd cyn belled dileu rhai grwpiau roeddwn i’n ffan ohonynt am nad oeddwn yn gweld pwrpas iddynt. Dydy’r ffaith dy fod yn canu yn uchel i ganeuon ddim yn golygu bod ymuno grŵp gyda phawb arall sydd yn gwneud hyn yn dy wneud yn uwchraddol na phawb sydd ddim yn ei wneud. Neu beth bynnag yw’r rheswm am ymuno’r grŵp. Os yw’n ffordd o gyfarfod pobl newydd, nid hwn yw’r ffordd gorau. Dwi newydd sylwi fy mod yn rhefru am rywbeth eithaf dibwynt.

Wedi dweud hynny, mae gen i gyfrif Twitter. Ar y pwynt o ysgrifennu’r annwyl lythyr hwn i ti, fyd, dwi wedi gwneud 2,402 tweet. Dwi wedi rhannu bron i ddau fil a hanner o feddyliau gyda’r we. Ond am rhyw reswm, dwi bron byth yn diweddaru fy statws Facebook. Dwi ddim yn gwybod pam. Wel, mae hynna’n gelwydd llwyr, dwi’n gwybod yn union pam. Ni allwn ddweud celwydd wrthyt ti.

Y rheswm na fyddaf yn newid fy statws ar Facebook ydy fy mod yn adnabod yr holl bobl dwi’n ffrindiau gyda nhw ar Facebook. Ac mae’r bobl dwi’n ffrindiau gyda nhw ar Facebook yn ymddangos fel bod rhyw fath o gytundeb yna pam fyddaf yn derbyn cais ffrind (neu mae ffrind yn derbyn fi). Dwi ddim yn derbyn eu cyfeillgarwch yn unig, dwi’n gwneud mwy na hynny. Dwi’n arwyddo cytundeb rhith, sydd y clymu fi i wybod beth sydd yn digwydd yn dy fyd di, ac i’r gwrthwyneb. Gyda Twitter, gall ddewis dilyn pwy bynnag hoffet, ac efallai na fyddent yn dilyn ti yn l. Ydw, dwi yn dilyn rhai o fy ffrindiau ar Twitter, ac maen nhw yn dilyn fi (am ryw reswm), ond dewis ydyw. Os ydw i’n penderfynu dwi ddim eisiau dilyn ti, gallaf stopio. Os dwi ddim eisiau bod yn ffrind i ti ar Facebook, mae’n fwy tebygol bydd y person wedi cythruddo na os fyddwn i wedi stopio dilyn nhw ar Twitter. Mae’n anoddach darganfod person sydd wedi stopio dilyn ti ar Twitter nag i ffeindio cyn-ffrind ar Facebook. Ac am ryw reswm, dwi’n hoffi’r ffaith hyn.

Am ryw reswm, mae dadlau bach wedi bod yn y gorffennol (ac na, wedi meddwl). Dwi ddim yn gwybod am beth, nac yn pryderu am hyn. Ond fe ddywedaf un peth, os byddai pawb yn dysgu cau eu cegau (neu, o leiaf meddwl beth maen nhw’n ei ddweud cyn ei ddweud), byddai’r byd yn le gwell, Neu o leiaf yn le distawach. Ond na, rydym yn byw mewn gwareiddiad ble mae rhyddid i siarad yn rhoi hawl i bobl beidio meddwl beth maen nhw am ei ddweud.

Weithiau, dwi’n meddwl byddai wedi bod yn well os na fyddai dynoliaeth wedi symud ymlaen mor sydyn. Dwi’n gwybod fod hi wedi cymryd miloedd o flynyddoedd, ond oherwydd hyn rydym yn lle rydym heddiw. Beth dwi’n golygu ydy, yr oes hon ydy’r oes lle nad oes brwydr go iawn am oroesiad, dim problemau dydd i ddydd sydd yn bygwth bywyd (os nad wyt ti’n un o’r bobl yna sydd yn credu fod diwrnod gwallt drwg yn rheswm rhesymol i ladd dy hun ac os wyt ti, ti angen help). Yr unig beth mae pobl (wel, y rhan fwyaf o bobl, fel mae’n ymddangos i fi) yn poeni amdano ydy cael yn ‘high’, piso (neu feddwi) a chael rhyw.

Os byddwn ni yn yr un oes phobl Oes Y Cerrig, byddai rheswm i frwydro, rheswm i ofni. Ond, os wyt ti’n meddwl fod balwnau a chlowniau yn rheswm i ofni, nid yw’r un peth ofni gall dy deulu farw o ryw firws anadnabyddus neu wedi cael eu lladd yn eu cwsg.

Byddwn i wedi marw flynyddoedd yn l os byddwn yn byw’r bywyd hwnnw, ac eto, ni fyddet yn darllen hwn. Fel mae dynoliaeth yn symud ymlaen, mae’r angen i fod yn ymwybodol yn lleihau. Os yw hynny yn gwneud synnwyr.

Dwi ddim yn gwybod amdanat ti, ond dwi ddim yn gallu cofio’r tro diwethaf i mi fynd i’r gwyllt, a dychwelyd gyda mamoth i fwyd, Nid oes angen gwneud hyn nawr. Yr anifeiliaid mwyaf rydym yn eu lladd am fwyd ydy’r fuwch mae’n debyg. Efallai fy mod yn anghywir gyda’r ffaith yna, ond dwi’n golygu, nid oes angen i ni fyd i hela anifeiliaid peryglus am gwyd. A beth ydym yn ei wneud i lenwi’r bwlch hwn? Rydym yn lladd rhywogaeth ein hunain mewn rhyfeloedd am ein bod yn farus. Beth mae dynoliaeth wedi dod iddo?

Diolch i ti, fyd.

Eisiau mwy? Yna darllena fwy yng nghyfres Annwyl Fyd Crazy Distortion yr is-olygydd:

Annwyl Fyd Guitar Hero

Annwyl Fyd Marwolaeth

Annwyl Fyd Alcohol A Chyffuriau

Annwyl Fyd Duw

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl