Heb Gategori

Adolygiad – Gnomeo & Juliet

By -
Dim Sylwadau

English version

Mae’r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Adolygiad Gorau yng Ngwobrau CLIC 2011.

Nodyn: Mae ‘spoilers’ yn yr adolygiad yma, er gan fod hwn yn ffilm sydd yn ailaddasiad o glasur William Shakespeare, Romeo & Juliet, fe adawn iddo fynd

Teitl: Gnomeo & Juliet
Cyfarwyddwr – Kelly Ashbury
Serennu – James McAvoy, Emily Blunt, Maggie Smith
Rhyddhau – 11 Chwefror 2011
Amser rhedeg – 84 munud
Gradd – U

Nid oes amheuaeth fod William Shakespeare yn gwybod sut i ysgrifennu trasiedi. Byddai dadlau fel arall yn ffl. Ac wrth gwrs, dim ond mater o amser oedd hi cyn i’r ddrama fwyaf enwog gael ei gyflwyno i ieuenctid heddiw mewn ffordd wahanol i bennod o The Suite Life of Zack And Cody sydd wedi’i sgriptio yn sl.

Dwi, wrth gwrs, yn siarad am y twist diweddaraf ar Romeo a Juliet. A pwy fydda wedi dyfalu y byddai’n ymwneud chorachod gardd?

Be dwi’n ddweud ydy, ers y funud gwelais y rhaglun roedd mwy o ddiddordeb gen i nac yr oeddwn wedi meddwl i gychwyn, wedi cael fy nenu gan gast llawn sr os rhywbeth. Pwy fydda ddim eisiau gweld carw cart?n gyda llais Ozzy Osbourne? (A dyma oedd yr unig ffordd gallwn berswadio fy nghariad i ddod i’w weld gyda fi yn lle Paul). Ac mae’n rhaid i mi ddweud, er mai dim ond rhyw chwech o linellau dywedodd Ozzy trwy’r ffilm, dwi ddim yn meddwl mod i wedi stopio chwerthin.

Iawn, dwi’n gwybod fod o ychydig yn drist, er yn berffaith i mi, i eistedd drwy ffilm plant a’i fwynhau cymaint, ond gallaf sicrhau i ti, nid fi oedd yr unig berson dros saith oed yn chwerthin. Ti’n gwybod pam ti’n gwylio’r ffilm Disney yna roeddet ti’n caru fel plentyn ychydig flynyddoedd wedyn, pam mae dy synnwyr digrifwch wedi datblygu i sylweddoli ar jociau cyfrwys yna dylai’r un plentyn ddeall? Wel, mae Touchstone Pictures wedi perffeithio’r grefft o roi ychydig o chwarae ar eiriau clyfar bydd yn gwneud i unrhyw un o oedran ysgol uwchradd neu h?n chwerthin.  Mae’n sgil anodd iawn i berffeithio hefyd, oherwydd os ydy’r jc yn ormod ‘yn-dy-wyneb’. Gall plentyn iau sylweddoli a drysu am y peth a bod eisiau gadael. Ond, yn annhebyg i’r mwyafrif o jcs clyfar, nid oedd y rhain o’r natur rywiol ddisgwyliedig sydd yn aml yn cael ei ddefnyddio i gadw’r oedolion wedi’u diddanu.

Gan fod hwn yn ail ysgrifeniad o glasur llenyddol, roedd yn llawn dop o ddyfyniadau bach craff o waith gorau Shakespeare. O’r saethiad cyntaf o’r ddau d?, ble mae’r stori yn cael ei sefydlu (sydd, yn Verona Drive gyda llaw), roedd aelodau’r gynulleidfa sydd ag owns o wybodaeth lenyddol  yn gwneud wrth weld rhifau’r tai, enwau’r rhai oedd yn berchen ar y tai, y ffordd ei hun ble dyw’r stori byth yn gadael. Roedd rhai jcs yn llawer mwy cyfrwys, wedi’u cuddio yn nialog corachod oedd yn pasio trwy’r ffilm i gyd, yn cyfeirio nid yn unig at Romeo & Juliet, ond at Macbeth a gwaith arall enwog Shakespeare; ac wrth gwrs, pan ti’n sylweddoli ar un, ti’n cadw clust yn agored am fwy, yn gwrando’n astud i leisiau Michael Caine neu Maggie Smith (dyma fi yn gollwng enwau, craff ydw i yn de?) am fwy o ddanteithiau’r awdur.

Fel disgwylir, mae’r graffeg ac ati yn berffaith, ac mae’r holl beth 3-D yn gwneud o yn fwy c?l. Gallet ti ddim disgwyl dim llai gyda thechnoleg fodern y dyddiau hyn. Dwi’n dechrau swnio fel hen ddynes. Yn symud ymlaen. Beth oedd yn creu argraff arnaf i oedd yr ymdrech oedd wedi cael ei roi i wneud y corachod edrych fel eu bod nhw wir yn ceramig. Bob tro roeddent yn symud, roeddet ti’n clywed nhw’n cloncian! Dwi ddim yn gwybod pam, ond roedd hyn yn tynnu fy sylw yn benodol, ac roeddwn yn meddwl fod y manylder aeth i mewn i hyn yn haeddu adnabyddiaeth. Efallai mai dim ond fi yn gor-gyffroi ydy hyn. Eto, yn symud ymlaen.

Roedd y stori yn swynol, ac yn cadw’n ddigon agos i’r fersiwn Shakespeare i osgoi unrhyw laddfa ganoloesol gan y Gymdeithas Llenyddiaeth Danddaearol Gyfrinachol (ddim mor gyfrinachol ddim mwy. Ti ddim wedi clywed amdanynt gen i, iawn?).  Hyd at y diwedd, roedd ymdriniaeth glyfar i bob nodwedd o’r stori oedd yn gadael iddo fod yn fwy cyfeillgar i blant. Roeddwn wedi synnu gweld eu bod wedi lladd y Tybalt drwg! I’r rhai ohonoch sydd yn cwyno am ‘spoilers’, taw, mae pawb yn gwybod beth sydd yn digwydd. Os ydw i’n gwbl onest, byddwn i’n dweud fy mod i’n eithaf siomedig nad oedd Gnomeo a Juliet wedi marw fel y dylai nhw, ond dwi’n tybio na fedri di obeithio am hynny mewn ffilm plant. Ydy hyn yn gwneud i mi swnio ychydig yn ddrwg? Dwi yn gobeithio swnio fel fy mod i’n ffyddlon i Shakespeare, ac nid yn llofruddiwr corachod gwyllt.

Dwi wedi gwneud y peth yna dwi’n ei wneud pan fyddaf yn llywio yn bell oddi wrth y pwnc. Dim ots, dwi am gloi nawr.

Mae’r ffilm yma o’r fath sydd efo rhywbeth i wneud i’r teulu cyfan chwerthin, o’r cwningod bach carreg ddoniol a chiwt, i’r corrach sydd yn edrych yn debyg iawn i’r cynhyrchydd gweithredol Elton John, i’r chwarae ar eiriau dirgel sydd yn cyfeirio at ein dramodydd gorau. Efallai fod y ffilm wedi’i radio yn U, ond paid gadael i hyn dwyllo ti; fe fyddet ti’n chwerthin. Yn sicr. I ddweud y gwir, os wyt ti’n ffeindio rhywun sydd yn gweld y ffilm a ddim yn ei fwynhau, yna byddaf i yn bwyta fy het. Neu o leiaf cymaint ohono ag sy’n bosib. Felly cer amdani, cymera’r sialens. Dwi’n beiddio ti i feiddio chwerthin unwaith.

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl