Heb Gategori

Adolygiad Iron Maiden

By -
Dim Sylwadau

English version

Helo, dwi am adolygu’r albwm 2010 Iron Maiden, The Final Frontier.

Mae yna gymysgedd neis o fetel trwm, a rhannau reit ysgafn, fel ar gychwyn y rhan fwyaf o’r caneuon, sydd yn cychwyn yn ysgafn, ac yna’n naill ai’n neidio i’r trymach neu yn gwneud trawsnewidiad esmwyth.

Maent yn cyfuno testunau fel teithio gofod, rhyfel ac Armageddon niwclear mor anhygoel fel dy fod eisiau rhedeg i guddio. Maent hyd yn oed yn siarad am hanes yn un gn, ond nid mewn ffordd ddiflas.

Maent yn siarad am dduwiau a lle gorffwys y Brenin Arthur yn The Isle Of Avalon

Y caneuon a fy nheimladau i arnynt:

The Final Frontier – Mor anhygoel. Ti’n meddwl ei fod ar goll yn y gofod go iawn.
El Dorado – Eithaf trwm.
Mother Of Mercy – Mor wir, mae rhyfel yn uffern.
Coming Home – Teimladwy iawn.
Starblind – Ychydig yn rhy drwm i mi.
The Isle Of Avalon – Yn eithaf arswydus.
The Alchemist – Stori gymhleth iawn yma.
The Talisman – Hefyd yn hanes cymhleth.
The Man Who Would Be King – Caru’r gn ond ddim yn deall y stori.
Ac yn olaf
When The Wild Wind Blows – Os bydda gen i gn ffefryn, dyma fydda ef. Mae’n dweud hanes hen gwbl, sydd yn clywed gallai fod rhyfel, felly maent yn adeiladu lloches ac yn byw ynddo. Mae’r dydd yn cyrraedd pan maen nhw’n camgymryd daeargryn am ffrwydrad niwclear ac yn lladd eu hunain. Mae’r alaw yn cyd-fynd efo’r geiriau a’r stori yn berffaith.

Mae’r albwm hwn yn epig, dwi’n awgrymu i bawb wrando arno. Gad sylwad ar yr erthygl yma pls.

Dim sbam.
Dim cyfreithwyr.
Dim pobl gwerthu.

www.ironmaiden.com

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl