Nitwit! Blubber! Oddment! Tweak!

By -
Dim Sylwadau

English version

Un deg pedwar blynedd yn ôl , ymddangosodd bachgen bach tenau, gyda sbectol, o’i gwpwrdd o dan y grisiau i ddarganfod llythyr ar fat croeso ei ewythr.

Heddiw, rydym yn gweld siwrne Yr Un A’i Dewiswyd yn dod i derfyn.

Yn ifanc iawn yn 8 oed, cefais fy amlygu i fyd Harry Potter. O’r cychwyn cyntaf pan dynnodd y dewin gorau mewn hanes ei datoleuwr (deluminator) yn Privet Drive, roeddwn i wedi fy machu. Roeddwn i, ynghyd â miliynau o bobl yn fyd eang, yn Potterhead, ac yn un falch iawn hefyd.

Rydym wedi tyfu i fyny gyda Harry Potter. Wrth i ni dyfu’n hŷn felly hefyd gwnaeth y llyfrau, yn tyfu’n fwy tywyll gyda phob tudalen. O’r amser pan ddarganfyddai Harry fod ganddo waed hudol i’r amser dinistriodd y horcrux diwethaf, roeddem ni yn sefyll wrth ei ochr fel y trydydd cymar.

Roedd empathi gyda ni am y Drych Erised, yn dathlu ar y cae Quidditch ac yn dal ein gwynt am y cyrch oedd yn wynebu ein tri arwr. Mae Harry Potter wedi bod yn rhan barhaus yn fy mywyd ers iddo ddod i’r sinema am y tro cyntaf yn 2001, ac felly, gyda chalon drom caeais fy nghopi o Harry Potter And The Deathly Hallows.

Wrth gwrs doedd y ffilmiau dim gwahanol, ac felly roeddwn i wedi cyffroi ond yn bryderus wrth fynd i’r Vue yn Ferthyr i wylio’r ffilm ddiwethaf yn y ffenomena Potter.

Cyn i mi barhau, hoffwn ymddiheuro am unrhyw ddifethwyr (spoilers) efallai byddaf yn sôn amdanynt yn ddamweiniol yma. Gan fy mod wedi darllen y llyfr cyn gweld y ffilm, ni fedraf wahaniaethu pa bethau ddylwn i wybod cyn ei wylio.

Wel, i fod yn gwbl onest, dylai’r term ‘spoiler’ gael ei wahardd wrth ddisgrifio ffilmiau Harry Potter. Os wyt ti eisiau gwybod beth sydd yn digwydd, yna darllena’r llyfr. Paid cwyno pam ti’n darganfod ar ddamwain, gan fod y plot ar gael i’r cyhoedd bedair blynedd yn ôl. Ond dwi’n crwydro.

Tocynnau wedi’u bwcio, sbectol ymlaen, a chraith sip bollten mellt wedi’i lunio ar fy nhalcen, roeddwn dal yn teimlo’n hollol amharod am beth oeddwn ar fin gweld. Mae Harry Potter And The Deathly Hallows Rhan 2 yn anhygoel, disgleirdeb pur o’r cychwyn i’r diwedd. Ond wrth gwrs, sut gallai fod yn unrhyw beth ond?

Diweddglo’r profiad gwych Potter, roedd hi’n annhebyg iawn iddo fod yn sl, nac oedd? Roeddwn yn disgwyl CGI gwych,  cyfarwyddyd dihafal, deialog gafaelgar ac wrth gwrs roeddwn yn disgwyl wylo, ac ni chefais fy siomi. Cafodd fy nisgwyliadau uchel eu rhagori, ac mae hynna yn rhywbeth, coelia di fi.

Deathly Hallows Rhannau 1 a 2 ydy’r unig ffilmiau Potter dwi ddim wedi gallu darganfod nam ynddynt, ac mae hynny yn dangos pa mor ffyddlon oedd Warner Brothers i’r llyfrau. Am unwaith, roedd popeth roeddwn wedi’i brofid wrth ddarllen gwaith hyfryd J.K.Rowling wedi’i bortreadu yn yr union safon roeddwn wedi’i ddychmygu, ac mae’n rhaid diolch i’r cyfarwyddwr David Yates am hyn.

Os nad yw’n derbyn rhyw fath o wobr am hyn, yna bydd rhaid i mi droi’n ffyrnig. A dwi’n golygu’r math o ffyrnig fel yr Horntail Hwngareg, Aragog a Fluffy Y Ci. Bydd pethau’n flêr.

Ychydig gallaf ddweud am Deathly Hallows Rhan 2 heb ddatgelu unrhyw ran fawr o’r plot. Mae’r ffilm mor llawn o antur, hud gwirion a chwifio hudlath ffôl a byddai bod yn benodol yn golygu byddwn yn dweud yn union beth sydd yn digwydd. Dwi’n tybio nad yw pawb eisiau hyn, felly dwi am frathu fy nhafod. Gan fy mod i’n neis fel yna.

Beth dwi am ddweud wrthyt ti ydy fy mod i wedi wylo fel Mandrake. Dwi wir heb wylo cymaint am ffilm yn fy mywyd. Tuag awr i mewn i’r ffilm, mae’r gerddoriaeth enwog Harry Potter yn dechrau chwarae yn y cefndir, ac o’r funud honno roeddwn yn wylo fel babi bach. Nid oes gen i gywilydd cyfaddef.

Roedd y ffilm yn nodi diwedd cyfnod, ac roedd wedi’i gyfarwyddo a’i actio mor brydferth fel y byddwn i’n poeni os fyddwn i ddim wedi gofidio. Hyd yn oed nawr mae gen i lwmp yn fy ngwddf maint bezoar, dim ond o feddwl na fyddaf byth yn cyffroi dros Harry Potter byth eto.

Mae fel cael plentyn yn tyfu i fyny a gadael gartref; fe fyddi di yn parhau i’w gweld, ond nid oes mwy o brofiadau cyntaf i edrych ymlaen atynt. Mae hyn yn drosiad gwan, ond fel hyn dwi’n teimlo. Felly siwia fi.

Mae Harry Potter yn gymaint mwy na chyfres bellach. Mae ganddo fwy o ffans nag unrhyw lyfr plant arall, gyda miliynau o ffuglenni-ffans, gwefannau, celf-ffans a fideos dros y we i gyd. Mae’r llyfrau efo parc thema eu hunain, ac mae genre o gerddoriaeth gelwir yn Roc Dewin wedi cael ei sefydlu ers troad y mileniwm.

Os gallet ti ddweud yn onest wrthyf i fod Harry Potter yn llwyth o sbwriel, yna byddaf yn cael fy ngorfodi i ddefnyddio hecs bogi-ystlum arnat ti. A choelia di fi, ti ddim eisiau hynny.

Wrth gwrs, dyw diwedd y gyfres ddim yn golygu diwedd Harry Potter. Byddaf i yn parhau i fwmian dyfyniadau yn ddistaw neu’n canu ‘Hogwarts Hogwarts Hoggy Warty Hogwarts’ mewn adegau o orfoledd. Byddaf yn ail ddarllen y gyfres unwaith eto ac yn cynnal marathon Potter, yn mynnu fod pawb sydd yn mynychu wedi gwisgo yn y dillad dewin cywir.

Ni fydd y genhedlaeth Harry Potter o muggles yn anghofio’r byd dewin yma yn hawdd iawn, ac ar ôl saith llyfr, wyth ffilm, tri arwr, un gymuned o ffans a gormod o wobrau i sôn amdanynt, gall Harry Potter a J.K.Rowling gymryd eu lle yn sicr ar frig cyflawniadau mwyaf Prydain.

Ac wrth i mi olchi fy nghraith oddi ar fy nhalcen a galaru dros y diwedd, dwi’n cael fy atgoffa o eiriau dyn mawr iawn:

“I’r meddwl trefnus, nid yw marwolaeth yn ddim ond yr antur fawr nesaf”.

Wedi’i ddweud yn dda, Albus. Da iawn.

Harrypotter.warnerbros.com
www.jkrowling.com

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl