NadoCLIC #1

By -
Dim Sylwadau

English version

Croeso i ffenestr #1 o’r Calendr Adfent NadoCLIC! Os hoffet ffenestr dy hun i ddangos dy stwff Nadolig (neu dylai hynny fod yn stwffin!!!) a chael cyfle i ennill Nintendo 3DS yna e-bostia sam@cliconline.org.uk cyn gynted phosib.

Preswyl Nadolig CLIC

Nodyn – Hoffwn ymddiheuro o flaen llaw am beidio gallu cael enwau pawb i mewn i’r stori yma. Byddai wedi bod yn hunllef ceisio cael pawb i mewn iddo, a dwi ddim wedi cael y pleser o gyfarfod pawb eto, ond mae pawb yn rhan o’r stori, er nad yw dy enw ynddo. Felly os dyw dy enw ddim yn y stori yma, dwi’n sori ond dychmyga dy hun yna! Ei bwrpas yw i bawb fod yno. Dwi am gau fy ngheg nawr a gadael i ti ddarllen y stori. Dwi’n gobeithio byddi di’n mwynhau ac yn gobeithio rhywsut bydd hwn yn cael ti i mewn i ysbryd y Nadolig.

Roedd hi’n 21ain o Ragfyr ac roedd bws llawn o CLICwyr yn canu carolau Nadolig. Ar l ychydig fisoedd o erfyn a phledio, yn y diwedd rhoddodd CLIC yr anrheg Nadolig perffaith roedd y CLICwyr eisiau – preswyl Nadolig. Roedd y bws yn llawn o s?n cr anhrefnus yn canu gyda Mistletoe and Wine gan Cliff Richard. Roedd rhai pobl yn ceisio dawnsio fel Syr Cliff ei hun yn y fideo, ond roedd y bws yn symud yn gwneud iddo edrych yn fwy doniol.

Ar l beth oedd yn teimlo fel oriau – er nid mor hir ‘r siwrne fws i’r preswyl yn Ynys Mn – dyma nhw’n cyrraedd y caban pren yn Ffrainc, eu lleoliad am y 48 awr nesaf. Dechreuodd y bws lenwi gyda suo cyffro. Aeth Ryan i flaen y bws a gafael yn y meicroffon.

“Reit ta, rydym wedi cyrraedd Cabine D’hiver De Noel o’r diwedd, y caban pren rydym yn aros ynddi am y ddwy noson nesaf. Nawr, unwaith rydych chi wedi casglu eich bag, ewch i mewn i’r ystafell fwyta, bydd bwyd yn cael ei weini yn fuan, ac yna byddwn yn clustnodi ystaf”

Cafodd Ryan ei ymyrryd gan Victoria o RCT oedd yn gyffrous iawn ac yn pwyso ei hwyneb yn erbyn un o’r ffenestri gan weiddi “O MAI GOD! CEIRW! CEIRW GO IAWN!”

Dechreuodd bawb greu ffwdan, gwthio heibio Ryan druan a dianc o’r bws o weld y creaduriaid prydferth. Yn fuan wedyn, ymunodd y staff y CLICwyr ac aethant i weld y ceirw.

“Dan! Dan! Tynna llun ni gyda’r ceirw!” roedd Tomm o Gasnewydd yn swnian. Tynnodd Dan ei gamera allan wrth i Tomm, Victoria a Jazz o RCT, Jess ac Adam o Fro Morgannwg sefyll am lyn gyda’r ceirw. Cyn hir cychwynnodd oeri tu allan felly aeth pawb i mewn, rhoi eu bagiau ar y dalwyr bagiau ac i mewn i’r ystafell fwyta i gael bwyd.

“Dwi’n gobeithio nad dim y stwff Ffrangeg arferol ydyw. Dwi wedi cael digon o hynny ar fy ymweliad diwethaf,” mwmiodd Jazz.

“Dwi ddim yn meddwl bydd rhaid i ti boeni am hynny,” meddai Dan wrth iddo bwyntio tuag at y cownter.  “Mae’n edrych fel ein bod yn cael pitsa.”

Dechreuodd pawb giwio am y bwyd cyn eistedd i lawr a bwyta’r pitsa hyfryd. Unwaith orffennodd pawb, dyma Kath yn sefyll ym mlaen y neuadd fwyta a chlirio ei gwddf.

“Reit, croeso pawb! Dyma’r preswyl Nadolig. Bydd hwn yn wahanol i’n penwythnosau preswyl arferol oherwydd, wel, mae hi’n Nadolig, felly cewch wneud pethau ychydig yn wahanol. Mewn ychydig funudau byddwch yn mynd i fyny ac yn cael eich ystafelloedd, yn cyfarfod y bobl sydd yn rhannu ystafell gyda chi yna’n dod yn l i lawr mewn awr i ni gael yn barod i fynd i ymweld ‘r Pentref Nadolig i lawr y ffordd. O, ac mae’ch blancedi yn ystafell Gareth eto.”

Cyn iddo gael cyfle i ddianc, cafodd Gareth ei ddilyn gan bawb i nl eu blancedi. Pan gyrhaeddodd ei ystafell, agorodd y drws yn sydyn a sefyll yn y bwlch drws, yn atal pawb rhag peledu i mewn i’r ystafell.

“Araf wan pawb! Oes wir yr angen am yr holl anrhefn yma?” meddai.
“Oes!” meddai Jazz.
“Wel, dwi’n dweud nad oes angen. A gan mai fy ystafell i ydy hwn, a dwi ddim yn hoffi’r syniad o gael fy nghuro gennych chi i gyd wrth i chi geisio cael clustogau a blancedi ac ati, byddaf yn eu pasio trwy’r drws i chi gwffio drostynt eich hunain.”

Gyda hyn, caeodd y drws. Ychydig funudau wedyn, daeth yn l gyda bwndel eithaf mawr o flancedi a chlustogau a rhoddodd popeth yng nghanol y cyntedd cyn mynd yn l i’w ystafell yn sydyn cyn i bawb ceisio cael at y blancedi a’r clustogau. Roedd rhai pobl yn dechrau deifio am y pentwr ac eraill yn disgwyl yn amyneddgar. Unwaith roedd y pentwr wedi diflannu, aeth pawb i nl eu bagiau cyn mynd i weld pwy oedd yn rhannu ystafell gyda nhw.

Pasiodd y ddau ddiwrnod yn sydyn gyda nifer o weithgareddau fel siopa Nadolig, reid ar gar llusg, gweithdai erthyglau Nadolig ac Mae Gan CLIC Dalent arbennig gyda thema Nadoligaidd oedd yn cynnwys y dawnswyr Swoosh anhygoel, dawnsio gwych gan Nick a’r ddau Aaron o Sir y Fflint, fersiwn Nadolig o Single Ladies gan Sam o theSprout a Tomm o Gasnewydd (y ddau yn gwisgo het Sin Corn) a chanu ar y cyd gyda Paul o Defaid a’i gitr.

Ar fore’r diwrnod gadael am adref, cafodd pawb yn barod a chael ychydig o frecwast. Er, roedd Jess a Ben o Gastell Nedd Port Talbot yn gweld y staff yn eistedd o gwmpas bwrdd, yn edrych fel petaent yn poeni.

“Beth wyt ti’n meddwl sy’n bod?” gofynnodd Jess.
“Dwi ddim yn si?r be am ofyn?” dywedodd Ben, oedd yn cadw golwg ar y sefyllfa.
“Iawn, ond cer di gyntaf.”
Gwthiodd Jess Ben o’i sedd a drosodd at y staff.

“Ydy popeth yn iawn?” gofynnodd Ben, oedd i weld yn poeni braidd.
“Rydych chi’n edrych fel bod pwysau mawr arnoch chi. Oes rhywbeth o’i le?” ychwanegodd Jess.
“Gewch chi wybod mewn ychydig,” meddai Tania gan ffugio gwen.
“Oes rhywbeth gallwn ni wneud?” gofynnodd Jess.
“Oes,” meddai Arielle. “Fyddech chi’n gallu mynd o gwmpas y caban a chael pawb i mewn i’r lolfa os gwelwch yn dda?”

“Wrth gwrs!” meddai’r ddau ac i ffwrdd a nhw i gwblhau’r dasg roedd ganddynt.

Ychydig funudau wedyn, roedd pawb yn eistedd yn y lolfa yn siarad gyda disgwyliad, yn pendroni pan fod cyfarfod wedi cael ei alw.

“Gawn ni eich sylw pls!” galwodd Ryan.

Distawodd pawb.

“Reit, mae gennym newyddion bod hyn yn dda neu beidio mae hynny i fyny i chi efallai bydd rhai ohonoch yn meddwl fod hyn yn newyddion da i eraill, efallai ddim. Gartref ym Mhrydain, mae’r eira yn eithaf drwg.”

‘Mae ganddyn nhw eira adref a does gennym ni ddim? Annheg!” gwaeddodd Ant o Sir y Fflint.

“mae’r eira mor ddrwg,” parhaodd Ryan, “fel nad ydynt yn derbyn unrhyw ddychweliad o du allan i’r wlad, felly mae hynny’n golygu bod rhaid i ni aros yma am ddiwrnod arall o leiaf.”

Dechreuodd yr ystafell dorri i mewn i s?n mawr a chynnwrf. Doedd y CLICwyr ddim yn gwybod sut i ymateb.

“OND!” galwodd Dan. “Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau yna gadewch i ni wyb”

Cyn i Dan fedru gorffen ei frawddeg, torrwyd ar ei draws.

“DISNEYLAND!” gwaeddodd Jazz. “CERWCH A NI I DISNEYLAND!”

Gwaeddodd pawb “Ia!” mewn cytundeb.

“Dwi ddim yn meddwl gallwn ni fforddi”

“Fedra i! Fedra’i dalu am bawb! Mae gen i gerdyn credyd! A dwi’n adnabod pobl yn Disney fydd yn rhoi disgownt i ni. O pls? Pls? Mae mor Nadoligaidd yma amser yma’r flwyddyn! Gallwn ni adolygu’r reidiau a’r atyniadau, gweld y pared Nadolig, pls?!”

Roedd pawb i weld yn hoffi’r syniad ac yn dechrau siantio “Disney! Disney! Disney!”

Wrth i’r siantio parhau, edrychodd y staff ar ei gilydd cyn edrych yn l at y CLICwyr awyddus.

“Iawn ta,” gwenodd Kath.

Gwaeddodd pawb wrth i Sam, Is Olygydd theSprout a Ryan, fynd i siarad gyda’r gyrrwr bws.

O fewn ychydig oriau, roedd y gang CLIC yn Disneyland. Cafodd pob gr?p fap o’r ddau barc ac amserlen o’r sioeau.

“Reit, bydd rhaid i bawb gyfarfod ger y castell am 5pm yn barod am y pared. Rydym hefyd wedi llogi balconi gwesty Disneyland i gael golygfa dda o dn gwyllt heno,” meddai Geoff.

Roedd y cyffro yn gorlifo ymysg y CLICwyr wrth i bawb fynd eu ffordd wahanol. Roedd cymaint i wneud a cymaint i weld. Aeth pobl fel Beth o Ynys Mn a Adam ar y reidiau mawr, antur fel Big Thunder Mountain a Space Mountain, aeth Jazz, Vicky, Jess a Sam i gael tynnu eu lluniau gyda’r cymeriadau ac archwilio rhyfeddod Tir Ffantasi, tra aeth rhai o’r rhai mwy dewr fel Callum a Danial o Ynys Mn ac Ant a’r ddau Aaron o Sir y Fflint, i Stiwdios Walt Disney i fynd ar yr Aerosmith’s Rockin Rollercoaster.

Ar l i bawb amsugno hud Disney, aeth pawb yn l i’r castell i gyfarfod fel cynlluniwyd, cyn cael lle da i eistedd i wylio’r Pard Nadolig. Cytunodd pawb i eistedd o gwmpas yr arddangosfa flodau ar y palmant – golwg perffaith o’r ffltiau. Munudau wedyn cychwynnodd y pard.

“Mesdames et Messieurs! Disney est fier de presenter La Parade De Noel! Boneddigion a boneddigesau! Mae Disney yn falch o gyflwyno’r Pard Nadolig!”

Cychwynnodd y pared gyda ffltiau gwych gyda chymeriadau Dinsey yn canu ac yn dawnsio arnynt yn dod i mewn i’r parc, gyda’r gerddoriaeth Nadoligaidd yn chwarae.

“Chante! C’est Noel! Canwch, canwch gn Nadolig! Chante! C’est Noel! Yr adeg hyfryd yna o’r flwyddyn!”

Dechreuodd y CLICwyr ddawnsio i’r gerddoriaeth, cymryd lluniau a chymryd yr ysbryd Nadoligaidd hudol Disney i mewn. Fel arfer, roedd Jazz yn emosiynol yn ystod y pared – mae hi wedi gwneud hyn ers iddi ddod am y tro cyntaf pan oedd hi’n dair oed – felly gafaelodd Sam yn dynn arni a dechrau dawnsio gyda hi. Ychydig wedyn gwelodd Chip a Dale, y gwiwerod rhesog hyn a thynnu ychydig o’r CLICwyr allan i ddawnsio yn y pared. Aeth Victoria, Sam, Jazz, Tomm, Adam, y ddau Jess, y ddau Aaron, Nick, Danial, Callum a Beth allan gyda’r cymeriadau a dechrau dawnsio gyda nhw tra roedd Dayana a Gareth yn ffilmio a Dan yn tynnu lluniau o’r digwyddiad doniol ond hwyl. Ychydig wdyn, gorffennodd y pared ac aeth y gang CLIC i weld ychydig o sioeau Nadolig cyn mynd i fyny i’r balconi i weld y tn gwyllt.

Roedd yr arddangosfa yn anhygoel. Dechreuodd y CLICwyr waeddi ‘www’ ac ‘aaa’  ar yr arddangosfa liwgar ddigwyddodd o’u blaen. Roedd hwn yn annhebyg i’r arddangosfeydd cawslyd roeddent wedi’i weld gartref. Roedd hyn yn wahanol iawn. Rhywbeth hudol. Roedd pawb yn tynnu lluniau ac yn edmygu’r patrymau prydferth oedd yn dawnsio yn yr awyr cyn mynd yn l tuag at y bws ac yn l adref.

Pan ddaethom yn l i’r caban pren unwaith eto, roedd pawb wedi blino yn lan a phenderfynwyd ei bod yn amser gwely.

Y bore wedyn roedd hi’n Noswyl Nadolig. Cymaint roeddent yn caru CLIC, roedd pawb yn gobeithio byddant yn cyrraedd adref heddiw. Wrth i Dan agor y llenni, cafodd ei gwrdd gan gymaint o eira; roedd o’n gorchuddio’r olygfa tu allan.

“Hmm dwi’n meddwl fod yna broblem” mwmiodd. Roedd rhai o’r bobl ifanc wedi clywed ac edrychant allan o’r ffenestr.

“Ti yn jocan!”
“Sut ydym ni am gyrraedd adref?”
“Mae hi’n Nadolig yfory!”

Roedd Ryan newydd orffen siarad ar y ffn.

“Sori bawb, mae’r eira wedi cau i mewn arnom ni, rydym yn sownd.”

Ochneidiodd pawb mewn harmoni.

“Peidiwch phoeni, bydda ni’n ceisio gwneud hwn yn Nadolig gwych i chi!”

“Ia!” meddai Dayana. “Dewch, fe wna’i bwth lluniau efo chi a gawn ni wneud lluniau Nadolig doniol i yrru adref i’ch teulu a’ch ffrindiau gartref!”

Fe wnaeth y staff eu gorau glas i adlonni’r bobl ifanc. Pan gyrhaeddodd y nos, roedd pawb wedi casglu o gwmpas y piano, ble roedd un o’r CLICwyr yn chwarae carolau Nadolig a phawb yn ymuno i mewn, yn canu. Yn sydyn dyma’r drws yn agor yn sydyn.

“Ho! Ho! Ho! NadoCLIC Llawen!” meddai Ryan, oedd wedi gwisgo fel Sin Corn.

O’i flaen roedd Dan wedi gwisgo fel Rudolph a thu l iddo roedd Tania a Kath wedi gwisgo fel dau goblyn. Cychwynnodd pawb chwerthin a hel at ei gilydd.

“Os wnaiff pawb gael mewn llinell, fe wna’i adael chi i mewn i’m groto a gallwch ddweud wrthyf os ydych chi wedi bod yn dda eleni a beth fyddech chi’n hoffi!

Aeth pawb i mewn i linell i ddweud eu dymuniad wrth Ryan tra rhoddodd Dan fag rhoddion CLIC iddynt a chafodd pob CLICiwr dynnu llun gyda Sin Corn, Rudolph a’r ddau goblyn.

Ar l ychydig o hwyl a chwerthin, ffilm Nadolig (y clasur Muppets Christmas Carol wrth gwrs) ac ychydig o snacs, roedd hi’n hwyr unwaith eto ac aeth pawb i’r gwely.

Yn y bore, aeth pawb i lawr y grisiau a chael eu cyfarch gan rywbeth oedd yn syndod mawr. Roedd yr ystafell yn llawn anrhegion. Roedd digon fel bod mwy nag un anrheg i bob person ac roedd pob un efo enw arnynt. Sut gallent fod wedi gwneud hyn? Oedd yr holl beth wedi’i gynllunio?

“HO! HO! HO!”

Trodd pawb o gwmpas i weld Sin Corn yn sefyll tu l iddynt.

“Ryan, wnes di gysgu yn y siwt yna?” gofynnodd Adam.

“Ymm, Adam dwi tu l i ti” sibrydodd Ryan.

“SIN CORN YDY O!” gwaeddodd Victoria gan neidio i fyny ac i lawr.

“Disgwyl am funud. Sut ydym ni’n gwybod ei fod yn wir?” meddai un Aaron.

Cerddodd tuag at y dyn hapus mewn coch a thynnu ar ei farf.

“Aw!” gwaeddodd y dyn. “Aaron, os wyt ti’n gwneud hynna eto, byddaf yn cymryd dy anrhegion ac yn rhoi lwmp o lo yn ei le.”

“Iawn, mae o’n wir!” gwaeddodd Aaron cyn dychwelyd i ble roedd yn sefyll yn wreiddiol.

“Fe glywais eich dymuniadau neithiwr,” meddai Sin Corn. “A gan eich bod chi mor anffodus yn cael yn sownd yn Ffrainc, gallwn i ddim helpu ond dod a beth roeddech chi eisiau! Nawr, agorwch eich anrhegion. Mae’n rhaid i mi frysio adref, mae Mrs Corn wedi coginio bisgedi. Hwyl fawr! Nadolig Llawen! Ho! Ho! Ho!”

A gyda hynny, diflannodd y dyn hapus.

Aeth pawb i chwilio am eu hanrhegion. Pan agorwyd nhw, roedd pawb wedi cael yn union beth roeddent wedi dymuno’r noson cynt.

Roedd yn Nadolig bythgofiadwy ac yn debyg y Nadolig gorau roedd y gang CLIC wedi cael erioed.

Dwi’n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r stori ac yn wir obeithio bydd rhywbeth fel hyn yn digwydd (hint, hint :D) ond dwi wir yn dymuno Nadolig (neu NadoCLIC) Llawen iawn a Blwyddyn Newydd gwych i bawb. Dwi’n gobeithio eich bod yn cael beth rydych yn dymuno ac yn cael amser gwych. Gobeithio gweld chi’n fuan! X

Calendr Adfent NadoCLIC

Wyt ti’n ysgrifennwr, ffotograffydd, gwneuthurwr ffilm, darlunydd, DJ, cerddwr, animeiddiwr, blogiwr, bardd neu’n greadigol yn gyffredinol sydd efo rhywbeth i ddweud am y Nadolig? Wel, e-bostia sam@cliconline.org.uk i gael cyfle i gael ffenestr NadoCLIC dy hun nawr a chyfle i ennill Nintendo 3DS!

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl