Ofni Sin Corn

By -
Dim Sylwadau

English version

Felly, mae’n Nadolig (wel, bron). Yr adeg yna o’r flwyddyn sydd yn ymwneud ag anrhegion y teledu ac wrth gwrs, y dyn mawr llon yn y siwt goch. Mae llwyth o blant yn cyffroi gyda’r disgwyliad o Sin Corn. Ond, ychydig flynyddoedd da yn l, roedd yna ferch ifanc oedd ag ofn mawr o Santa. Yn brawychu gyda’r syniad ohono’n dod yn agos ati. Y ferch ifanc yna oedd fi.

Ia, roeddwn i ofn Sin Corn. Wrth edrych yn l, roedd hwn yn ofn hollol wirion, ond mae pawb yn fy nheulu yn meddwl ei fod yn ddoniol ac wrth eu boddau yn rhannu eu hatgofion ohono dros y Nadolig. “Cofio’r amser pan wrthododd Jazz fynd i’r un ganolfan siopa rhywun oedd wedi gwisgo i fyny fel y Sant Nicolas?” Ia, ia, doniol iawn iddyn nhw. Ond, dychmyga sut roeddwn i’n teimlo! Roeddwn i efo ofn mawr! Ond, eleni, dwi wedi penderfynu ceisio gweld yr ochr ddoniol o bethau. Roeddwn hefyd yn meddwl byddwn i’n gwneud i chi giglan ychydig, felly dwi am rannu fy mhrofiad o Sin Corn.

Dwi ddim yn cofio yn union sut gychwynnodd yr ofn, ond mae nain yn dweud ei fod wedi cychwyn pan oeddwn yn ddwy oed. Roedd hi’n gyfnod y Nadolig ac roedd mam, nain a finnau yn mynd i Sommerfield i gael bwyd ar gyfer y Nadolig. Roedd Sin Corn y tu allan yn hyrwyddo’r bargeinion yn y siop ac aeth mam a fi i’w weld. Penderfynodd y dyn llon byddai’n syniad da i gymryd fi o freichiau fy mam i’m dal. Syniad drwg. Dechreuais sgrechian nerth fy llais am fod i’n meddwl ei fod yn dwyn fi o’m mam (ac roeddwn i’n sownd i ochr mam y dyddiau hynny, yn casu bod oddi wrthi) felly cymerodd mam fi’n l yn sydyn a phrynu losin i mi i geisio gwneud fi’n hapus. Bydda ti’n meddwl mai dyma fydda ddiwedd hi, ond na.

Bob blwyddyn nes oeddwn yn saith, roeddwn ofn bob Nadolig am fod Sin Corn i fod i ddod am hanner nos gyda’m hanrhegion. Yn amlwg, nid allai fy nheulu adael fi yn y fath gyflwr ond nid allent ddweud wrthyf nad oedd yn wir, gallan nhw? Doedden nhw ddim i wybod nad fyddwn i yn mynd i’r ysgol ac yn dweud wrth y plant eraill i gyd ac yna byddai Nadolig nhw wedi cael ei ddifethaf gennyf i. Byddwn i byth yn gallu byw gyda hynny chwaith. Felly, beth oedd ateb fy rheini?

“Paid phoeni, mae Taid Griff yn gweithio i Sin Corn. Mae wedi siarad gydag ef ac mae’r ddau wedi dod i gytundeb. Bydd Sin Corn yn parcio ei sled hanner ffordd i fyny’r stryd, yna bydd Taid Griff yn mynd ato, yn casglu’r sach o dy anrhegion ac yn dod a nhw atat ti, ia?”

Roedd rhaid i Taid “gasglu” nhw i mi er mwyn i mi dawelu. Ond, pan farwodd taid, y Nadolig hwnnw roedd rhaid i mam ddweud “Mai’n iawn, mae Nain wedi cymryd y gwaith drosodd ac mae hi am gael tacsi i fyny a hi fydd yn casglu dy anrhegion yn lle.”

Nawr, parhaodd hyn am ychydig flynyddoedd. Yn ystod y blynyddoedd hynny, roedd mam yn ceisio cael fi i wynebu fy ofn o Sin Corn gan wneud amryw o bethau. Un ohonynt oedd ymweld ag ef yng Nghanolfan Garddio Caerffili gyda fy llysfrawd wrth i ni godi ef i fyny o’i d?. Weithiodd hyn? Naddo! Mae yna lun dwi’n casu. Dwi ddim am ei roi gyda’r erthygl yma i arbed embaras i fi fy hun, ond dychmyga hyn – merch fach mewn cot ffwr dalmation ffug gydag wyneb sydd yn edrych fel petai wedi gweld ysbryd, mam mewn siwmper Nadolig yn gafael yn yr eneth fach yna ar lin Santa sydd ddim yn rhy hapus ac yn gwenu gwen ffug iawn. Ia, nid rhywbeth fyddaf yn dangos i’m mhlant (OS dwi’n cael plant) yn y dyfodol.

Wel, parhaodd yr holl ffwdan yma am yr hen Sant Nic tan oeddwn i tua 7 neu 8 pan sylweddolais fod y moron roeddwn wedi gadael i Rudolph (hei, er nad oedwn yn hoffi Sin Corn doedd hyn ddim yn golygu nad oeddwn yn hoffi Rudolph. Roeddwn yn caru ceirw. Dwi dal yn) ym masged y ci. Dros y pythefnos nesaf sylweddolais ar bethau eraill hefyd, roedd fy anrhegion wedi’i lapio yn yr un papur lapio roedd mam wedi’i brynu. Roedd plant yn yr ysgol wedi dechrau credu nad oedd yn wir hefyd. Felly, un noson, pan roedd mam a fi yn ysgrifennu cardiau Nadolig, dywedais “Mam, dweud y gwir wrtha i r?an ydy Sin Corn yn wir?”

“Wrth gwrs ei fod o, pam fydda ti’n medd..”
“Y GWIR. Mam.”

Ar l swnian arni am weddill y noson, roedd hi’n gwybod nad oeddwn am roi gorau iddi, felly ochneidiodd a dweud “Iawn, iawn! Dyw o ddim yn wir, iawn?”

Roeddwn yn wallgof.

“MAM    ! FE WNES DI I MI BOENI A CHRIO A FFRICIO ALLAN AM YR HOLL FLYNYDDOEDD! AM DDIM?!SUT GALLET TI?! TI’N FAM I MI! PAM WNES DI WNEUD HYNNA?!”

Wel, roeddwn i’n meddwl byddet ti’n tyfu allan o’r ofn ac os bydda ti, byddai’n sbwylio Nadoligau’r dyfodol gyda thi yn gwybod nad yw’n wir.”

Doeddwn i dal ddim yn hapus. Ond, y flwyddyn ganlynol, roeddwn eisiau profi i bobl nad oeddwn i’n ofn Sin Corn ddim mwy. Felly beth wnes i? Es yn l i Ganolfan Garddio Caerffili i weld Sin Corn ac ymddiheuro iddo am y ffordd roeddwn wedi ymddwyn yr holl flynyddoedd yn l (roeddwn yn meddwl mai’r un person wedi gwisgo i fyny oedd o). Gwenodd, chwarddodd yn llon a dweud “Dwi’n maddau i ti Jazmin. Dyma focs siocled ychwanegol i ti. Ond shhh, paid dweud wrth y coblynnod mod i wedi’i roi i ti!”?

Felly ia, dyna fy stori fach o’r ofn oedd gen i o Sin Corn. Meddwl byddwn i’n rhannu hyn gyda thi

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl