Heb Gategori

Annwyl Fyd: Arholiadau

By -
Dim Sylwadau

English version // Yn Saesneg

Annwyl Fyd.

Dyma’r cyfnod pan fydd bron pawb mewn addysg efo ryw fath o arholiad, bod hynny’n TGAU, Lefel A, gwaith cwrs neu arholiadau ysgrifenedig yn y brifysgol.

Fi? Does gen i ddim. Ddylwn i wedi cael un arholiad am y dechnoleg tu ôl i amryw fformat ffeil a dulliau cywasgedd, ond penderfynodd y darlithwyr i beidio gan eu bod yn meddwl na fyddai’n ymarferol mewn sefyllfa bywyd go iawn. Neu rywbeth tebyg i hynny. Dwi ddim yn gwybod.

Felly, tra mae bron i bawb ar fy rhestr ffrindiau ar Facebook un ai’n gorfod paratoi am lond llaw o arholiadau neu orffen prosiect cyn dyddiad cau, dwi’n eistedd yn fy ystafell, yn disgwyl am rywbeth i ddigwydd.

Felly dyna’r sefyllfa. Mae pawb arall yn brysur gyda gwaith addysgiadol, tra dwi’n eistedd yn fy ystafell yn ail wylio fideos ar YouTube.

Dwi’n gwybod nad yw hyn yn farn boblogaidd, ond os gallwn i newid lle gydag un o’m ffrindiau ac eistedd eu harholiad ar eu rhan, yna byddwn i.

Dwi’n meddwl mai fi ydy’r unig un o’m nghyfoedion sydd yn colli eistedd arholiadau. Roeddwn i’n hoffi’r ysgol pan oeddwn i’n iau, am ei fod yn drefn arferol. Yr unig beth nad oeddwn yn hoffi oedd ymddygiad rhai o’r bobl eraill mewn rhai dosbarthiadau. I mi, ti’n mynd i’r ysgol a’r brifysgol i ddysgu, nid i eistedd mewn ystafell am awr yn siarad gyda ffrindiau am sut mae rhywun rhywle yn y byd wedi gwneud rhywbeth sydd yn werth trafod.

Ond, ynghyd â’r wers Cemeg a Ffiseg, y cyfnod arholiadau oedd un o’r cyfnodau gorau yn yr ysgol. Nid y drefn o eistedd i lawr a cheisio cofio amryw nodweddion Bensen neu wahanol gyfreithiau, ond yr arholiadau eu hunain.

Cawsom ein harholiadau yn neuadd chwaraeon yr ysgol, ac roeddwn i’n gwybod bod pawb yn gweld drysau’r neuadd chwaraeon fel rhywbeth gwahanol.

Roedd rhai yn eu gweld fel y giatiau roedd Lwsiffer ei hun wedi’i osod yno, fel cosb am eu pechodau yn ystod y flwyddyn, tra roedd eraill yn eu gweld fel y drysau i fethiant. Drysau fydd yn cau’n glep yn eu hwyneb wrth iddynt geisio cerdded i mewn i yrfa o’u dewis.

Fi? Roeddwn i’n eu gweld fel drysau heddwch, tawelwch a meddwl. Wir, roedd y cyfnodau yn eistedd yn yr ystafell yna yn rhai o’r gorau yn fy mywyd. Ac os gallwn i fynd yno eto, byddwn i.

Roedd fel hafan fach i fi, y neuadd chwaraeon yna. Yn nyddiau arholiadau, ta waeth beth oedd y pwnc, roeddwn i bron pob tro yn cerdded i mewn ac allan o’r ystafell yna gyda gwen ar fy wyneb. Efallai nid ar y tu allan bob tro, ond ar y tu mewn.

Hyd yn oed yn fy mhynciau gwaethaf fel TGAU Cymraeg, Addysg Grefyddol a Bioleg, roeddwn i’n gwenu. Roeddwn i’n dawnsio yn llythrennol trwy fy arholiad Llenyddiaeth Saesneg. Roedd hyd yn oed un o’r goruchwylwyr wedi dweud wrthyf stopio gan fy mod yn tynnu sylw eraill.

Dwi’n dweud hyn, ac efallai dy fod di’n meddwl “Ti braidd yn hunanbwysig”. Gyntaf oll, nid oes neb yn berffaith. Yn ail, nid oedd gen i’r hyder fy mod i am gael graddau A o gwbl.

Roeddwn i’n gwybod, a dwi dal i wybod, mod i’n eithaf cyffredin pan ddaw i beth dwi’n gwybod yn ôl beth mae’r bobl ddiawledig yn y CBAC yn ymofyn. Dwi’n amau bod y rhai sy’n marcio mewn sefydliad mor uchel ei pharch wedi wylo dagrau galar pan agorwyd fy mhapur a sylwi nad oeddwn i wedi datgan yn gywir y rhesymau am fodolaeth wrth-sylwedd. Sawl noson heb gwsg gawsant o hynny? I fod yn onest, roedd fy hyder wrth fynd mewn ac allan o bob arholiad yn isel iawn. Dwi’n gwybod nad oedd gen i’r gallu i fod ymysg y deg y cant uchaf yng Nghymru mewn pwnc penodol.

Efallai mai’r ffaith roeddwn i’n gwybod, yng nghyfnod yr arholiad, bydda yna heddwch. Rhyw gyfnod dryslyd o dawelwch a’r unig beth oedd o bwys yn yr awr neu ddwy nesaf oedd y papur yma oedd yn llawn cwestiynau a phosau roedd rhaid cwblhau.

A nawr, dwy flynedd i mewn i’m gradd prifysgol, byddwn i wir wrth fy modd gydag arholiad, Unwaith eto, dwi ddim yn dweud byddwn yn cael marciau uchel ond dwi’n colli’r dyddiau yna.

Efallai am fy mod i’n gorffen bron pob arholiad gydag o leiaf ugain munud ar ôl, oedd yn rhoi amser i fi feddwl am beth bynnag oeddwn i eisiau. Weithiau roeddwn i’n canu caneuon i fi fy hun (yn ddistaw wrth gwrs), tra mewn cyfnodau eraill byddwn i’n meddwl am fywyd a’i ddirgelwch. Wel, gyda’r bodio achlysurol trwy’r gwaith i sicrhau nad wyf wedi methu cwestiwn neu rywbeth.

Dwi ddim yn gwybod, fy nghymar byd. Mae’n ymddangos fel mai fi ydy’r unig un sydd yn meddwl fel hyn. Wel, dyna beth dwi’n dyfalu pan dwi’n gweld pobl yn darllen yn nerfus dros eu nodiadau neu’n siarad gyda nhw eu hunain. Efallai un dydd bydd rhaid i mi eistedd arholiad arall. Os bydd fy marn ar arholiadau yn newid dwi’n sicr o roi gwybod i ti drwy rodio’r llwybrau atgof unwaith eto.

Dwi’n diolch i ti, fyd.

Mwy o Annwyl Fyd (a llawer, llawer, llawer mwy) gan Crazy Distortion

Gwybodaeth – Addysg

Delwedd – jackhynes

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl