Disney Yn Lansio Gwefan Gemau Newydd!

By -
Dim Sylwadau

English version // Yn Saesneg

Wyt ti’n hoffi gemau? Yn ffan o Disney? Am gyfleus. Pam felly? Am fod Disney newydd lansio gwefan gemau newydd, dyna pam!

Mae Disney DU wedi lansio Disney Games: gwefan gemau hwyl a difyrrus sy’n cynnwys dros 300 o gemau wedi’u hysbrydoli gan y cymeriadau, sioeau, ffilmiau a chynnwys unigryw o’r Disney Channel, Disney Junior, Disney XD, Walt Disney Studios, Disney Pixar, Walt Disney Classics a mwy.

Mae’r wefan yn berffaith ar gyfer ffans Disney (fel fi) a gemwyr achlysurol sy’n mwynhau treulio eu hamser yn… wel… chwarae gemau!

Y rhan gorau, yn fy marn i, ydy’r ffaith ei fod yn cynnwys cymeriadau Disney, hen a newydd! Os wyt ti’n ffan o’r clasuron yna ni fyddet yn siomedig. Mae yna lwyth o gemau gan gynnwys Mickey, Minnie a’u ffrindiau. Mae yna hyd yn oed gemau o’r ffilmiau fel The Aristocats a Peter Pan. Os wyt ti’n fwy o berson Disney Channel, mae yna gemau o hwnnw hefyd. Gemau o’r rhaglenni sydd wedi gorffen yn ddiweddar fel Suite Life a Hannah Montana a gemau o’r Disney Channel Generation fel Shake It Up a A.N.T. Farm.

A sut fedrwn ni anghofio am Disney Pixar? Mae yna ddigonedd o gemau sydd yn cynnwys dy gymeriadau gorau yno hefyd. The Incredibles, Toy Story, Bolt a chymeriadau enwog Pixar eraill hefyd i gyd yno, i gyd ar yr un wefan lle gallet ymuno gyda nhw mewn bob math o anturiaethau wrth i ti chwarae. Cŵl ynte?

Os oes gen ti frawd neu chwaer fach, yna mae yna gemau iddyn nhw hefyd, gyda chymeriadau o Disney Junior – y sianel i ffans Disney fwy ifanc. Ymuna gyda chymeriadau fel Handy Manny a llawer o gemau hwyl sy’n addas i’r llygod bach!

Ar ôl chwarae o gwmpas ar y wefan am ychydig oriau, dwi’n meddwl mai fy ffefryn ydy Robot Lab, ble ti’n creu robot dy hun ac yna’n ymladd yn erbyn robotiaid eraill! Dwi hefyd yn hoffi’r gêm Magic Doodle, ble ti’n gwneud llun o rywbeth ac yna mae Mickey yn rhyngweithio efo’r llun! Ond, dwi’n meddwl ei fod yn haws i wneud llun gyda llygoden na gyda phad trac.

Os nad yw hynny i gyd yn ddigon i ti, paid ofni! Mae’r wefan yn cysylltu i wefannau gwych eraill Disney fel y Club Penguin enwog a Superbia, y ddau yn llwyth o hwyl yn disgwyl amdanat ti! Os wyt ti allan o’r tÅ· yn aml ac yn hoffi chwarae gemau tra ti’n teithio, ar dudalen cartref y wefan fedri di gysylltu yn syth i apps a gemau symudol poblogaidd Disney fel Where’s My Water?, Temple Run: Brave, a Where’s My Perry? trwy’r siopau Apple ac Android.

Mae yna gemau yno sydd yn addas i bob math o bobl ifanc, a chofia: ti byth yn rhy hen i Disney! Hyd yn oed os wyt ti’n meddwl bod ti, ti ddim oherwydd roedd Walt Disney wedi creu Disney ar gyfer hwyl i’r holl deulu! Felly, stopia actio fel dy fod di’n rhy cŵl iddo, logia ar a chael hwyl!

Mwynhau’r Chwarae!

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl