Annwyl Fyd: Hunaniaeth

By -
Dim Sylwadau

English version // Yn Saesneg

Annwyl Fyd,

Fel llawer o wrywod, dwi’n diffyg amryw beth. Dwi’n diffyg hyder, yn diffyg cyfarwyddyd, a hefyd yn diffyg genitalia benywaidd.

Ond mae yna un peth dwi’n ddiffyg mwy nac eraill: dwi’n diffyg hunaniaeth.

Roeddwn i, yn bod yr idealydd hurt yr ydwyf, yn tybio bod fy holl broblemau yn gallu cael eu datrys drwy ddefnyddio Google. Un o’r problemau mwyaf dwi wedi ail sylweddoli yn ddiweddar ydy bod rhaid i mi gael trefn ar fy hyder.

Felly, am nad oeddwn i’n gwybod sut i wneud hyn fy hun, a doedd y rhai roeddwn i’n gofyn iddyn nhw ddim yn gwybod chwaith, Googlais “sut i fagu hyder”.

Roedd llawer o wefannau yno, i gyd yn cynnig yr un math o gyngor. Un darn o gyngor oedd ysgrifennu popeth ti’n feddwl sydd yn dda ac yn ddrwg amdanat ti dy hun. Fel esiampl o bethau sydd efallai yn dda, roedd nifer o’r gwefannau yn awgrymu pethau fel “gwrandäwr da” neu “synnwyr digrifwch da”.

A dyna yw’r pethau sydd yn drysu fi am fywyd.

Efallai bod hyn ychydig yn od neu rywfaint yn fisâr, neu rywbeth arall sy’n golygu’r un peth, ond dwi ddim yn deall sut gall pobl wirioneddol ddweud fod ganddynt synnwyr digrifwch da neu rywbeth tebyg heb brawf.

Gan fod hiwmor, ti’n gwybod, yn berthnasol. Bydd rhywbeth dwi’n cysidro yn ddoniol iawn yn debygol o dramgwyddo pob person arall sy’n bodoli heblaw am ychydig. Ydy hyn yn golygu fod gen i synnwyr digrifwch drwg?

Gyda llaw, nid hiwmor ydy’r unig beth dwi’n canolbwyntio arno, dwi’n meddwl am bopeth, bob un gair disgrifio sy’n gysylltiedig i ddyn.

Roeddwn i’n gwneud rhywbeth dwi’n gwneud orau yn ddiweddar, sef darllen blogs pobl ar y rhyngrwyd, ac fe ddois ar draws bywgraffiadau pobl. Darnau o wybodaeth mae’r ysgrifennwr yn meddwl sy’n dangos i eraill y gwir berson neu rywbeth tebyg.

Mae rhai pobl yn dweud eu bod nhw’n berson cariadus, caredig sydd yn gallu ysgrifennu “prose like the pros”. Mae eraill yn dweud fod nhw’n fath o angel comedi neu rywbeth. Dwi ddim yn gwybod, roeddwn i’n meddwl gormod am y jôc “prose like the pros” i feddwl am esiamplau eraill.

Ac yna dyma fi, person 20 oed sy’n eiddo ar bidyn, efo dim syniad sut i ddisgrifio fi fy hun.

Hoffwn feddwl fy mod i’n berson gonest, doniol. Rhywun gall pobl ddibynnu arno a theimlo’n gyfforddus i droi ato pan fydda nhw angen help neu rywbeth. Ond i ddweud y gwir, fedra’i ddim credu hynny. Dwi ddim ond yn wir gredu beth mae eraill yn ddweud ydw i.

A cyn i mi glywed y geiriau “dydy hynna ddim yn iawn, mae’n rhaid i ti fod yn berson dy hun, bydda’n chdi dy hun a chreda beth bynnag ti eisiau bod” ac ati, gwranda arna i. Neu darllena fi. Mae’r olaf yn gwneud mwy o synnwyr ond yn swnio ychydig yn afiach.

Dim ond ychydig o bethau dwi’n gwybod ydw i. Dwi yn, yn y ffurf fwyaf sylfaenol, yn fyw. Dwi’n berson, yna’n wryw, ac yna’n Gymro, yna’n fyfyriwr. Heblaw am hynny, nid oes gen i syniad sut i gymeriadu fy hun heblaw am fod yn fyfyriwr Cymraeg gwrywaidd o’r hil ddynol.

Yn fy mhroses meddwl i – sydd ddim y dyfyniad mwyaf dibynadwy ar gyfer erthygl Wicipedia – dwi’n meddwl nad fi ddylai cymeriadu fi, ond y bobl sydd yn adnabod fi, y bobl sydd yn cyfarfod fi.

Wrth ddweud “nid fi ddylai cymeriadu fi”, dwi ddim yn dweud dylai pawb sydd mewn bodolaeth fowldio fi i mewn i rywbeth. Yr unig beth dwi’n feddwl ydy mai’r bobl sydd yn dod mewn cysylltiad â fi dylai benderfynu pwy a sut ydw i. Dwi dal yn berson fi fy hun gyda nodweddion fy hun ac ati, ond dwi ddim yn meddwl gallaf i fod yn hollol gywir am bwy ydw i.

A cyn i mi orffen, gaf i hefyd codi sylw pawb at rywbeth dwi’n meddwl sydd yn ddiddorol ond efallai na fydd eraill? Gaf i? Brillo pads.

Wyt ti wedi sylweddoli am y mwyafrif o’r darn testun hwn, ac yn bosib popeth arall dwi’n ysgrifennu, dwi ddim yn disgrifio fy hun fel dyn?

Dwi bob tro yn ffeindio ffordd druenus o osgoi dweud wrth bobl mod i’n wrywaidd. Fel hyn dwi wedi bod ers i mi gael fy nghyflwyno i fyd cyfryngau cymdeithasol, yn ôl yn y dyddiau pan mai MySpace oedd popeth a dim ond breuddwyd yn llygaid Apple oedd yr iPhone.

Y tro cyntaf i mi ysgrifennu darn “amdanaf i”, ysgrifennais rywbeth tebyg i “Mae gen i geilliau a phidyn, sydd yn categoreiddio fi fel gwryw o fy rhywogaeth”.

Roeddwn i’n 14 oed yn cael fy rhwydwaith cymdeithasol cyntaf. A nawr, bron i saith mlynedd wedyn, dwi dal ddim yn gallu galw fi’n hun yn ddyn, er mod i yn yr oed yna lle dylwn i fod yn gyffyrddus gyda’r enw yna.

Dwi’n meddwl  bod hyn am nad ydw i wedi gwneud pethau “gwrol”. Ti’n gwybod, dwi eto i gael merch yn feichiog, dwi eto i brynu tÅ· a byw ar ben fy hun, fedra i ddim eistedd gyda dynion eraill a siarad am bethau gwrywaidd fel pêl droed neu ‘peanut butter’ neu beth bynnag fydd dynion yn siarad amdano’r dyddiau hyn, am fod i’n teimlo yn eithaf lletchwith yn gwneud hynny.

Dwi ddim yn gwybod pam, fy annwyl fyd, ond i fi, mae’n bosib mai diffinio dy hun ydy’r peth anoddaf gall rhywun wneud. Wel, heblaw am sylweddoli nad wyt ti’n gallu byw am byth a byddi di’n marw un diwrnod, ond ti’n gwybod beth dwi’n feddwl.

Ond i fi, mae hyd yn oed disgrifio fy rhyw yn anodd. Dwi ddim angen gwneud hynny mewn person, gan ei bod hi’n amlwg mod i’n wrywaidd. Ond y lefelau yna o wrywaidd ble mae llawer o bwysau ar fyd mor fach ydyw.

Mewn newyddion gwahanol, dwi eto i ddarganfod ffordd o fagu hyder. Os oes unrhyw awgrymiadau ar gael, plîs gad i mi wybod. Ond dwi ddim eisiau edrych arnaf i fy hun yn y drych a dweud mod i fel llew a byddaf yn neidio ar unrhyw gyfleoedd sy’n dod fy ffordd i.

Dwi’n diolch i ti, Fyd.

Mwy o Annwyl Fyd (a llawer, llawer mwy) gan CrazyDistortion

Newyddion – Categorïau – Pobl

DELWEDD – Funky64

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl