Heb Gategori

Addysg: Fy Mhryderon

By -
Dim Sylwadau

English version // Yn Saesneg

Dyma pan fyddaf yn gwisgo fy wyneb difrifol.

Fel myfyriwr ysgol uwchradd neu gyfun dwi’n siŵr bod y mwyafrif, os nad pob un ohonoch, yn ymwybodol o gynlluniau cyfoes Llywodraeth Prydain i dynnu’r TGAU o’r sustem addysg yn Lloegr a’i ailosod gyda’r Fagloriaeth Saesneg.

Mae hyn yn dilyn, wrth gwrs, safiad y llywodraeth bresennol i ‘galedu’ addysg, gan eu bod nhw, rhyw sut, o’r farn bod yr arholiadau presennol eisteddais lynedd yn rhy hawdd.

Dwi eisiau dweud, gan mai dim ond mis yn ôl roeddwn i’n fyfyriwr TGAU, nad yw’r TGAU yn ‘hawdd’. Mewn gwirionedd, mae’r mwyafrif o athrawon dwi wedi siarad â nhw am arholiadau pan oeddwn i’n chwalfa o boeni, straen a chaffein, yn dweud bod yr arholiadau roeddwn i’n ei eistedd yn dipyn anoddach na’r arholiadau roedden nhw’n eistedd pan roedden nhw’r un oed a fi.

Roedd yr athrawon yma siaradais gyda nhw yn, wrth gwrs, fyfyrwyr ôl-Lefel-O. Oherwydd nid oedd yn amser maith yn ôl pan oeddem ni, unwaith eto, dan reolaeth llywodraeth Geidwadol ac roedd addysg y wlad yma wedi’i selio ar sustem ddwy-haen. Roeddet ti’n un ai’n gwneud Lefelau O, fydda’n galluogi ti i dderbyn cymwysterau derbyniol a mynd i’r brifysgol, cael gwaith, gwneud pethau mewn bywyd… neu roeddet ti yn cael dy fwrw o’r naill du gan Maggie Thatcher a’i llywodraeth Geidwadol drwy gael eu rhoi yn y rhes isaf.

Ond, dwi’n hapus i ddweud wrthyt ti, i unrhyw un sydd nawr wedi’u difrodi’n emosiynol gan yr Oes Dywyll crybwyllwyd yn y paragraff uchod, fod Lefelau-O bellach yn farw. Wedi’i newid am y TGAU llawer tecach a hapus, sydd yn galluogi pob myfyriwr yn y DU i gael cymwysterau heb gael eu gwahardd gan hen rwystrau cymdeithasol a dosbarth i gael graddau uwch.

Wrth gwrs, gallet ti ddadlau, yn ein cymdeithas Brydeinig bresennol – gyda ‘diolch yn fawr’ mawr i Lafur Newydd – nad yw’r ‘sustem dosbarth’ ddim yn bodoli bellach. Am y rheswm syml fod y rhwystrau cymdeithasol a dosbarth oedd unwaith mor anhyblyg o ddosbarthiadau gwaith, canolig ac uwch bellach mor groesadwy ac ar gael fel siop agored.

Mae plentyn ganwyd mewn cefndir dosbarth gweithiol llwm a thlawd bellach yn gallu ‘codi’ i’r dosbarth canol ac uwch gyda gwaith caled neu, os wyt ti’n lwcus iawn, ennill loteri. Gallai hefyd ddadlau nad yw’r dosbarthiadau uwch bellach yn bodoli. Mae’r cyfnod pan oedd y Dosbarth Uwch yn rheoli cymdeithas, fel Maggie Smith yn Downton Abbey, wedi mynd. Ymddangosai fel mai enwogrwydd ydy’r dosbarth uwch bellach, y frenhiniaeth newydd ar gyfer ein cymdeithas sy’n obsesu gydag enwogrwydd, rhyw ac arian.

Sori, yn ôl at y pwnc. Yn ôl at addysg.

Fy mhwynt sylfaenol ydy, gyda chyflwyniad y TGAU, roedd rhwystrau cymdeithasol a dosbarth cymdeithas Brydeinig bron fel nad oeddent yn bod bellach. Trwy addysg, gallai pobl ddod yn pwy bynnag oeddent eisiau neu’n dymuno. Ac mae hynny yn eithaf hyfryd.

Ond pam bod Michael Gove, Cyfarwyddwr Addysg y llywodraeth bresennol ac un sy’n edrych fel gŵydd, mor benderfynol o newid yr arholiadau presennol yn Lloegr o’r TGAU i’r Fagloriaeth Saesneg? Nid yw’n swnio fel arholiad pwysig, mae’n swnio fel llyfr academaidd diflas a hir wedi’i ysgrifennu gan Jane Austen.

Tra bod y Fagloriaeth Saesneg yma yn ymddangos fel y peth mawr, newydd, crand academaidd mae’n ymddangos nad yw’n ddim mwy nag dychweliad y Lefelau-O, ond gydag enw gwahanol. Oherwydd roedd y llywodraeth yn meddwl , yn ôl pob golwg, nad fyddem yn sylwi bod nhw’n ceisio rhannu ein sustem addysg i mewn i haenau eto, ble mae’r rhai o gefndir dosbarth cymdeithasol uwch a chefndir mwy cyfoethog yn cael eu hystyried yn well na’r rhai sydd ddim.

Fedra i, i gychwyn, ddweud nad wyf yn berson ‘gwleidyddol’ iawn. Os nad wyf yn cael fy rhagfarnu, fy ymosod yn y stryd, fy nhrethu yn ormodol neu dan anfantais ddifrifol mewn cymdeithas, yna dwi’n eithaf hapus.

Ond beth dwi ddim yn hapus efo ydy ymgyrch y llywodraeth, yn ôl pob golwg, i galedu addysg Prydain i gystadlu gyda gwledydd eraill. Mae hyn, yn glir, yn ymddangos fel David Cameron yn chwarae’r gêm ‘mae un fi yn fwy nag un ti’ ac, yn lle ceir tegan neu gronfa ymddiriedolaeth, byddant yn chwifio canlyniadau arholiadau Prydain yn wyneb Ffrainc ac yn dweud, ‘Ha! Edrychwch ar hyn Ffrancwyr!’

Ond dyma’r rhan dwi ddim yn deall yn iawn, am flynyddoedd – a dwi’n golygu blynyddoedd – mae’r raddfa pasio TGAU wedi parhau i godi blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae mwy o bobl nag erioed yn pasio, sydd yn golygu bod mwy o bobl wedi cael y cymwysterau cywir i gael swydd, ac felly yn helpu i roi arian i mewn i gadw-mi-gei enfawr ein heconomi ac yn gwneud pethau yn eithaf da i Brydain ar y cyfan.

A’i fi yw’r unig un sy’n meddwl bod y ffaith bod graddfa pasio arholiadau yn cynyddu yn arwydd o’r ffaith bod plant Prydeinig yn gwneud yn iawn? Na? Achos dyma yw’r ddadl – fydda wedi dod i ben os byddai’r athrawon wedi dweud ‘Na, peidiwch newid yr arholiadau, ni ddyled byth chwarae gyda’r arholiadau na bywydau ein disgyblion gwerthfawr.’

Y canlyniad yw, yn hanfodol, fod llinell wedi ei dynnu rhwng yr addysg sy’n cael ei dderbyn yn Lloegr a Chymru.

Mae hyn i gyd yn deillio o’r ddadl yn dilyn y marciau a roddwyd i ddisgyblion – yn cynnwys fi – yn dilyn TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg haf 2011, gydag adroddiadau bod yr arholiad wedi cael ei farcio’n anghywir. Penderfynodd llywodraeth Lloegr i beidio ail farcio’r papurau ond penderfynodd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg Cynulliad Cymru, dylai ail farcio pob un papur, ac achosodd hyn ffwdan fawr.

Dyma, yn rhannol, oedd beth gychwynnodd y siarad ‘arholiad newydd, cychwyn newydd’ yma wnaeth orffen gyda chreadigaeth (neu adfywiad) y Fagloriaeth Saesneg. Roedd Leighton Andrews un ai yn a) wir poeni am addysg disgyblion Cymru neu b) eisiau dangos i San Steffan ei fod yn gwneud pethau yn ei ffordd ef.

A nawr, diolch yn rhannol i’r penderfyniad yma, tra nad fydd myfyrwyr Saesneg mewn ychydig flynyddoedd yn astudio TGAU, byddem ni fyfyrwyr Cymru yn parhau i astudio ac eistedd arholiadau TGAU pan fydd yr arholiad yn farw yn ein gwlad gymdogol yn barod. I brifysgolion, colegau a chyflogwyr y dyfodol, golygai hyn y byddant yn debyg o weld gwahanfa; yn gweld myfyrwyr gyda graddau TGAU da a graddau Bag-S da.

Mae’n achosi tipyn o broblem i bobl o’m hoed i a thu hwnt fydd bellach yn gorfod byw bywyd gyda chymwysterau sydd, ta waeth pa mor wych maent yn ymddangos, efallai yn, neu ddim yn, cael eu gweld fel arholiad ‘ffaeledig’ yn y DU. Sydd nid yn unig yn gywilydd mawr, ond yn siom enfawr ac yn siomedig iawn ar ran y llywodraeth.

Os bydda nhw wir yn poeni am gyflogaeth ddyfodol plant Prydain Fawr, yna’n sicr bydda hi’n werthfawr i eistedd i lawr ac ail asesu a gwella’r cymhwyster TGAU, yn lle cael gwared arno a chychwyn eto, yn union fel petai’n smotyn ar y bwrdd arlunio. Mae’r TGAU yn dynodi degawdau o waith caled, nid yn unig gan fyfyrwyr ond gan athrawon hefyd.

Gydag un ergyd, mae’r llywodraeth wedi penderfynu bod yr etifeddiaeth yma yn golygu – i ddweud y gwir – dim. Pam mae o mewn gwirionedd. A dwi wedi siomi gyda Llywodraeth Cymru hefyd. Mae fel petai nhw’n rhoi balchder nhw o flaen y bobl. Beth yw’r ots os ydy plant Cymru yn, yn dechnegol, cael addysg eilradd? Beth yw’r ots os yw golygfa gwaith nhw wedi’i ddifetha am fywyd?

Ac mae hwn yn wlad fydd, yn ôl Plaid Cymru, yn llwyddo pan ddaw yn annibynnol? Mae llywodraeth sydd yn rhoi ei falchder cyn ei bobl, yn ceisio gwrthwynebu San Steffan, yn llywodraeth sydd wir angen edrych ar garpiau sustem addysg ledled y wlad sydd, oherwydd ychydig ddynion, yn ymddangos wedi’i ddifetha.

Yn y cyflwr presennol, byddai’n ymddangos fel nad yw Llywodraeth Cymru mewn cyflwr i reoli Cymru. Ychydig yn galed efallai, ond mae’r pwynt yn dal i sefyll. Dylai bywydau ddim cael eu newid – na’u difethaf – oherwydd bod Aelod Cynulliad wedi penderfynu gwneud pwynt o beidio cael eu bwlio gan San Steffan sydd, gyda phob tegwch, wedi llywodraethu ein gwlad ers iddynt feddiannu ni. Maen nhw’n berchen arnom i raddau ffrindiau. Dewch nawr.

Wow, roeddwn i braidd yn danbaid rŵan. Ond mae’r pwynt dal yn wir. Os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud cyn hir gan un ai’r llywodraethau Cymraeg neu Saesneg, gallem ni weld sustem addysg gwlad ranedig, wannach ac – yn waeth – wedi’i seilio unwaith eto ar ddychwelyd sustem dosbarth o’r oes o’r blaen.

DELWEDD: radicaled

Gwybodaeth – Cymwysterau

Gwybodaeth – Yn yr Ysgol 11-16

Gwybodaeth – Gwleidyddiaeth

Erthygl Berthnasol: Annwyl Fyd: Arholiadau

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl