Heb Gategori

Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Y Byd

By -
Dim Sylwadau

English version // Yn Saesneg

Ia, dwi’n gwybod, mae wedi bod yn dipyn ers i mi wneud erthygl ond mae’r pwnc yma yn un gwerth siarad amdani, felly beth am gychwyn.

Nawr, fel arfer pan fydd pobl yn meddwl am fis Ebrill maent yn meddwl am y dyddiau arferol fel Dydd Ffŵl Ebrill ar ddiwrnod cyntaf y mis. Y ddau ddiwrnod o Basg (neu un eleni) ble fydd pobl yn dewis rhwng dathlu marwolaeth yr Arglwydd Iesu Crist neu ddisgwyl i’r gwningen ddychmygol gyfriniol i ymddangos ar y step drws a rhoi wyau siocled am ddim iddynt.

Mae Diwrnod Y Ddaear hefyd yn ddiwrnod arall rydym yn ei ddathlu; rydym yn defnyddio’r diwrnod i fwynhau popeth am y darn o garreg unigryw rydym ni’n byw arni bob dydd (heblaw bod ti ar y daith Lynx i’r gofod ac felly ni fyddet ti’n byw yma ar yr adeg honno). Mae’r dyddiau hyn – a nifer mwy, yn ormod i’w rhestru – yn gwneud mis Ebrill yn fis diddorol iawn, ond mae yna un diwrnod sydd yn pasio heibio’r mwyafrif sydd yn ymwybodol ohono, neu hyd yn oed pobl sydd ddim yn gwybod amdano o gwbl. A’r diwrnod hwnnw ydy Ebrill 2il: Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Y Byd.

I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod, ac mae’n syndod faint o bobl sydd yn y byd, mae awtistiaeth yn anabledd datblygiadol sydd yn effeithio sut mae person yn rhyngweithio gyda phobl eraill – trwy gyfathrebu cymdeithasol ran amlaf. Mae pobl awtistig hefyd yn cael trafferth gwneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas ac fel arfer maent yn gwneud hyn yn llawer mwy araf na phobl arferol. Mae yna nifer o fathau gwahanol o awtistiaeth sydd yn disgyn o dan y Sbectrwm Awtistiaeth fel Awtistiaeth arferol, Syndrom Aspergers (un o’r ffurfiau mwyaf adnabyddus o Awtistiaeth), Anhwylder Datblygiadol Hydreiddiol sydd ddim wedi’i restru fel arall (PDD-NOS), Anhwylder ‘Disintegrative’ Plentyndod neu Syndrom Heller, a Syndrom Rett.

Nawr, dwi ddim isio diflasu ti efo beth sydd yn gwahanu pob un o’r ffurfiau hyn o awtistiaeth yn y sbectrwm hwn, ond dwi’n dweud eu bod nhw’n debyg. Fel dywedwyd cynt, mae pobl awtistig efo problemau cyfathrebu gyda phobl mewn sgyrsiau cyffredin ac yn tueddu cael trafferth i ddweud y pethau iawn i bobl, neu’n dweud rhywbeth hollol wahanol i beth maen nhw’n bwriadu, Efallai nad ydynt yn mynegi’r emosiynau cywir neu’r ymateb wynebol neu gorfforol fel y mae person heb awtistiaeth. Nid oes problem gyda deall rhywun arall pan fyddant yn siarad gyda nhw, ond ni fyddant yn gwrthweithio yn yr un ffordd oherwydd yn y mwyafrif o achosion mae pobl sydd ag awtistiaeth efo iaith gyfyngedig ac yn ffafrio cyfathrebu gyda delweddau gweledol yn fwy nag sain.

Hefyd nid ydynt yn hyderus mewn torf o bobl wrth iddynt deimlo’n unig mewn grwpiau (bod y grwpiau yma yn rai llai, neu’n fwy cyffredinol, yn rai mwy). Mae arwyddion awtistiaeth fel arfer yn cychwyn yn ifanc gan ddangos patrymau ailadroddus difrifol fel pentyrru pethau mewn llinellau neu ar ben ei gilydd, neu batrymau posib eraill sydd yn edrych yn annormal i’r person arferol. Oherwydd hyn maent yn well ganddynt fod ar ben eu hunain yn hytrach na bod o gwmpas pobl, yn aml ddim yn chwilio am gysur gan fod ganddynt anawsterau mewn mynegi’r emosiynau cywir i ddisgrifio i berson.

Mae pobl awtistig yn tueddu peidio deall sut i ymddwyn mewn sgyrsiau cymdeithasol, fel y rheol arferol o ofod personol gyda nhw’n bod yn rhy agos i berson, neu efallai cychwyn sgwrs sydd efallai’n frawychus i’r person arferol.

Mae rhai pobl awtistig hefyd yn gor – neu’n tan synhwyro – sensitifrwydd i synau, cyffyrddiadau, blasau, arogleuon, golau neu liwiau o’u cwmpas. Oherwydd hyn, fel arfer nid ydynt yn dda iawn efo’r syniad o newid na chynllunio o flaen llaw, ac nid ydynt yn dda iawn mewn sefyllfaoedd a llefydd diarth chwaith.

Gallaf siarad am fwy o’r pwyntiau yma wrth i fi fynd ymlaen gyda’r erthygl hon, ond y prif reswm dwi’n esbonio hyn i bawb ydy oherwydd, hyd yn oed yn oes heddiw gyda chyfryngau cymdeithasol a sut mae pobl yn rhyngweithio gyda’i gilydd o ddydd i ddydd, mae awtistiaeth yn anffodus yn cael ei adael yn y tywyllwch gan nad yw’r mwyafrif yn gwybod llawer amdano. Nid yw’n cael digon o sylw ag y dylai drwy gael ei ddysgu mewn ysgolion ac efallai oherwydd hyn, pan fydda’i rhywun yn cyfarfod rhywun awtistig, efallai byddant yn cael eu gwthio i’r ochr a chael eu stereoteipio fel bod yn anghymdeithasol am nad ydynt yn dda iawn mewn sgwrs, er nad yw hyn yn fai arnyn nhw ac mae yna nifer mawr o bobl ifanc awtistig yn y byd sydd efallai yn teimlo’n fwy anhyderus oherwydd bod pobl ddim yn gwybod digon amdano, nhw hefyd mewn rhai achosion.

Efallai bod pobl awtistig yn teimlo fel eu bod yn cael eu camddeall ac yn anniogel, ond gallent gael eu llesteirio yn hawdd oherwydd nid ydynt yn deall sut i gyfleu’r emosiynau cywir i bobl. Oherwydd y teimladau hyn maent yn tueddu dioddef o symptomau pryder ac, mewn rhai achosion, arwyddion o iselder ac efallai nad fydd pobl yn gweld hyn gan nad ydynt yn dda yn mynegi eu hemosiynau.

Nawr, gallaf ddeall yn iawn sut mae pobl awtistig yn teimlo, am fod i’n adnabod pobl sydd efo fo, a hyd yn oed mwy am fy mod i’n un ohonynt. Ers roeddwn i’n ifanc dwi wedi cael diagnosis o Syndrom Asperger ac roedd yr arwyddion i gyd yno, fel yr anallu i gynnal sgwrs gyffredinol gyda rhywun, hyd yn oed un i un sef y ffordd dwi’n fwy cyffyrddus yn siarad gyda rhywun. Pan fydd mwy nag un person yn yr ystafell dwi’n tueddu osgoi’r sgwrs a gadael iddyn nhw siarad a smalio mod i’n rhan o’r grŵp, tra hefyd yn teimlo’n anhyderus am nad wyf yn cyfrannu i’r drafodaeth. Dwi’n drysu pan clywaf siarad am wleidyddiaeth, trychinebau naturiol neu ddigwyddiadau presennol, gan fod i’n cael trafferth deall beth sydd yn digwydd o’m nghwmpas. Roeddwn i’n cael cymorth anghenion arbennig yn yr ysgol gynradd ac uwchradd, gan ei fod yn cael ei ddiffinio fel ‘anabledd dysgu’ a theimlwn yn annifyr wrth i bobl ofyn ‘pam bod Mrs pwy bynnag bob tro efo ti? Pam na gawn ni ei help hi fel ti’n cael?’ am nad oeddwn i’n gwybod sut i ateb.

Dwi’n ffodus o gael pobl yn fy mywyd sydd erioed wedi pigo arnaf i am y peth ac wedi helpu fi ar hyd y ffordd. Bod hyn gartref, yn yr ysgol, neu am y cyfnod byr roeddwn i yn y Brifysgol, mae pobl wedi gwneud eu gorau i wneud fi deimlo’n rhan o’r grŵp a ddim wedi gwawdio fi am beidio bod yn rhan o’r pynciau, er mod i, wrth gwrs, yn teimlo’n wahanol. Hefyd, rhywbeth sydd weithiau wedi drysu fi ydy pan fyddaf yn sôn wrth bobl mod i’n awtistig, ran amlaf maent yn ateb gyda ‘Go iawn?! Byddwn i ddim wedi dyfalu! Roeddwn i’n meddwl mai distaw iawn oeddet ti!’ ac yna dwi’n cael y bobl yma yn dweud wedyn pa mor falch ydynt ohonof am geisio torri allan o’m nghragen a bod yn rhan o’r grŵp, hyd yn oed os dwi ddim yn siarad dwi dal yn gwneud ymdrech. Dwi dal yn teimlo’n ddifater o’u barn nhw, ac fel hyn fyddaf i am byth am mai dyma’r ffordd dwi wedi teimlo erioed… ond dwi’n gwybod beth maen nhw’n feddwl, ac efo gweddill y stwff sydd wedi digwydd yn fy mywyd i fynd gyda’r anabledd yma (clefyd siwgr, marwolaethau yn y teulu, ayb), dwi’n meddwl mod i wedi gwneud yn iawn, er nad wyf i’n gweld llawer o newid.

Hefyd mae rhai pobl yn edrych ar awtistiaeth fel melltith; salwch nad all ei drin sydd gyda ni am weddill ein bywydau. Nawr tra mae’r rhan yna’n wir, dydy’r cyntaf ddim, dim i fi o leiaf. Rydw i, ynghyd â ffrindiau eraill awtistig, yn tueddu edrych ar y peth fel anrheg yn fwy na dim arall, rhan arall o’n bodolaeth sydd yn gwneud ni’n unigolion ar wahân yn y byd. Maen nhw’n dweud bod pobl awtistig yn hynod o greadigol a gallaf gytuno â hyn wrth gysidro gyrfa fy nyfodol, dwi’n gobeithio dod yn animeiddiwr 2D neu 3D yn ogystal ag actor llais efallai, gyda fy ngwaith wedi’i animeiddio gan amlaf gan fod y rhan fwyaf o waith trosleisio ar y rhyngrwyd yn cael ei wneud gan actorion enwog.

Hefyd, prif resymau am yr erthygl yma oedd i, wel, godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, a dyma’r rheswm rydym yn dathlu diwrnod iddo. Ac ar y diwrnod yma, y themâu cyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf ydy’r ymgyrch ‘Light It Up Blue‘ gan Autism Speaks. Yn gyffredinol, yn ystod y diwrnod cyfan ar 2il Ebrill bob blwyddyn, mae llefydd o gwmpas y byd yn cael eu goleuo yn y lliw glas gan obeithio codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth. Gallai fod yr adeiladau eu hunain, cynigion sydd ymlaen, neu yn fwy penodol, gallai pawb yn y byd ei wneud… gwisgo rhywbeth glas. Felly dyna dwi eisiau i bawb wneud, marcio 2il Ebrill i lawr fel diwrnod lle bydd rhaid gwisgo glas, crys-t neu fathodyn efallai. Ond os nad fedri di wisgo rhywbeth ar y diwrnod hwnnw, yna gwna rhywbeth arall i helpu. Efallai lledaenu’r neges ar-lein gyda phawb ar Facebook, Twitter, Tumblr, a’r gwefannau yna i gyd y dyddiau hyn. Ymwybodol o unrhyw elusennau sydd yn canolbwyntio ar awtistiaeth? Gwna rhywbeth i helpu. Efallai rhannu straeon am y bobl awtistig rwyt ti’n adnabod neu straeon am sut byddi di’n codi ymwybyddiaeth eleni!

Gwna unrhyw beth (sy’n dderbyniol o leiaf) fydd yn helpu codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr hwn a helpu pobl dros y wlad neu’r byd sydd ddim yn gwybod amdano. Gad iddynt wybod nad ydym mor wahanol â hynny i bawb arall. Ac efo hyn dwi’n diolch i bawb am ddarllen yr erthygl hon a dwi’n gobeithio byddi di’n cael 2il Ebrill da eleni a chofia ‘Ei Oleuo Yn Las’. Cliché o ffordd i orffen dwi’n gwybod, ond na’i adael iddo basio am beth dwi wedi siarad amdano.

DELWEDD: photomommy
Erthygl Berthnasol: World Mental Health Day
Gwybodaeth – Iechyd Emosiynol a Meddyliol
Gwybodaeth – Gwasanaethau Iechyd

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl