Adolygiad: M.A.D & Vanquish

By -
Dim Sylwadau

English version // Yn Saesneg

Ar ddydd Mawrth 18fed Chwefror daeth y daith M.A.D i Solus, Caerdydd. Cyn y daith, dim ond trwy ffrind da i mi oeddwn i’n ymwybodol ohonynt a chlywais dau o’u senglau: Toyboy a Fame & TV. Pan gynigodd CLICarlein i mi gyfweld y grŵp oedd yn cefnogi nhw, Vanquish, ac adolygu’r sioe ei hun, roeddwn i’n hapus i gael y cyfle.

Ar ôl y cyfweliad gyda Vanquish – sydd yn enethod hyfryd – cafodd fy ffrind Cerys a finnau ein tywys i bwll y wasg. Roedd yn wallgof am mai ni oedd yr unig ddau berson ynddo. Roedd hi’n grêt cael digon o le i gerdded o gwmpas a thynnu lluniau heb bobl eraill o’r cyfryngau yn ceisio ymladd dros y mannau tynnu lluniau gorau.

Vanquish oedd y cyntaf i’r llwyfan a dwi’n meddwl bod y dorf wedi’i synnu efo pa mor dalentog ydynt mewn gwirionedd. Cyn i Vanquish berfformio, ymddangosai fel bod y gynulleidfa yn poeni am ddim arall heblaw am fechgyn M.A.D, ond pan ddaeth y genethod i’r llwyfan a swyno pawb gyda’u perfformiad syfrdanol o ganeuon eu hunain a chaneuon eraill fel Really Don’t Care gan Demi Lovato a Cher Lloyd, a fersiwn o gân James Arthur, roedd y dorf wedi disgyn mewn cariad efo’r band genethod cyffrous yma, yn enwedig pan berfformiwyd eu sengl newydd Damn.

Er bod yna naws band genethod o gwmpas Vanquish (wel, yn amlwg, am mai dyna ydynt), mae hwn yn fand genethod heb ddim ffwdan ac nid yw’n ymwneud ag esgidiau sawdl uchel neu goronau. Mae hynny’n rhywbeth roeddwn i’n edmygu am y pedair merch yma. Roeddent yn amlwg, yn hwyl ac yn fath o artistiaid fedri di droi i fyny ar yr iPod wrth gael yn barod i fynd allan.

Yn fuan wedyn daeth y bechgyn eu hunain: y M.A.D yma roedd fy ffrind wedi gwirioni drostynt ond doeddwn i dal ddim yn sicr yn union pwy oedden nhw ac os oeddwn i am hoffi nhw. Cyn hir cefais wybod wrth iddynt ffrwydro i’r llwyfan fel tri bwndel mawr o egni a do, dwi wedi dod yn eithaf hoff ohonyn nhw – yn enwedig pan ganwyd fersiynau o ddau gân One Direction a doeddwn i ddim yn difaru mynd. Fe wnaethant dipyn go lew o fersiynau o ganeuon eraill, ond tri o’m ffefrynnau oedd Best Song Ever, Little Things a Year 3000 gan Busted.

Er eu bod yn fand bechgyn, nid oes ganddynt y stereoteip cyffredin o’u cwmpas. Roeddent i weld fel tri bachgen o’r ysgol oedd yn gwybod sut i ddathlu ac roedd y teimlad roedd y gynulleidfa yn ei gael mor gyffrous ac wrth edrych yn ôl ar y gynulleidfa, edrychai fel mwy o barti nag gig.

Canodd y bechgyn eu dau sengl – Toyboy a Fame & TV hefyd, sydd yn fachog iawn ac roedd y dorf yn eu harddegau yn neidio ac yn canu’n frwdfrydig. Mor fachog fel nad wyf yn gallu cael Toyboy allan o’m mhen, er wrth i mi ysgrifennu hwn, dwi’n gwrando ar genre cerddoriaeth gwbl wahanol.

Beth oeddwn i’n ei hoffi am y sioe ydy rhwng rhai caneuon, roedd y cyflwynydd Geraint o Capital FM yn cadw sylw’r gynulleidfa gyda chwis a rhai ffans lwcus yn cystadlu i gael cyfle i ennill cwtsh a chusan gan M.A.D.

Roedd y gig ar y cyfan yn wych ac roedd y cysylltiad gyda’r ffans yn rhywbeth roeddwn i wir yn gwerthfawrogi, os ydy’r band yn dod yn fawr iawn, bydd rhyngweithio rhwng y bechgyn a’r ffans yn dod yn anoddach ac felly mae hyn yn rhywbeth bydd ffans hirdymor yn gallu gwerthfawrogi a’i gofio.

Gwybodaeth – Cerddoriaeth

Gwybodaeth – Gigs, Cyngherddau, Digwyddiadau a Gwyliau

Erthyglau Perthnasol

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl