Heb Gategori

Nid Dyma’r Diwedd

By -
Dim Sylwadau

English version // Yn Saesneg

Paid gadael i’r teitl dwyllo ti. Dyma ydy’r diwedd.

A phaid gadael i’r llinell gyntaf yna dwyllo ti chwaith… oherwydd mewn ffordd, nid dyma’r diwedd.

Nid rhyw drafodaeth fawr am ddiwedd y byd, neu gwymp yr economi neu ddirywiad y chino – i gyd yn stori newyddion ‘Dyma’r Diwedd’ teilwng – ond yn rhywbeth llawer mwy personol ac, mewn ffordd, yn llawer mwy pwysig.

Mae’n ddiwedd cyfnod. Yn ddiwedd ysgol uwchradd. Cychwyn prifysgol. Dyma’r cyfnod pan fyddi di’n deffro, ble ti’n rhwbio dy lygaid ac yn dweud wrthyt ti dy hun:

“Dwi’n oedolyn, dwi mewn rheolaeth o’m mywyd, o’m harian, o’m hiau. Dwi ddim am siomi fy hun.”

Fel gyda phopeth difrifol, mae’n rhaid bod geiriau cân neu ddau yn bodoli i esbonio’r teimladau yma, o ddiwedd agos y darn enfawr yma o fywydau cymaint o bobl… a chychwyn rhywbeth cwbl newydd.

Fel dywedodd Demi Lovato unwaith yn ei baled hynod emosh, Skyscraper:

“As the smoke clears, I awaken, and un-tangle you from me.”

Mae hwn yn drosiad effeithiol iawn – diolch Demi – am ddiwedd addysg, ydy?

Mae’n rhaid i ni, bobl o’m hoed, o’m mlwyddyn, ddatrys ein hunain o’n ffurf bresennol o addysg. Rydym wedi byw efo ef am gyfnod sylweddol nawr. Mae wedi gweld ni’n tyfu. Ar sawl achlysur mae wedi gwneud i ni wenu ac ar sawl achlysur – yn ymwneud â mathemateg ran amlaf – mae wedi gwneud i ni grio.

Ond dim mwy. Dim mwy.

Mae’n deimlad od iawn, yn gwybod dy fod di’n gadael addysg ysgol uwchradd. Mae’r foment yn dod yn ei ffordd fwyaf pur pan fyddi di’n ymweld â UCAS ac yn clicio ar y brifysgol ddewisol i ddod yn gynnig ‘cadarn’ i ti. Yr arwydd eithaf y byddi di mewn ychydig fisoedd, wythnosau, oriau, munudau, yn gadael yr ysgol yma. Y coridor yma. Y gadair yma efo cefn drwg a choesau sy’n gwichian. Bydd popeth wedi mynd. Y bobl yma ti’n gweld o dy amgylch? Y wynebau sydd wedi boddi dy olwg a diflasu’r synhwyrau am y degawd diwethaf? Bydda nhw’n symud ymlaen hefyd.

Dwi’n dychmygu ti rŵan hyn, os wyt ti’n cael dy gyflwyno gydag wyneb pawb o dy oedran di yn yr ysgol dy fod di’n gallu dweud, heb ddim amheuaeth: ‘Ydw, dwi’n gwybod pwy wyt ti. Wrth gwrs fy mod i.’ Beth am mewn ychydig flynyddoedd? Fyddech chi’n pasio eich gilydd yn y stryd ac, ar ôl blynyddoedd o atgofion cyffredin, a ddim yn gwybod, ddim yn poeni, pwy ydy’r person arall bellach?

Wrth i ti glicio’r llygoden yna, efallai bydd y meddyliau hyn yn fflachio yn dy feddwl am gyfnod byr– fe wnaeth i fi – fod hyn yn gyfnod o dy fywyd sy’n diffinio ti. Dyma’r cyfnod ble, efallai am y tro cyntaf, ti sydd mewn rheolaeth. Gall pobl ddweud wrthyt ti beth i wneud, gallant awgrymu dewisiadau, ac efallai gallant orchymyn i ti wneud rhywbeth… ond pan mai dim ond ti a’r llygoden yna a UCAS sydd yno, ti ydy’r un mewn rheolaeth. Ti sydd yn penderfynu tynged dy hun. Fedri di ddal gafael a chael rheolaeth ar fywyd a gweld pa ffordd yr aiff â thi – un sy’n llawn goleuni neu efallai wedi’i orchuddio â chymylau tywyll.

Os byddai bywyd yn ffilm – ac efallai dyma ydyw, efallai nad ydym yn ddim mwy nag cymeriadau mewn ffilm dragwyddol, ddiddiwedd i’r Duwiau – yna dyma fydda’r foment trac sain. Hapusrwydd. Tensiwn. Efallai arswyd hyd yn oed.

Yn yr ychydig funudau yna pan fyddi di’n cyfeirio’r llygoden yna ac yn ei glicio… ti’n sylweddoli yn sydyn dy fod di’n gallu penderfynu sut i newid dy fywyd.

Yn UCAS mae gen ti dri phrif ddewis; cadarn (ia plîs), yswiriant (ti ddim yn ail ddewis dwi’n addo) a’r dewisiadau ti’n gwrthod (rydym angen siarad). Ond pa brifysgol sydd yn ffitio i mewn i ba flwch?

Pa brifysgol fydd yn arwain ti i bethau gwell? Ble byddi di’n cyfarfod ffrindiau gydol oes? Ble byddi di’n cyfarfod cariad dy fywyd? Efallai bod popeth yn digwydd ta waeth beth fydda ni’n ei ddewis. Efallai bod y pethau sydd i fod i ddigwydd am ddigwydd, ta waeth pa amdaith rydym yn dewis cymryd. Dwi’n credu’n gryf yn y syniad o dynged; fod bwriad i bawb. I rai, gallai’r dynged yma olygu bod eu breuddwydion yn cael eu gwireddu. I eraill, efallai mai cyfarfod cariad eu bywyd ydy eu tynged. Neu i gael car neis. Neu doriad gwallt neis. Dwi ddim wedi  datblygu’r theori yn iawn eto. Ond gad i ni fynd efo’r syniad.

Neu efallai bod bywyd yn belen enfawr o does chwarae ac rydym yn cymryd rheolaeth ohono ac yn ei siapio fel yr hoffem. Gall ychwanegu ychydig mwy o liwiau. Efallai ychydig o friciau LEGO i’w wneud yn fwy bywiog; “chicas of the world, spice up your life”. Pwy a ŵyr? Pwy sy’n poeni? Dy fywyd di ydyw.

Yn ôl i’r llygoden. Mae’r meddyliau yma yn troelli yn dy ben am yr ychydig eiliadau gwerthfawr yma pan ti’n rhydd. Ti ddim wedi gwneud dy benderfyniad eto. Mae unrhyw beth yn bosib. Gallai hyn fod, yn llythrennol, yn “time of your life”.

Efallai byddi di’n petruso. Efallai byddi di’n gwingo. Efallai byddi di’n rhoi’r gorau iddi, trio eto ar ddiwrnod arall.

Neu efallai byddi di’n clicio.

Wrth i ti glicio, mae’r ffilm yn dechrau’n ôl. Golygfeydd newydd. Cymeriadau newydd. Maent i gyd yn dod i ti, yn y ffilm daith grêt yma gelwir yn fywyd.

Ti’n gweld? Nid dyma’r diwedd.

Ond ydy mae’n ddiwedd. Ti wedi gwneud y penderfyniad. Ti wedi  gwneud ymrwymiad. Wrth i ti yrru ymlaen, heb feiddio edrych yn ôl, ar lawr yr ystafell dorri mae’r rhannau o dy fywyd gallet ti fod wedi’i arwain wedi’u gwaredu.

DELWEDD: jwpsrv

Erthygl Berthnasol: Dewisais i Brifysgol

Erthygl Berthnasol: UCAS

Gwybodaeth – Addysg Uwch

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl