Heb Gategori

Fy Amser i ar Gwrs Sylfaen Celf a Dylunio

By -
Dim Sylwadau

English version // Yn Saesneg

Oce,felly rwy’n gwbl ymwybodol bod hi wedi bod yn dipyn o amser ers i mibostio rhywbeth ar y safle, yn bennaf gan fod fy astudiaethauprifysgol wedi cadw fi rhag gwneud fawr ddim cynhyrchiol yn fy amsersbâr. Ond nawr, o’r diwedd gallai ddweud bod i wedi gorffen fynghwrs Sylfaen blwyddyn, a lwyddais i basio gyda Theilyngdod yn ydiwedd, rhywbeth roeddwn i’n wirioneddol ddim yn credu byddai wedidigwydd. Ond roedd hwnna ychydig dros bythefnos yn ôl a nawr mae’ramser gen i i baratoi i symud draw i Gaerdydd i ddechrau fy ngraddtair blynedd.

Amy rhai sydd ddim yn gwybod, pawb sy’n darllen yr erthygl hon mwy nathebyg, ym mis Medi 2013 dechreuais gwrs Sylfaen blwyddyn o hyd mewnCelf a Dylunio, ym MhrifysgolDe Cymru(gynt ym Mhrifysgol Morgannwg) ar gampws Trefforest. Yn ystod fyamser yno dysgais wahanol fathau o addysgu artistig cyn dewisarbenigo mewn un o’r saith maes a gefais brofiadau byr gyda hyd atWyliau’r Nadolig. Roedd y meysydd yn cynnwys Dylunio Graffeg, 3D,Ffotograffiaeth,Ffasiwn a Thecstilau, Darlunio, Animeiddio a Chelfyddyd Gain. Yn ypen draw, dewisais i arbenigo mewn Animeiddio lle bues yn gweithio arwahanol aseiniadau thema a arweiniodd at y Prosiect Mawr Terfynol ynystod mis Mawrth tan ddiwedd mis Mai. Yna, unwaith roedd y prosiectwedi gorffen, sefydlon ni arddangosfa agored er mwyn i’r cyhoedd caelgweld ein Prosiect Mawr Terfynol am wythnos olaf y cwrs. Ar ôl yrwythnos honno, aethom a’n holl waith gartref, cawsom ein graddau acyna penderfynu beth oedd digwydd nesaf yn ein bywydau.

Dewisaisi astudio Animeiddio, wrth gwrs, yn yr ATRiuM:Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd,a fyddai’n dechrau rywbryd canol mis Medi, a dwi wirioneddol methuaros! Tan hynny, mae’n debyg allai dechrau postio fan hyn yn fwy aml.(Lwcus i chi gyd dwi’n siwr) Rwyfhefyd wir angen i fi ddal fyny gyda rhai o fy sioeau anime, fy gemaucyfrifiadur / consol ac efallai byddwn i’n gwylio’r rhaglen Game ofThrones mae pawb wedi bod yn bloeddio amdano ers ei gread. Ond er modi’n gwneud hyn i gyd ac yn meddwl tuag at y dyfodol, mae angen i migyfarch popeth sydd wedi digwydd i mi dros y flwyddyn ddiwethaf.Felly, byddwch yn amyneddgar gyda fi darllenwyr.

Felly,cyn i mi ddechrau fy Nghwrs Sylfaen, yr oeddwn mewn gradd wahanol ymMhrifysgol Aberystwyth am flwyddyn a hanner. Y rheswm pam mae’nflwyddyn a hanner ydy oherwydd penderfynais i yn ystod fy ailflwyddyn mod i’n anhapus lle’r oeddwn i. Nawr, paid â chamddeall,nid ydyw hyn yn unrhyw beth i wneud â dysgeidiaeth y radd, neu’rdref. Rwy’n caru Aberystwyth fel lle, mae’n lle braf i fynd amychydig ddyddiau os ydych erioed yn cael y cyfle. Ac na, nid oes ganhyn unrhyw beth i wneud gyda fy Radical Rant ar yr Economi Gwaithgwreiddiol, ac o Aberystwyth (byddaf yn dweud hyn nawr gan nad ydwi’n meddwl mod i wedi dweud pan ysgrifennais i’r erthygl).Na, roedd hyn yn bennaf oherwydd y cwrsei hun yn gwneud i mi yn anhapus. Roedd yn gwrs rhaglennu, rhywbethroedd gen i ddim profiad gyda phan ddechreuais i gyntaf.
Roeddwni wedi dod i arfer ag ef yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn gyntaf,ond yn ystod yr ail hanner a’r amser a dreuliais yn ystod yr ailflwyddyn, roedd yn amlwg nad bid rhaglennu yr oeddwn i fod i wneud.Nai adael hynny i’r bobl sydd eisiau gwneud e fel swydd lawn-amser,ac rwy’n parchu unrhyw un sydd am fod yn rhaglennydd, oherwydd gallaiddim dod i arfer ag oriau o godio a chael pethau’n anghywir, a hyd ynoed yn waeth, a, wel nai adael i bobl sy’n gwybod beth maen nhw’ngwneud.

Rheswmarall, ychydig yn fwy personol a oedd wedi helpu gyda fymhenderfyniad i adael, oedd y faith bod i wedi cwympo mas gyda ffrindy cefais y pleser o gwrdd ag yn ystod fy amser yn Aberystwyth.Cwrddom yn wreiddiol yn y Neuaddau Preswyl yn ystod y flwyddyngyntaf; roedd e’n andros o hwyl i fod gyda, fel yr oedd llawer o bobldes i i adnabod, ac roeddwn i wedi synnu bod e a’r gweddill wedicynnig i mi fyw gyda nhw mewn llety preifat. Fellypan ddaeth yr ail flwyddyn, roeddem ni gyd yn mwynhau ein hunain,wythnos y glas (er nad oeddem yn dechnegol las), fel yr ydwyt yn eiddisgwyl gan griw penwan o fyfyrwyrprifysgol. Ond wedyn, digwyddodd rhywbeth i mi, a doedd e ddim yndda.

Fellypan ddaeth yr ail flwyddyn, roeddem ni gyd yn mwynhau ein hunain,wythnos y glas (er nad oeddem yn dechnegol las), fel yr ydych yn eiddisgwyl gan griw penwan o fyfyrwyr prifysgol. Ond wedyn, feddigwyddodd rhywbeth i mi, a doedd e ddim yn dda.

Fellyroedd yr anhapusrwydd yn fy nghwrs presennol, gyda bod mor bell iffwrdd o gartref, wedi ychwanegu at faterion eraill gyda fy iechyd,wedi troi fi i mewn i rhywun nad oeddwn i. Felly, dywedais i rhywbethcas iddo fe ar gyfryngaucymdeithasol doedd e ddim wedi cymryd yn dda iawn. Roeddwn i weditrio ymddiheuro am y peth, ond doedd e ddim eisiau clywed. A dynany’, collais i, o bosibl un o gyfeillion mwyaf erioed, i gyd oherwyddcyfryngau cymdeithasol (ie, yr holl bethau i dorri cyfeillgarwch.Cymera’r gwers hwn yn ddifrifiol darllenwyr). Yn ystod gweddill fyamser tan diwedd y tymor, gwariais i fy amser yn cuddio yn fyystafell, yn osgoi nid yn unig fe, ond pawb yn y ty. Roeddwn i’nosgoi unrhyw un heblaw y darlithwyr ar y campws, ond hyd yn oped prydhynny roeddwn i’n colli gwersi, ddim yn gwneud yr aseiniadau rhoddwydI ni, yn ffaelu mewn cyflwyniadau, doeddwn I ddim eisiau gwneudunrhyw beth gydag unrhyw un neu gwneud unrhyw beth, roeddwn I eisiaubod ar ben fy hun, ond roeddwn I eisiau rhywun I glywed. Rwy hyd ynoed yn cofio gadael y ty, yn ffeindio rhywle tawel I ffwrdd o unrhywun, ble buaswn i’n crio. Dwi’n gwybod fod hyn yn swnio’n drist Iglywed, neu hyd yn oed yn pathetig, a ie, mae’n siwr bod e’nbathetig. Ond dyna beth wnaeth y straen a’r dicter o bod ar ben fyhun, roedd e wedi troi fi mewn i lanastr.

Daethyr adeg lle byddwn i’n crio bob deg munud, yn yr agored hyd yn oed.Byddai’n rhaid i mi ymladd y dagrau yn ôl wrth gerdded yn y dref, ary bws, ar y campws, ac yn fy ystafell, hyd yn oed, yn gwybod na allwni siarad ag unrhyw un am hyn. Felly, gwnes i’r penderfyniad na allwni aros rhagor, a gadewais i Aberystwyth ym mis Rhagfyr 2012.

Ynystod fy amser adfer, roedd rhaid i mi gymryd tabledi gwrth-iselderac rydw i dal i gymryd nawr hyd heddiw, ac roedd angen amser i feddwlam beth oeddwn i eisiau gwneud. Yn ystod y cyfnod hwn roeddwn yngwylio animeiddio o wahanol fathau drwy’r amser. AnimeiddioAmericanaidd, Animeiddio/ Anime Japaneaidd, Animeiddio, Gemau Fideo,Animeiddio Fflach a grëwyd ar-lein, unrhyw beth a fyddai’n tawelu’rmeddwlAc yna roedd e di taro fi, mae hyn yn gwneud i mi deimlo’ndawelach, roedd yn gwneud fi’n…hapus. Rhywbeth nad ydw i wedi bodyn wirioneddol mewn nifer o flynyddoedd. Yna, rwy’n cofio fy amsermewn celf yn yr ysgol gyfun. Doeddwn i ddim yn grêt a dim ondcymaint y gallem wedi gwneud, fel sy’n wir gyda phob pwnc celfgynhwysfawr, ond rwy’n cofio’r llawenydd oedd gen i yn ystod yradegau hyn ac roeddwn i eisiau hynny eto.Felly, penderfynais i wneudcais i Brifysgol De Cymru, gyda’r Cwrs Sylfaen mewn Celf a Dyluniogan fy mod i’n cofio fy mhennaeth Celf yn dweud wrthyf faint oeddhi’n difaru peidio gwneud ac i wir fynd amdani os byddaf i byth yncael y cyfle. Felly wnes i, a chefais fy nerbyn i’r cwrs! Er oeddwn idal i fod mewn cyflwr meddyliol gwael yn ystod y cyfnod hwn, am uneiliad, roeddwn i’n teimlo fod pethau’n mynd i newid. Ac yn araf, ondyn sicr, y gwnaethant nhw.

Maefy amser ar y Cwrs Sylfaen wedi dysgu cymaint i mi. Mae wedi gwneud imi brofi gwahanol sgiliau gyda chelf nad oeddwn erioed wedi cael ycyfle i brofi yn yr ysgol. Mae wedi rhoi llawer mwy o annibyniaeth imi, yn enwedig yn ystod ein aseiniadau arbenigol a Phrosiect MawrTerfynol – rhywbeth roeddwn I angen gwella. Mae hefyd wedi cyflwynofi i gymaint o bobl anhygoel, tiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr. I feddwl,bod yna gymaint o bobl creadigol a gwallgof I gael, waeth beth fo’uhoedran, yn debyg i, neu hyd yn oed, yn union fel fi. Ac yna roedd yteithiau cawsom ni. Cefais fy mlas cyntaf o Lundain yn ystodpenwythnos yno, yn edrych trwy’r gwahanol amgueddfeydd ac orielau oamgylch y ddinas, a oedd mor dda I weld. Yna roedd mynd i SwBryste yn wych, gweld y wahanol greaduriaid I gyd a oedd yn rhanohono, tynnu eu lluniau a chael diwrnod llawn hwyl. Y llewod yn amlwgoedd fy hoff ran, yn enwedig yr un a gerddodd i fyny at y gwydr ynsyllu arna fi tra Tynnais ef, hyd yn oed yn crafu i geisio cael fysylw. Roeddwn i wedi syfrdanu, yn rhannol o ofn, ond yn bennaf ohapusrwydd llwyr, oherwydd, wel … llewod. Oes angen dweud mwy?

Ondrwyt ti am siarad am fy mrofiadau. Byddai’n drosedd i beidio â sônam fy wythnos yn aros yn Fenis yr holl ffordd yn yr Eidal. Yn gyntafoll, doeddwn i byth wedi hedfan o’r blaen, ond roeddwn i wrth fymodd! Roedd fy amser cyntaf yn hedfan yn rhywbeth wna i bythanghofio, er fy mod wedi cysgu yn ystod awr ohono oherwydd bu’n rhaidi ni fod yn yr orsaf drenau Trefforest am bump yn y bore. Neu chwech,naill ffordd neu’r llall, roedd yn rhy gynnar ar gyfer yr un. AcynglÅ·n â Fenis ei hun? Rhyfeddol! Dwi ddim gallu egluro mewngeiriau faint o argraff cafodd y lle arna i. Y bensaernïaeth, ybwyd, yr holl arddangosfeydd byd yn La Biennale, Y BWYD! Hyd ynoed y llifogydd, pan ddywedon nhw fod Fenis yn gorlifo’n hawdd,doedden nhw ddim yn jocan. Roedd rhaid i mi brynu esgidiau glaw hydyn oed, dwi mewn ffordd yn difaru oherwydd roedd y maint yn rhy facha chafodd fy nhraed eu dinistrio ar ôl yr holl gerdded o gwmpaswnaethom ni. Ond i grynhoi Fenis fel cyfanwaith, yr olygfa o benFenws Sant Marc, roedd yn fythgofiadwy. Doeddwn i ddim wedi crio, nidar y tu allan o leiaf, ond ar y foment honno, yr oeddwn i mor hapus,ac ni allai’r profiad byth cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyf.

I ddweud y gwir, mae’rCwrs Sylfaen dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi bod yn brofiad na ellirbyth cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyf fi.Felly, os oes unrhyw un allan yna, sy’ndarllen fy stori sydd braidd yn ddigalon ond yn agored erioed sydd âdiddordeb i wneud celf neu sydd am gael profiadynhttp://wicid.tv/cym/gwybodaeth/addysg-cyflogaeth-a-hyfforddiant/Addysg,Cyflogaeth a Hyfforddiant eu bywydau byddet byth yn anghofio, ynagwnewch y Cwrs Sylfaen Celf a Dylunio yn Nhrefforest. Efallai y byddyn costio mwy neu lai popeth sydd gennyt ti yn dy bocedi a chyfrifbanc (fel y gwnaeth i mi eleni yn anffodus, Fenis oedd prif reswmrwy’n cyfaddef), ond wedi i ti cael y profiad, byddi di’n falch dyfod wedi gwario pob ceiniog tuag ato.

Felly,beth arall sydd yno i ddweud? Efallai diolch? Wel os felly, mae angenimi ddiolch i bawb yn Aberystwyth yn gyntaf oll: darlithwyr,tiwtoriaid, a’r holl bobl yr wyf wedi gallu treulio amser gyda, gangynnwys y boi wnes i gwympo mas gyda. Rydych chi gyd, yn anfwriadol,wedi helpu fi i sylweddoli os byddaf i wedi parhau ar fy nhaith ynAberystwyth, byddwn i wedi bod yn berson wirioneddol anhapus adiflas, ac mae gennym ni digon o rheini yn y byd yn barod. Osbydd unrhyw un ohonoch yn taro i mewn i mi ar fy llwybr yn y dyfodol,efallai y gallwn rannu diod neu gael sgwrs neis gyda’n gilydd? Helatgofion dros yr amseroedd da ac yn y blaen. Efallai y gallwn ni gydfod yn ffrindiauunwaith eto un dydd, dwi wir yn colli siarad â chi, er nad ydw i’nun da am siarad yn gyffredinol, ond mae’n siŵr eich bod chi’n gwybodhynny.

Erthygl Perthnasol: Dewisaisi Brifysgol

Gwybodaeth» Addysg,Cyflogaeth a Hyfforddiant»AddysgUwch»BywydMyfyriwr

Gwybodaeth» Iechyd» IechydEmosiynol a Meddyliol

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl