Heb Gategori

Pob Plentyn, Pob Dydd: Strategaeth Mynychu's Ysgol 2014 – 2017

By -
Dim Sylwadau

 

GWASANAETH ADDYSG A DYSGU GYDOL OES

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF

GWELLA PRESENOLDEB YSGOL

YN RHONDDA CYNON TAF

POB PLENTYN, POB DYDD

STRATEGAETH MYNYCHU’R YSGOL

2014 -2017

RHAGFYR 2014

Cynnwys

1.    Cyflwyniad

Tud. 3

Pwy sy’n gyfrifol am bresenoldeb ysgol

Tud. 4

Beth yw swyddogaeth ysgolion?

Tud. 4

Beth yw swyddogaeth Gwasanaeth Mynychu’r Ysgol a Lles?

Tud. 6

Beth yw swyddogaeth Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid?

Tud. 8

Beth yw swyddogaeth Gwasanaeth Addysg ar y Cyd – Consortiwm Canolbarth y De?

Tud. 8

2. Cyd-destun

Tud. 10

Cyd-destun y polisi

Tud. 10

Sylfaen yr ymchwil

Tud. 10

Cyfraddau presenoldeb yn Rhondda Cynon Taf

Tud. 11

3. Gwireddu’r Strategaeth

Tud. 14

4. Monitro’r Strategaeth

Tud. 18

5. Casgliad

Tud. 20

1.     CYFLWYNIAD

1.1        Mae’rstrategaeth yma yn seiliedig ar ethos y Strategaeth Mynychu’r Ysgol 2011-13wreiddiol, gan ystyried y datblygiadau ers ei lansio. Mae’r ddogfen yma ynnodi’r sefyllfa bresennol o ran lefelau presenoldeb ysgol yn Rhondda Cynon Taf,ynghyd â’r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd, mewn partneriaeth â chyrffllywodraethu ysgolion, penaethiaid, rhieni, busnesau lleol a grwpiau cymunedol,i wella cyfraddau presenoldeb ysgol dros y tair blynedd nesaf.

1.2        Roedd Strategaeth 2011-2013 wedi amlinellu’rmeysydd allweddol ar gyfer gwella, sydd, ers cael eu rhoi ar waith, wedi caeleffaith gadarnhaol ar bresenoldeb ysgol yn Rhondda Cynon Taf. O ganlyniad iganolbwyntio ar y tri maes allweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, maepresenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd wedi cynyddu o 2.2% a 2.5% yn ôleu trefn. Mae ardal Rhondda Cynon Taf bellach yn cael ei rhestru’n 17eg yngNghymru ar gyfer cyfraddau presenoldeb ysgolion uwchradd o gymharu â 22

ain

yn 2011. Mae gwelliannau amlwg o’r fath yn dystiolaeth i effeithiolrwyddcanolbwyntio ar y tri maes allweddol ar gyfer gwella, gan ddefnyddio dullgweithredu strategol, clir. 

1.3        Bwriady strategaeth yma yw adeiladu ar y fframwaith presennol ar gyfer gwelliantparhaus mewn presenoldeb ysgol a chyrhaeddiad, yn yr holl sefydliadau addysgolyn Rhondda Cynon Taf, gan gymryd i ystyriaeth y datblygiadau sydd ar y gweill ofewn Consortiwm Canolbarth y De a’i gylch gwaith wrth gefnogi gwelliannau mewnlefelau presenoldeb ar draws y rhanbarth ehangach.

1.4        Ynogystal â hynny, bydd cyflwyno Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctidnewydd yn ychwanegu at yr amrywiaeth o ymyriadau sydd ar gael i’r disgyblionoedran ysgol uwchradd hynny sy’n profi rhwystrau i ddysgu ac sydd mewn perygl oymddieithrio o addysg. Mae’r ymyriad yma hefyd yn parhau ar ôl oedran ysgolstatudol, trwy’r Gweithwyr Cymorth Cyfnod Pontio Ôl 16 (SEET), sy’n cefnogipobl ifainc hyd at 25 oed i gymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

1.5        Gyda’igilydd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chonsortiwm Canolbarthy De wedi ymroi i weithio gydag ysgolion a phartneriaid ehangach i wellapresenoldeb ysgol a phrydlondeb ar draws y pum Awdurdod Lleol. Yn sail i’rymrwymiad yma mae’r cyd-ddealltwriaeth, oni bai fod plant a phobl ifainc ynmynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon, fydd ddim modd iddyn nhw gymrydmantais lawn o’r cyfleoedd addysgol sydd ar gael a fyddan nhw ddim yn cyflawnieu gwir botensial. 

1.6        Wrthadeiladu ar y sylfeini a gafodd eu gosod gan Strategaeth 2011-2013, mae’nhanfodol bod presenoldeb ysgol yn parhau i fod yn flaenoriaeth gyffredin i’rholl bartneriaid, os ydyn ni i barhau i gefnogi ysgolion wrth wella cyfraddaupresenoldeb. Felly, parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth o bartneriaid yw’rweledigaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf, a hynny o fewn yr Awdurdod Lleol athu hwnt, i sicrhau bod y flaenoriaeth yma’n cael ei adlewyrchu yn eucynlluniau a’u hamcanion eu hunain.

1.7        Maesicrhau lles a diogelwch pob disgybl yn gofyn am i bartneriaethau lleolcydlynol sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pobl ifainc, gyda’rConsortiwm, yr Awdurdod Lleol, yr ysgolion a phartneriaid, i ganolbwyntio arddarparu’r cyfleoedd mwyaf priodol ar gyfer pob person ifanc er mwyn iddogyflawni’i botensial. Rhaid i’r Awdurdod Lleol sicrhau bod cyfleoedd o’r fathar gael i’r holl bobl ifainc drwy’r defnydd effeithiol o wasanaethau, achynnydd parhaus a chyson mewn lefelau presenoldeb flwyddyn ar ôl blwyddyn.

1.8        Byddffocws ychwanegol y Consortiwm ar faterion presenoldeb yn sicrhau y bydd dullcydweithredol ar draws pob un o’r pum Awdurdod Lleol, sy’n darparu cyfathrebucyson a chydlynol i ysgolion, disgyblion a rhieni, ble bynnag yw eu lleoliaddaearyddol.

Pwy sy’n gyfrifol am bresenoldeb ysgol?

1.9        Mae’rgofynion cyfreithiol ar gyfer presenoldeb ysgol yn cael eu nodi yn Neddf Addysg1996; Deddf Plant 1989; Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998; a Rheoliadau Cofrestru.

1.10     O dan adran 7 o Ddeddf Addysg 1996, mae dyletswyddgyfreithiol ar y rhieni i sicrhau bod eu plant yn derbyn addysgamser llawn effeithlon sy’n addas i oedran, gallu a dawn eu plant, naill aitrwy fynychu’r ysgol yn rheolaidd neu fel arall. Lle mae digon o dystiolaethnad yw rhieni yn cyflawni’r ddyletswydd gyfreithiol yma, gall camau cyfreithiolgael eu cymryd o dan Adran 444 (1) a/neu (1A) o Ddeddf Addysg 1996.

1.11     Mae Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion)(Cymru) 2010, yn nodi dyletswydd ysgolion i sicrhau bod prosesauac arferion cofrestru glir ac effeithlon ar waith, a bod yr arferion hynny ynhygyrch i’r Awdurdod Lleol at ddibenion monitro, pan fo angen. Mae cofrestrysgol yn ddogfen gyfreithiol efallai y bydd angen ei chyflwyno’n dystiolaethllys mewn erlyniadau Awdurdod Lleol am absenoldeb. Mae’n drosedd i ysgolionbeidio â chynnal cofrestri cywir.

1.12     O dan Adran 437 o Ddeddf Addysg 1996, mae’nddyletswydd ar yr Awdurdod Lleol i sicrhau bod plentyn y mae’ngyfrifol amdano’n derbyn addysg addas naill ai trwy fynychu’r ysgol, neu felarall, yn rheolaidd. Mae Adran 436A o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn eigwneud hi’n ofynnol bod rhaid i Awdurdodau Lleol wneud trefniadau i allu bennu (cynbelled ag y mae’n bosibl gwneud hynny) y plant sy’n byw yn eu hardaloedd syddddim yn derbyn ‘addysg addas’.

1.13     Dyletswyddyr Awdurdod Lleol yw sicrhau bod rhieni ac ysgolion yn cyflawnieu cyfrifoldebau. Mae’r cyfrifoldeb yma yn dod o dan adran Gwasanaeth Mynychu’rYsgol a Lles.

1.14     Erbod y cyfrifoldebau cyfreithiol am sicrhau bod disgyblion cofrestredig ynmynychu’r ysgol yn rheolaidd yn gorffwys gydag ysgolion a’r Awdurdod Lleol, maeLlywodraeth y Cynulliad yn disgwyl ymagwedd Consortiwm gref tuag at ddarparulefelau gwell a chyson o fewn fframwaith cydweithredol y cytunwyd arno.

Beth yw swyddogaeth yr ysgolion?

1.15     Maegan ysgolion ddyletswydd statudol o dan Adran 175 o Ddeddf Addysg 2002 iddiogelu a hyrwyddo lles plant. Mae Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn âdisgwyliad uchel o’r ysgolion mewn perthynas â gwella cyfraddau presenoldebysgol yn barhaus a chefnogi lles disgyblion. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwngy disgwyliadau yma a chyfrifoldebau cyfreithiol yr ysgol i fod ag arferioncofrestru a chodio effeithiol yn eu lle er mwyn diogelu disgyblion. Mae’rsystemau yn yr ysgolion ar gyfer monitro absenoldebau disgyblion er mwyn herio,cefnogi a hyrwyddo mynychu’r ysgol yn rheolaidd, hefyd yn hyrwyddo diwylliant oddiogelwch a lles disgyblion drwy’r ysgol.

1.16     Yn ogystal â deddfwriaeth genedlaethol bresennol acarweiniad Estyn, mae Rhondda Cynon Taf wedi cymryd nifer o gamau i fonitrocydymffurfiaeth â chofrestru a chodio ym mhob ysgol. Nododd Estyn, yn dilynymweliad monitro ym mis Gorffennaf 2014 bod yr “awdurdod wedi cymryd camaucadarn i sicrhau bod pob ysgol yn defnyddio codau presenoldeb mewn modd cyson achywir. Mae’r awdurdod yn rhoi’r cyfrifoldeb ar benaethiaid i’r perwyl hwnnwdrwy eu prosesau archwilio mewnol, a fydd yn arwain at ddata presenoldeb mwycywir.

1.17     Mae’rcamau cadarn yma yn cynnwys comisiynu adolygiad allanol o arferion yr ysgolion(Tachwedd 2013) ac ymchwiliad archwilio mewnol o’r arferion cofrestru (Gorffennaf2013). Mae argymhellion o’r gwaith comisiynu yma wedi arwain at nifer oddisgwyliadau i ysgolion. Mae’r argymhellion yma yn cynnwys, ond nid yngyfyngedig, i’r canlynol:

·        Rhaidi holl ysgolion uwchradd enwebu Uwch Arweinydd ar gyfer Presenoldeb sy’ngyfrifol am reoli strategaethau presenoldeb yn yr ysgol.  Dylai’r swydd gynnwys rheoli cydymffurfiaethag arferion cofrestru, dadansoddi data presenoldeb ar lefel ysgol gyfan ac arlefel carfan er mwyn pennu’r meysydd ar gyfer gwella/gweithredu. Hefyd, dylai’rArweinydd yma fod yn bwynt cyswllt cychwynnol â Chorff Llywodraethu’r ysgol a’rAwdurdod Lleol ar gyfer materion presenoldeb lefel uchel;

·        Gwella ansawdd y prosesau gwneud penderfyniadaustrategol o ran gwella presenoldeb, gyda rhagor o arferion hunanwerthuso cadarna gweithredu dilynol er mwyn rhoi lle amlycach i’r flaenoriaeth;

·        Cryfhau’rcysylltiadau â’r Corff Llywodraethu, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael eilledaenu’n effeithiol a fydd yn arwain at wneud penderfyniadau strategol.

1.18     DylaiCynlluniau Gwella Ysgolion roi lle amlwg i bresenoldeb a’i drin yn flaenoriaeth,sy’n adlewyrchu’r ymrwymiad i leihau lefelau absenoldeb gan ddefnyddio dullgweithredu ysgol gyfan ar draws y strwythur rheoli’r ysgol ehangach. ByddGwasanaeth Gwella Ysgolion, drwy arferion gweithio gwell gyda GwasanaethMynychu’r Ysgol a Lles, yn gallu mynd â heriau mwy goleuedig i’r ysgolion hynnysydd ddim yn rhoi blaenoriaeth i bresenoldeb, a monitro cynnydd ysgolion tuagat eu targedau. Bydd cael ei gynnwys mewn cynlluniau strategol yn sicrhau bodpresenoldeb yn cynnal proffil uchel, sy’n cael ei oruchwylio gan uwch arweinwyrysgolion.

1.19     Igefnogi’r amcan strategol o wella cyfraddau presenoldeb, dylai pob ysgol roipolisi presenoldeb ysgol gyfan ar waith, sy’n nodi sut mae presenoldeb yn caelei reoli a pha systemau monitro sy’n cael eu defnyddio. Dylai pob aelod o stafffynd ati i gefnogi hyn a dylai’r corff llywodraethu ei gymeradwyo a’i fonitro. Dylai’rPolisi Presenoldeb amlinellu cyfrifoldebau aelodau unigol o staff yn glir. Ynogystal â hynny, dylai fod ar gael yn rhwydd i staff sydd newydd eu penodi, achael ei ddefnyddio yn rhan o’r broses ymsefydlu.

1.20     Dylaifersiwn hawdd ei ddeall gael ei baratoi mewn cydweithrediad â’r disgyblion.Byddai hyn yn sicrhau ei fod yn ystyrlon, yn addas at y diben ac yn cael eiddeall gan yr holl unigolion a’u rhieni/gwarcheidwaid, er mwyn hyrwyddo’rmanteision o fynychu’r ysgol yn rheolaidd.

1.21     Dylaiysgolion weithredu gweithdrefn Diwrnod Cyntaf o Absenoldeb er mwyn i rieni gaelgwybod os nad yw eu plentyn yn yr ysgol. Dylen nhw hefyd fod â system safonol igadw mewn cysylltiad â rhieni mewn perthynas â materion absenoldeb aphrydlondeb.

1.22     Maemonitro rheolaidd o ddata presenoldeb ar draws yr ysgol gyfan, yn y cyfnodauallweddol, y grwpiau blwyddyn a’r dosbarthiadau, yn hanfodol i’r ysgol i ddeallmaterion presenoldeb. Yr un mor hanfodol yw monitro presenoldeb grwpiau breguspenodol (er enghraifft, plant sy’n derbyn gofal, plant sydd ar y GofrestrDiogelu Plant, disgyblion sydd wedi’u gwahardd, y rhai hynny sydd ag anghenionaddysgol arbennig, troseddwyr ifainc, cynhalwyr ifainc ac yn y blaen). Dim ondwrth ddadansoddi’r wybodaeth presenoldeb y gall ysgol bennu lle mae angengwelliant, a chyfeirio adnoddau yn unol â hynny a hysbysu newidiadau yn y gwasanaeth.Mae ysgolion yn cael eu hannog i ddarparu ymyrraeth briodol ar gyfer pobdisgybl ac i beidio â dibynnu ar adnoddau cyfyngedig Gwasanaeth Mynychu’r Ysgola Lles y Cyngor i ymyrryd unwaith y mae presenoldeb disgybl wedi gostwngislaw’r trothwy 86% ar gyfer atgyfeirio.

1.23     Dylaipob ysgol fod yn gallu darparu data ar y canlynol:

·        Lefelau absenoldeb cyffredinol a pharhaus ar gyfer pobdisgybl, grŵp blwyddyn a charfan arwyddocaol arall

·        Presenoldeb, absenoldeb awdurdodedig ac anawdurdodedig (ynôl y cod), gwaharddiadau, diffyg prydlondeb, a chofrestru deuol ar gyfer pobdisgybl unigol

·        Presenoldeb ar lefel ysgol ac ar lefel carfan, yn ôl ycod

Beth yw swyddogaeth Gwasanaeth Mynychu’rYsgol a Lles?

1.24     Mae Gwasanaeth Mynychu’r Ysgol a Lles yn cynnigcymorth i ysgolion, disgyblion a rhieni er mwyn sicrhau presenoldeb rheolaidd amynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud ag absenoldeb. Mae’r SwyddogionPresenoldeb a Lles yn cydweithio ag asiantaethau eraill ac yn gyswllt pwysigrhwng y cartref a’r ysgol. Mae’r Swyddogion yn helpu rhieni ac athrawon iweithio ar y cyd fel bod disgyblion yn manteisio ar y cyfleoedd addysgol syddar gael yn eu hardaloedd lleol.

1.25     Prif swyddogaeth Gwasanaeth Mynychu’r Ysgol a Llesyw cyfrannu at yr Awdurdod Lleol ac ymdrechion yr ysgolion i fod yn effeithioldrwy sicrhau bod:

·        Presenoldeb yn rhan annatod osystemau a phrosesau’r ysgol

·        Mecanweithiau ar waith ifonitro cywirdeb arferion cofrestru ysgolion

·        Ysgolion yn cael eu herio ar ydefnydd o’r codau cofrestru, lle bo’n berthnasol

·        Data presenoldeb cywir achyflawn yn cael eu darparu ar gyfer y Consortiwm erbyn terfynau amser ycytunwyd arnyn nhw

·        Targedau heriol ond sydd hefydyn realistig, yn cael eu gosod ar y cyd ag Arweinwyr Systemau, ysgolion achyrff llywodraethu

·        Pob gweithred mewnpartneriaeth ag ysgolion, disgyblion, rhieni a chymunedau, i ddarparu hawliauaddysg priodol a phresenoldeb rheolaidd

·        Cysylltiadau yn cael eudatblygu â rhwydwaith o asiantaethau sy’n darparu gwasanaethau addysg, iechyd achymdeithasol i unigolion gydag anghenion penodol 

1.26     Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy’r canlynol:

·        hyrwyddo a chefnogi polisïaupresenoldeb ysgol gyfan

·        darparu cyngor ar arferion dasydd wedi ennill eu plwyf

·        cydweithio ag aelodau o staffysgol, disgyblion, rhieni, ac unrhyw un arall sy’n berthnasol, ar raglenni sy’nceisio gwella lefelau presenoldeb

·        ymgymryd â gwaith gydadisgyblion unigol

·        ymgymryd â gwaith sy’ncanolbwyntio ar y teulu

·        datblygu gwaith grŵp gydadisgyblion a rhieni

·        cychwyn achosion statudol ar ran ar yr AwdurdodLleol

1.27     Diben Gwasanaeth Mynychu’r Ysgol a Lles yw helpurhieni, ysgolion a’r awdurdod lleol i gyflawni’r dyletswyddau sy’n cael eu rhoiiddyn nhw gan ddeddfwriaeth berthnasol.

1.28     MaeGwasanaeth Mynychu’r Ysgol a Lles yn asiantaeth orfodi sy’n rhan o’r AwdurdodLleol, ac sy’n gyfrifol am gymryd camau cyfreithiol, lle bo’n briodol, mewnachosion o absenoldeb parhaus o’r ysgol. Rhieni/Cynhalwyr sydd yn bennafgyfrifol am sicrhau presenoldeb rheolaidd ac mae camau cyfreithiol i fynd i’rafael â diffyg presenoldeb yn cael eu cymryd ar sail unigol.

1.29     Mae Gwasanaeth Mynychu’r Ysgol a Lles hefyd yngyfrifol am brosesu a monitro’r ceisiadau am drwyddedau i blant ar gyfercyflogaeth a pherfformio. Y rheswm pam y mae’r cyfrifoldeb yma gyda’rgwasanaeth yw sicrhau na fydd unrhyw geisiadau am absenoldeb yn ystod gyrfaysgol y plentyn yn cael effaith niweidiol ar ei addysg. Yn ogystal â hynny,mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw waith cyflogedig y maeperson ifanc o dan 16 oed yn ei wneud, yn digwydd mewn amgylchedd diogel aphriodol. Bydd asesiadau risg yn cael eu cynnal pan fydd cais yn cael eidderbyn oddi wrth gyflogwr newydd, cyn i’r drwydded gael ei chymeradwyo.

1.30     Ynogystal â’i ddyletswyddau statudol, mae Gwasanaeth Mynychu’r Ysgol a Lles hefydyn rhan o Wasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid newydd ei sefydlu, acyn gweithio’n agos ochr yn ochr â’r Garfan Cefnogi Ymgysylltu ag Addysg,Cyflogaeth a Hyfforddiant (SEET). Mae’r garfan SEET yn ychwanegu at y gallu igefnogi pobl ifainc sydd wedi ymddieithrio oddi wrth addysg drwy eu helpu iailintegreiddio â dysgu neu hyfforddiant ar ôl gadael addysg statudol. Maetrefniadau gweithio integredig wedi arwain at wasanaeth di-dor ar gyferdisgyblion Bl. 11 sydd yn hysbys i Wasanaeth Mynychu’r Ysgol a Lles sy’n gadaelyr ysgol, ac sydd angen cymorth parhaol gan y Gweithwyr Cymorth Pontio Ôl 16oed.

Beth yw swyddogaeth Gwasanaeth Ymgysylltu aChyfranogiad Ieuenctid?

1.31     Maegan y Cyngor ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau ieuenctid 11-25 oedfel y rhagnodir yn Adran 123 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau (2000).  Mae’r Ddeddf yma mewn grym yng Nghymru dan y CyfarwyddiadauGwasanaethau Cymorth Ieuenctid (Cymru) 2002sydd yn cyfarwyddo awdurdodaulleol yng Nghymru i wneud y canlynol:

·        Darparugwasanaethau cymorth ieuenctid

·        Sicrhau’rddarpariaeth o wasanaeth cymorth ieuenctid, neu

·        Gymrydrhan yn y ddarpariaeth o wasanaethau cymorth ieuenctid, gan roi sylw iganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn Rhondda Cynon Taf, cyfrifoldeb y Gwasanaeth Ymgysylltu a ChyfranogiadIeuenctid yw’r dyletswyddau statudol ac mae’r ddarpariaeth yn cael ei harolygugan ESTYN o dan arolygiad Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol ar gyfer Planta Phobl Ifainc.

1.32     MaeGwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn canolbwyntio ar ddarparucymorth wedi ei dargedu ac ymyriadau cynnar er mwyn lleihau’r nifer o boblifainc 11-25 oed sy’n mynd i wasanaethau statudol eraill, gan ddod yn NEET(pobl ifainc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ac yn methuâ sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

1.33     Ermwyn darparu’r gwasanaethau yma a chefnogi blaenoriaethau’r awdurdod lleol, maeswyddogion Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn rhannu’r cyfrifoldebo hyrwyddo presenoldeb da yn yr ysgol, gan helpu pobl ifainc i fynd i’r afaelâ’u rhwystrau i ddysgu ac ailafael yn eu haddysg pan fydd lefelau absenoldeb yndechrau codi.

1.34     Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctidyn darparu ymyriadau cynnar ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 4 y mae eucyfraddau presenoldeb yn is na 90%. Dyma’r cam cyntaf mewn ymateb graddedig idrechu absenoliaeth, sy’n arwain at gyfraddau presenoldeb gwell ac osgoiatgyfeirio at Wasanaeth Mynychu’r Ysgol a Lles a gweithdrefnau statudoldilynol.

1.35     Mewn cydweithrediad â’r Swyddogion Mynychu’r Ysgola Lles a’r Gweithwyr Cymorth Pontio Ôl 16 oed, bydd swyddogion y GwasanaethYmgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn darparu cymorth cofleidiol i bobl ifaincyn ystod y diwrnod ysgol, gyda’r nos, ar benwythnosau ac yn ystod cyfnodaugwyliau, gan sicrhau bod cymorth ar gael ar yr adegau mwyaf bregus ym mywydperson ifanc.  

Beth yw swyddogaeth Gwasanaeth Addysg ar y Cyd -Consortiwm Canolbarth y De?

1.36     CafoddGwasanaeth Addysg ar y Cyd – Consortiwm Canolbarth y De ei sefydlu yn 2012gyda’r nod o ddatblygu gweithio rhanbarthol er mwyn:

·        Darparu gwell gwerth am arian drwy arbedion maintac effeithlonrwydd, gan alluogi mwy o ddatganoli cyllid i ysgolion

·        Creu mwy o gyfleoedd i rannu arferion da rhwngawdurdodau lleol a chwalu gweithio seilo

·        Galluogi arweinwyr gorau addysg i ddylanwadu achefnogi ysgolion ar draws ardal ddaearyddol ehangach

·        Hwyluso ysgolion i gefnogi gwelliannau mewnysgolion eraill

(Ffynhonnell: Partneriaeth ISOS, ““Schoolimprovement consortia: an early assessment of their readiness to deliver”,Tachwedd 2012)

1.37      Mae strategaethgwella ysgolion y Consortiwm, “Achieving Excellence Together”, yngosod lefelau uchel o uchelgais ac yn egluro sut bydd yn gweithio gydadisgyblion, rhieni, ysgolion, Awdurdodau Lleol a phartneriaid ehangach er mwyncyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen os yw plant a phobl ifainc i lwyddo yn yrhanbarth.

1.38      Cafodd gwellacyfraddau mynychu’r ysgol ei nodi fel un o feysydd blaenoriaeth allweddol yConsortiwm, ac er ei fod wedi’i reoli dan fantell ‘lles’, mae mynd i’r afael agabsenoldebau yn faes gweithredu yn ei rinwedd ei hun.

1.39     Sefydlwyd grŵp rhwydwaith strategol yn 2013, gydachynrychiolwyr o bob un o bum Gwasanaeth Lles Addysg yr Awdurdodau Lleol.   Mae arian grant gan Lywodraeth Cymru wedirhoi cyfle i’r Consortiwm gyflwyno dull rhanbarthol o wella lefelau presenoldebyn yr ysgol.

1.40     Mae Strategaeth Mynychu’r Ysgol y Consortiwm wedicael ei datblygu mewn cydweithrediad â phob partner Awdurdod Lleol, sy’n nodi’rymrwymiad i wella presenoldeb ysgolion erbyn 2016, yn unol â strategaethehangach y Consortiwm. Mae’r ddogfen yn amlinellu swyddogaeth Gwasanaeth GwellaYsgolion wrth godi lefelau presenoldeb, law yn llaw ag ysgolion a’r AwdurdodauLleol.

1.41     Mae egwyddorion allweddol strategaeth y Consortiwmyn cyd-fynd â’r meysydd allweddol presennol ar gyfer gwella yn Rhondda CynonTaf, er mwyn herio a hwyluso gwelliannau parhaus o ran cyfraddau presenoldebysgol dros y blynyddoedd nesaf.

1.42      Er mwyn helpu iwireddu strategaeth y Consortiwm a sicrhau llwyddiant y cynllun hwn, bydd yConsortiwm yn:

·        Sicrhau bod presenoldeb yn eitem sefydlog aragendâu cyfarfodydd gwella ysgolion

·        Monitro dull strategol ysgol-gyfan pob ysgol

·        Defnyddio data lefel cod i olrhain y cynnydd o ranpresenoldeb a herio ysgolion ynglŷn â’u lefelau a’u defnydd o godau, lle bo’nberthnasol

·        Cynnal archwiliadau o bresenoldeb gan ddefnyddio’rpecyn cymorth cymeradwy a sicrhau bod canlyniadau’n cael eu rhannu â GwasanaethMynychu’r Ysgol a Lles

·        Meithrin arbenigedd staff ysgol er mwyn bodlonigofynion y targedau codi lefelau presenoldeb ysgolion

·        Hwyluso’r broses o rannu arferion da ganddefnyddio’r Porth yn fodd i rannu gwybodaeth

2.     CYD-DESTUN

Beth yw cyd-destun y polisi?

2.1        MaeFframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan yn cynnig safonau ac arweiniad argyfer ysgolion a Gwasanaethau Lles Addysg er mwyn sicrhau eu bod yn cynniggwasanaethau sy’n gyson, yn hawdd mynd atyn nhw ac o safon uchel.

2.2        Mae’r System Codau Presenoldeb yn sicrhau bod ysgolion yncofnodi’r rheswm dros yr achos o absenoldeb o’r ysgol. Mae hyn yn sicrhau bodmodd cynnal dadansoddiad ar draws amryw o garfanau er mwyn pennu tueddiadau abod yn sail i ddatblygiad gwasanaethau. Er bod cyflwyno’r codau hyn wedi bod ynher mewn rhai ardaloedd, mae’r wybodaeth sydd ar gael yn sgil dadansoddi codauyn allweddol er mwyn bod yn sail i newidiadau ar lefelau gweithredol ar gyferysgolion a’r awdurdod lleol. Mae hyn, yn ei dro, wedi bod yn sail i’rstrategaeth hon.

2.3        Mae’r canfyddiadau yn yr arolygiad a gynhaliwyd ganEstyn o’r gwasanaethau addysg ar gyfer plant a phobl ifanc yn RhCT ym misMawrth 2012 wedi adnabod mai’r ail argymhelliad allweddol ar gyfer gwella ywgwella presenoldeb mewn ysgolion.  Daethymweliad monitro Estyn ym mis Gorffennaf 2014 i’r casgliad fod yr argymhelliadhwn wedi’i fodloni; ers yr arolygiad diwethaf yn 2012, mae cyfraddaupresenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd wedi gwella.

2.4        Mae Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013 yn ategu Deddf Addysg1996, Adran 444A, ac yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol roi hysbysiadau cosbbenodedig am beidio â mynychu’r ysgol. Dengys tystiolaeth fod y mesur gorfodihwn yn atal rhieni rhag peidio ag anfon eu plant i’r ysgol. Gwelir bodgwelliannau wedi bod mewn lefelau presenoldeb ers eu cyflwyno.  Cyflwynodd Rhondda Cynon Taf hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer amgylchiadau penodol oabsenoldebau heb ganiatâd o fis Medi 2014, yn dilyn cyfnod ymgynghoricynhwysfawr â rhanddeiliaid.

Sylfaen yr ymchwil

2.5       Mae achosion o bresenoldeb gwael yn yrysgol yn hynod o gymhleth (Reid, 2005), ond mae gwaith ymchwil wedi nodi nifero ffactorau sy’n cydberthyn i gyfraddau presenoldeb isel. Mae Reid wedi’ucategoreiddio’n fras; rhesymau cymdeithasol, seicolegol a sefydliadol (2008).Dengys gwaith ymchwil yn anaml iawn y ceir un rheswm yn unig dros beidio âmynychu’r ysgol. Yn aml, ceir cyfuniad o faterion sydd efallai wedi deillio oun achos cychwynnol.

2.6       Ceir nifer o ffactorau yn gysylltiedigâ’r teulu sy’n gallu chwarae rôl sylweddol mewn achosion o bresenoldeb gwael acachosion o ddatgysylltu o fyd addysg. Mae tlodi ac anghydraddoldeb cymdeithasolwedi’u nodi fel ffactorau pwysig mewn achosion o bresenoldeb gwael yn yr ysgol(Reid, 2005). Gall tlodi danlinellu nifer o broblemau eraill, gan gynnigrhwystrau ychwanegol i fynychu’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys llety annigonol adiffyg angenrheidiau sylfaenol fel bwyd, dillad a thrafnidiaeth. Bydd llawer oblant a phobl ifainc yn teimlo’n anghyfforddus heb ddillad ysgol priodol a hebhylendid personol digonol; gall hyn arwain at aelodau o staff yn eu herio apherthnasau gwael â chyfoedion/bwlio.

2.7       Ceir nifer o ffactorau yn ymwneud â’rteulu sy’n achosi straen. Mae’r rhain nid yn unig yn cael effaith arbresenoldeb ac ymgysylltiad mewn dysgu, ond hefyd yn creu rhwystrau ymarferoliddyn nhw. Nodwyd bod ffactorau sy’n creu amgylchedd cartref anhrefnus, llawnstraen yn gyffredin mewn cartrefi pobl ifainc sy’n chwarae triwant a’r rhaisy’n absennol o’r ysgol yn aml. Mae’r ffactorau sy’n achosi straen yn cynnwys:byw mewn cartref lle mae gormod o bobl yn byw ynddo a llety sydd o safon isel;salwch rhiant neu riant yn camddefnyddio alcohol neu sylweddau; trais acham-drin domestig; y gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â’r teulu oganlyniad i ysgariad, teulu’n gwahanu, trais a cham-drin (Reid, 2005; Egan2007).

2.8       Un ffactor sydd wedi’i nodi’n aml sy’ncyfrannu at gyfraddau presenoldeb gwael yw rhieni yn rhoi diffyg blaenoriaeth iaddysg (Malcolm et al, 2003). Mewn aelwydydd lle nad oes unrhyw un yn gweithioac mewn cymunedau difreintiedig, efallai bod dyheadau isel yn rhan o fywydarferol; efallai y bydd plant a phobl ifainc byth yn gwerthfawrogi’r ysgol.Gall diffyg amser a chymorth gan rieni ar gyfer dysgu amharu ar ddatblygiadmedrau allweddol. Gall hefyd arwain at anawsterau o ran dysgu sydd, yn ei dro,yn lleihau hunanhyder ac sy’n gallu arwain at y plentyn neu’r person ifanc ynpeidio â mynychu’r ysgol. Dengys gwaith ymchwil os yw rhieni yn ymwneud agaddysg eu plant, caiff hyn fwy o effaith ar ddeilliannau eu plant – gan gynnwyseu presenoldeb – o’i chymharu ag ansawdd yr hyn sydd ar gael yn yr ysgol (Reid,2009; Egan, 2007; Egan, 2011). Mae pobl ifainc sy’n rhan o’r ail neu’r drydeddgenhedlaeth sy’n chwarae triwant yn peri pryder arbennig i weithwyrproffesiynol sy’n gweithio gyda disgyblion sydd â phresenoldeb gwael (Reid,2008). Dengys Dalziel a Henthorne (2005), o ystyried y rhieni a nododd yr oeddeu cyfraddau presenoldeb nhw yn yr ysgol yn isel, mae gyda nhw fwy o blant syddâ phresenoldeb isel.

2.9       Yng Nghymru, y mae’n debygol roedd poblifainc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn absennolyn aml o’r ysgol. Mae gan y grŵp NEET gyfradd driwantiaeth gyson o 15.4%, o’ichymharu â 3.3% ar gyfer y garfan yn gyffredinol (Llywodraeth Cymru, 2009).Arwyddocâd newidynnau ymddygiadol, fel cyrhaeddiad a phresenoldeb, yw bod moddeu newid. Felly, drwy eu defnyddio i adnabod y rheiny sydd mewn perygl o ddodyn NEET, mae cyfle gyda ni i ymyrryd ac atal hynny rhag digwydd.

Cyfraddaupresenoldeb yn Rhondda Cynon Taf

2.10     Maecyfraddau presenoldeb ysgolion yn Rhondda Cynon Taf wedi bod yn wael yn gyson.Er gwaethaf cynnydd mewn cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion cynradd acuwchradd dros y tair blynedd academaidd ddiwethaf, mae dal angen cyflawnirhagor.  Mae Tabl 1 isod yn nodicanrannau presenoldeb disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd yn Rhondda CynonTaf dros y tair blynedd diwethaf o’u cymharu â chyfartaledd Cymru. Mae’n nodiein perfformiad ni o’i gymharu â’r 21 awdurdod lleol arall.

Presenoldeb

2010/11

2011/12

2012/13

2013/14

Ysgolion Cynradd

Rhondda Cynon Taf

92.3%

93.1%

93.4%

94.5%*

Cyfartaledd Cymru Gyfan

93.3%

93.8%

93.7%

Canran i’w chadarnhau

RhCT ymysg 22 awdurdod lleol

22

18

16

Safle i’w gadarnhau

Ysgolion Uwchradd

Rhondda Cynon Taf

90.6%

90.6%

91.9%

93.1%

Cyfartaledd Cymru Gyfan

91.4%

92.2%

92.6%

93.6%

RhCT ymysg 22 awdurdod lleol

20

21

21

17

    Ffiguraudros dro

2.11Caiff presenoldeb effaith fawr ar drothwydangosydd perfformiad Lefel 2 (5 A*-C neu gymhwyster cyfatebol), gan gynnwysCymraeg/Saesneg a Mathemateg (mesur sy’n barnu nifer y plant sydd â’r sgiliauallweddol llythrennedd a rhifedd a gwybodaeth eang). Mae plentyn yn Rhondda Cynon Tafsydd â chyfradd presenoldeb o 94% neu uwch:

·        94% yn fwy tebygol o gyrraedd y trothwy o’igymharu â phlentyn sydd â phresenoldeb o 90% ar yr uchaf (sy’n cyfateb â cholliun diwrnod y pythefnos). Mae hyn o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 53% yn fwytebygol;

·        321% yn fwy tebygol o gyrraedd y trothwy o’igymharu â phlentyn sydd â phresenoldeb o 80% ar yr uchaf (sy’n cyfateb â cholliun diwrnod yr wythnos). Mae hyn o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 207% yn fwytebygol;

·        1124% yn fwy tebygol o gyrraedd y trothwy o’igymharu â phlentyn sydd â phresenoldeb o 70% ar yr uchaf (sy’n cyfateb â cholli3 diwrnod y pythefnos). Mae hyn o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 592% yn fwytebygol).

2.12Dengys ymchwil lleol o hyd mai’r mater mwyaf sy’nein hwynebu ni o ran presenoldeb gwael yn yr ysgol, yn yr un modd â dwy flyneddyn ôl, yw’r ffaith bod rhieni yn caniatáu i ddisgyblion golli’r ysgol. Mae hynyn cynnwys tynnu plant o’r ysgol i fynd ar wyliau gyda’r teulu yn ystod ytymor.  Er bod Rheoliadau Addysg(Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn rhoi pŵer yn ôl disgresiwn i ysgolionganiatáu absenoldebau ar gyfer mynd ar wyliau gyda’r teulu, ers mis Medi 2014,rydyn ni wedi gofyn i bob ysgol yn RhCT beidio â rhoi caniatâd i ddisgyblionfynd ar wyliau yn ystod y tymor. Mae hyn yn dilyn y Cabinet yn cymeradwyomabwysiadu dull awdurdod cyfan, fel yr argymhellir gan Estyn. O ganlyniad ihyn, mae RhCT nawr yn gweithredu yn unol ag awdurdodau cyfagos fel Caerdydd aMerthyr Tudful.

2.13Ar gyfer y flwyddynacademaidd 2013/14, cafodd proses gosod targedau diwygiedig ei rhoi ar waith ermwyn sicrhau y caiff y targed mwyaf priodol ei osod ar gyfer pob ysgol ynseiliedig ar ei hamgylchiadau unigol a’i hanghenion.  Yr ystyriaethau allweddol wrth osod pobtarged oedd gwybodaeth leol, perfformiad blaenorol, grwpiau meincnodi acargaeledd cymorth ar gyfer gwella. Mae hyn felly’n rhoi cyfle i WasanaethMynychu’r Ysgol a Lles ganolbwyntio’i ymdrechion lle bo’u hangen fwyaf.  Fe gymeradwyodd uwch reolwyr y ffigurau hyn,a ymgynghorwyd ag ysgolion ac arweinwyr systemau er mwyn sicrhau bod y brosesyn deg ac er mwyn rhoi’r cyfle i’w herio. Darparwyd ffigurau swyddogol i bob ysgol yn ystod hanner tymor cyntaf yflwyddyn i roi’r cyfle gorau ar gyfer llwyddiant. Yn yr arolygiad mwyafdiweddar ym mis Gorffennaf 2014, nododd Estyn fod y dull hwn yn arwain at osodtargedau priodol o heriol i wella cyfraddau presenoldeb.

2.14Ceir nifer oenghreifftiau o arfer da yn ein hysgolion. Serch hynny, mae’r modd mae ysgolionyn rhoi systemau ar waith i adnabod a monitro cyfraddau presenoldeb ar lefel yrunigolyn a’r ysgol, yn ogystal â mynd i’r afael â nhw, yn parhau i amrywio’nfawr ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf.   Mae gwaith eang wedi dechrau i safoni systemau ar hyd a lled y sir, gangynnwys cyfnodau cofrestru cyffredin, treialu rhannu gwaith papur a mentrauwedi’u cydgysylltu’n ganolog fel Carfanau Ymateb i Absenoldebau Dyddiol (DART)a chynlluniau gwobrwyo. 

Dalziel,D. and Henthorne, K, (2005), Parents’/carers’ attitudes towards schoolattendance. Department for Education and Skills.

Egan, D., (2007), Combating Child Poverty in Wales:are effective education strategies in place? Joseph Rowntree Foundation

Egan, D., (2011) EducationalEquity and School Performance in Wales. University of Wales Institute:Cardiff

Malcolm, H; Wilson, V; Davidson, J and Kirk, S (2003), Absencefrom School: A study of its causes and effects in seven LEAs, The SCRECentre, University of Glasgow.

Reid, K, (2005), The Implications of Every ChildMatters and the Children Act for Schools, Journal for Pastoral Care andPersonal-Social Education.

Reid, K, (2008), Educational Welfare Service: the casefor a review in England, Educational Studies.

Welsh Government (2009) Reducing the proportion ofyoung people not in education, employment or training in Wales. Cardiff

3.     GWIREDDI’RSTRATEGAETH

3.1        Ers i’r strategaeth ddiwethaf gael ei hysgrifennu,mae nifer o gynlluniau a strategaethau newydd wedi’u rhoi ar waith y mae rhaideu hystyried yn unol â’r Strategaeth Mynychu’r Ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys yCynllun Integredig Sengl, Strategaeth Cefnogi Ymgysylltiad mewn Addysg,Cyflogaeth a Hyfforddiant RhCT (SEET) a Strategaeth Gwasanaethau CymorthIeuenctid RhCT.

3.2        Mae gwaith ad-drefnu gwasanaethau yn y GwasanaethAddysg a Dysgu Gydol Oes wedi cysoni gwaith Gwasanaeth Mynychu’r Ysgol a Llesgyda’r garfan SEET a Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid wrthsefydlu Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad. Mae hyn yn canolbwyntio adnoddauar gefnogi ymgysylltiad plant a phobl ifanc mewn addysg pan ydyn nhw rhwng 3 a25 blwydd oed; mae blaenoriaeth y Cyngor i wella cyfraddau presenoldeb yn yrysgol wrth wraidd arfer.

3.3        Er bod cyfraddau presenoldeb wedi gwella yn ysectorau cynradd ac uwchradd, rhaid gwneud a chynnal gwelliannau pellach yn yblynyddoedd i ddod. Mae’n hanfodol bod llwyddiant strategaeth 2011-2013 ynparhau’n asgwrn cefn ‘Pob Plentyn, Pob Dydd: Strategaeth Mynychu’r Ysgol2014-2017’ er mwyn parhau i wella seiliau sydd wedi’u sefydlu’n barod. 

3.4        Mae’n bwysig bod prif nodau strategaethau mynychu’rysgol lleol RhCT a rhanbarthol Consortiwm Canolbarth y De yn ategu eigilydd. 

3.5         O ganlyniad ihyn, dyma bedwar nod allweddol ‘Pob Plentyn, Pob Dydd: Strategaeth Mynychu’rYsgol RhCT 2014-2017’:

·        Gwella ymwybyddiaethrhieni, disgyblion a’r cyhoedd o faterion yn ymwneud â mynychu’r ysgol drwygynnal dull awdurdod cyfan er mwyn hyrwyddo a gwella cyfraddau presenoldeb;

·        Cydlynudull cyson o ymateb i absenoldebau a darparu gwasanaethau cymorth i atalcyfraddau presenoldeb gwael a chefnogi disgyblion nad ydyn nhw’n mynychu’rysgol i fynychu’r ysgol eto;

·        Sicrhauy caiff data presenoldeb ei ddefnyddio’n fwy effeithiol i nodi materion a myndi’r afael â nhw, ac i fonitro canlyniadau;

Gwella ymwybyddiaeth rhieni, disgyblion a’r cyhoedd ofaterion yn ymwneud â mynychu’r ysgol drwy gynnal dull awdurdod cyfan er mwynhyrwyddo a gwella cyfraddau presenoldeb;

3.6        Mae codi ymwybyddiaeth obresenoldeb yn yr ysgol yn faes gweithredu allweddol er mwyn codi lefelaupresenoldeb.  Rhaid bod modd i bobrhanddeiliad allweddol weld yr holl weithgareddau a gaiff eu cynnal gan yConsortiwm, awdurdodau lleol ac ysgolion. 

3.7        Rhaid pwysleisio yngyson i’r cyhoedd fod peidio â mynychu’r ysgol yn ffactor arwyddocaol mewncyrhaeddiad addysgol gwael a’i fod yn cael dylanwad negyddol ar lescymdeithasol ac emosiynol.   

3.8        Mae meysydd gweithreduallweddol yn cynnwys:

·        Ymgyrchoedd marchnataeang gan y Consortiwm ar draws y pum awdurdod lleol;

·        Cymorth gan y cyfryngauwrth ddathlu straeon yn ymwneud â llwyddiant ac adrodd ar ymyriadau statudol;

·        Penderfynu beth yw arferda a’i rannu gydag ysgolion ac awdurdodau;

·        Cydlynu mentrauawdurdodau lleol ac ysgolion;

·        Sefydlu cysylltiadau âphartneriaid cymunedol ehangach;

·        Archwilio dulliau posiblo gymharu effeithiolrwydd ymyriadau.

Cydlynu dull cyson o ymateb iabsenoldebau a darparu gwasanaethau cymorth i atal cyfraddau presenoldeb gwaela chefnogi disgyblion nad ydyn nhw’n mynychu’r ysgol i fynychu’r ysgol eto;

3.9        Mae gweithio mewnpartneriaeth yn allweddol i lwyddiant y strategaeth hon. Felly, mae sicrhaucymorth Gwasanaeth Gwella Ysgolion yn hanfodol er mwyn i ysgolion weld bodgwelliannau mewn cyfraddau presenoldeb yn sylfaenol i wella cyrhaeddiad.

3.10      Mae’r rhesymau pam fo disgyblion yn datgysylltu o addysg yn amrywio’n fawr.Mae felly rhaid i ysgolion a’r awdurdod lleol adnabod cyn gynted â phosibl yrarwyddion a’r dangosyddion bod unigolyn yn tynnu yn ôl o’r ysgol, a hynny ermwyn ymateb yn y ffordd fwyaf priodol. Dull aml-asiantaeth sydd orau yn aml ar gyfer y rheiny sydd ag anghenioncymhleth ac amgylchiadau personol heriol. Serch hynny, mae digwyddiadau uwch euproffil a gweithgareddau ataliol ysgolion cyfan, yn gyffredinol, yn fwydylanwadol wrth fynd i’r afael ag achosion o absenoldebau parhaus llaidifrifol.

3.11     Er bod dull partneriaethcydgysylltiedig yn hollbwysig, mae’n bwysig bod ymateb graddoledig clir argyfer mynd i’r afael ag achosion o absenoldebau yn ei le sy’n defnyddio sgiliaua chyfrifoldebau gwahanol randdeiliaid yn y modd gorau. Mae ymateb graddedig yncynnig y cyfle i ymyrryd yn gynnar sydd yn ei dro yn lleihau nifer yratgyfeiriadau i wasanaethau statudol. Mae hefyd yn caniatáu gwasanaethau iymateb yn well i amgylchiadau unigol.

3.12      Bydd gwella’r gefnogaeth i ddisgyblion ar bwyntiau sylweddol rhwng cyfnodauallweddol yn hanfodol i lwyddiant tymor hir y strategaeth hon. Mae hyn yncynnwys y cyfnod pontio o Gyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol 3 yn ogystalâ’r cyfnod pontio i gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant ôl-16 syddwedi’u cefnogi gan y garfan Cefnogi Ymgysylltiad mewn Addysg, Cyflogaeth aHyfforddiant RhCT.

3.13      Bydd meysydd gweithredu allweddol yn cynnwys:

·        Parhau i gyflawnidyletswyddau statudol Gwasanaeth Mynychu’r Ysgol a Lles mewn perthynas âmynychu’r ysgol, a nodir gan ddeddfwriaeth

·        Datblygu cysylltiadaucryfach â maes iechyd i gefnogi ysgolion i herio achosion o absenoldebau cysonneu estynedig oherwydd salwch;

·        Integreiddioswyddogaethau herio a chefnogi Gwasanaeth Mynychu’r Ysgol a Lles gyda’rConsortiwm;

·        Adeiladu ar ygwelliannau i brosesau atgyfeirio;

·        Datblygu cysylltiadaugweithio cryfach â Chynghorwyr Her o fewn y Consortiwm;

·        Cynnal cysylltiadaugweithio ag ysgolion;

·        Rhannu arfer da.

Sicrhau y caiff datapresenoldeb ei ddefnyddio’n fwy effeithiol i nodi materion a mynd i’r afael ânhw, ac i fonitro canlyniadau;

3.14      Bydd parhau i ddatblygu systemau rheoli gwybodaeth a gweithdrefnau safoniyn caniatáu i ddata gael ei gasglu a’i ddadansoddi’n gyflym. O ganlyniad i hyn,bydd gan ysgolion a Gwasanaeth Mynychu’r Ysgol a Lles y cyfle i weithredu dullmwy rhagweithiol i atal a rheoli achosion o absenoldebau gwael. 

3.15      Mae gwiriadau cydymffurfio â gweithdrefnau cofrestru yn rhoi’r cyfle i WasanaethMynychu’r Ysgol a Lles gyflawni ei ddyletswydd statudol er mwyn sicrhau bodysgolion yn cofnodi absenoldebau disgyblion yn gywir. Mae hefyd yn sicrhau body data presenoldeb a ddefnyddir i nodi materion ac ymdrin â nhw mewn moddeffeithiol yn gywir er mwyn hwyluso monitro canlyniadau.

3.16      Er mwyn cynnig her a chymorth priodol i ysgolion ermwyn gwella eu lefelau presenoldeb, mae proses gosod targedau cadarn wedi’isefydlu erbyn hyn.  Mae’r brosesddiwygiedig hon yn ystyried gwybodaeth leol o’r ysgol a’r gymuned, tra’i bodhefyd yn ystyried targedau blaenorol a ffigurau presenoldeb.  Caiff y broses hon ei hadolygu o ddechrau(2014) i ddiwedd (2017) y strategaeth hon i sicrhau ei bod yn parhau’n addaswrth gyflawni cydbwysedd priodol rhwng gosod targedau heriol a gosod targedausy’n realistig.

3.17      Mae data presenoldeb yn set ddata allweddol wrth baratoi Data ProffilioGrwpiau Agored i Niwed. Mae Proffilio Grwpiau Agored i Niwed wedi’i ddatblyguer mwyn cefnogi gweithdrefnau adnabod yn gynnar ddisgyblion sydd mewn perygl oymddieithrio o addysg o ganlyniad i rwystrau cymdeithasol-economaidd sy’n euhwynebu y tu allan i’r ysgol. Mae’r set ddata hon yn rhoi cyfle i ysgolionymateb yn well i ddisgyblion y mae newidiadau yn eu patrwm presenoldeb, syddwedi’u hadnabod yn ddisgyblion sy’n fwy agored i ddatgysylltu’n gyffredinol.

3.18      Bydd y meysydd gweithredu allweddol yn cynnwys: 

·        Gwellallwybrau dosbarthu data;

·        Parhaui roi blaenoriaeth i wirio ansawdd data a phrosesau;

·        Adolygugweithdrefnau gosod targedau bob blwyddyn;

·        Defnyddiodata i ddadansoddi effeithiolrwydd mentrau;

·        Dadansoddidata perfformiad Gwasanaeth Mynychu’r Ysgol a Lles er mwyn nodi tueddiadau;

·        Gweithdrefnauolrhain a monitro disgyblion sy’n trosglwyddo, sy’n fwy cadarn.

4.     MONITRO’R STRATEGAETH

4.1        Mae gwella presenoldeb yn yr ysgol yn flaenoriaethuchel i Rondda Cynon Taf. Caiff presenoldeb ei fonitro a’i graffu’n agos,felly, gan amrediad o bartneriaethau mewnol ac allanol. 

4.2        Mae Pwyllgor Craffu’r Gwasanaeth Addysg a DysguGydol Oes yn cynnig her allanol. Mae’n derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynrheolaidd yn ystod y tymor ar gynnydd ysgolion o ran cwrdd â thargedaupresenoldeb sydd wedi’u gosod a pherfformiad Gwasanaeth Mynychu’r Ysgol aLles. 

4.3        Cafodd Grŵp Mynychu’r Ysgol Penaethiaid YsgolionUwchradd ei sefydlu. Dyma grŵp sy’n cynnig cyfrwng cyfathrebu rhwng yr awdurdodlleol ac ysgolion. Caiff elfennau allweddol y strategaeth eu cynnwys feleitemau agenda i’r grŵp eu trafod, a bydd adborth yn cael ei gyflwyno i’rfforwm Penaethiaid ehangach a gan y fforwm. 

4.4        Mae Consortiwm Canolbarth y De Gwasanaeth Addysg ary Cyd yn gyfrifol am gyflwyno’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion i bob un o’r pum awdurdodlleol. Mae gan y Consortiwm rôl felly wrth sicrhau bod RhCT yn cyflawni’r nodausydd wedi’u nodi yn y strategaeth hon. Mae Ymgynghorwyr Her yn herio ysgolion ynghylch eu ffigurau presenoldebyn ogystal â’r prosesau, systemau ac ymyriadau maen nhw’n eu defnyddio er mwynlleihau lefelau absenoldeb.

4.5        Ganfod presenoldeb ysgol yn faes gwella arfaethedig yn y Cynllun Integredig Senglac yn flaenoriaeth ar hyd a lled y Cyngor ac ymhlith partneriaid allanol, mae’rBwrdd Gwasanaeth Lleol yn monitro cynnydd drwy’r Bwrdd Ffyniant.

4.6        Lawyn llaw â’r gwaith herio a chraffu gan y pwyllgorau, grwpiau a phartneriaiduchod, bydd y Cyngor yn parhau i weithio tuag sicrhau lefelau presenoldeb gwella chyson ym mhob ysgol. Felly, ystyrir effeithiolrwydd y strategaeth o safbwynty deilliannau allweddol canlynol:

·        Gosod targedau presenoldeb yn ystod hanner tymor cyntaf yflwyddyn academaidd newydd a chytuno arnyn nhw bob blwyddyn gyda phob ysgol a’rConsortiwm;

·        Gwelliannau parhaus mewn cyfraddau presenoldeb;

·        Lleihau absenoldebau oherwydd gwyliau yn ystod y tymor;

·        Lleihau nifer y disgyblion sy’n absennol heb ganiatâd;

·        Pob ysgol gyda pholisïau presenoldeb ysgol gyfan ystyrlonyn eu lle;

·        Pob ysgol i roi gweithdrefnau effeithiol yn eu lle argyfer mynd i’r afael ag absenoldebau;

·        Pob ysgol i gyflwyno data presenoldeb amserol a chywir;

·        Nodi ac olrhain pob disgybl sydd wedi’i dynnu oddi argofrestrau ysgolion yn RhCT heb yn wybod i ble mae ef wedi mynd, ganddefnyddio’r gronfa ddata disgyblion coll genedlaethol;

4.8       Caiff effaith y strategaeth ei gwerthuso’nflynyddol, a’i chymharu â deilliannau allweddol a’r targedau sydd wedi’u gosod.Mae dangosyddion perfformiad allweddol a mesurau cytuno ar ddeilliannau RhaglenCymru ar gyfer Gwella yn ymwneud â gwella lefelau presenoldeb ysgol yn mynnubod y Cyngor yn atebol am gyflawni gwelliannau amlwg yn y sir.  Caiff targedau’r awdurdodau lleol yn ogystalâ thargedau presenoldeb ysgolion eu gosod bob blwyddyn. Cânt eu defnyddio ibenderfynu a yw’r gyfradd gwella wedi bod yn gyson.  Yn ogystal â hyn, caiff safleoedd Cymru Gyfaneu defnyddio i gymharu effaith y strategaeth ag awdurdodau lleol eraill. Byddwnni’n cymharu ysgolion RhCT i ddangos y gwelliannau.

5.     CASGLIAD

5.1        Mae’r strategaeth hon yn nodi sut mae’r awdurdod lleol ynceisio parhau i wella a chynnal gwelliannau mewn lefelau presenoldeb ysgol ynRhondda Cynon Taf, a hynny drwy weithio mewn partneriaeth â ChonsortiwmCanolbarth y De, ysgolion a phartneriaid yn y sector cyhoeddus, preifat agwirfoddol.

5.2        Dyma strategaeth uchelgeisiol; mae’n ymdrechu i ddatblygugwelliannau a welwyd gyntaf yn 2011, a hynny gyda llai o adnoddau a phwysauychwanegol i lwyddo.  Mae ‘camau cyflym’wedi’u cyflawni gan mwyaf, sy felly’n golygu bod gwelliannau i’w cael yn ymannau mwy heriol.  Er mwyn gweldgwelliannau hir dymor ar gyfer disgyblion yn Rhondda Cynon Taf, bydd angengwneud ymdrech a dangos creadigrwydd i ddylanwadu ar newidiadau cadarnhaol iagweddau rhieni tuag at fynychu’r ysgol.   

5.3        Yn RhCT, rydyn ni wedi gweld gwahaniaeth sylweddol mewncyfraddau presenoldeb ysgol yn Rhondda Cynon Taf ers cyflwyno’r StrategaethMynychu’r Ysgol gyntaf, fodd bynnag, mae dal lle i wella. Yn yr un modd â’rstrategaeth flaenorol, mae’r fenter yn ymwneud â sut rydyn ni’n parhau i addasuein dull i fynd i’r afael â materion mewn modd cydlynol ac ystyrlon.

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl