Dweud Hwyl Fawr

By -
Dim Sylwadau

English version // Yn Saesneg

Dwi wedi cael newyddion trist iawn heddiw. Mae gwefan dwi wedi bod yn cyfrannu ato ac yn ysgrifennu iddo ers 2010 yn cael ei gau i lawr. Efallai nad yw hynny yn swnio fel llawer, o ystyried mai dim ond gwefan ydyw, ond roedd CLICarlein yn fwy nag hynny i mi.

Dechreuais gyda CLICarlein.co.uk yn fis Rhagfyr 2010 ar ôl awgrymiad gan ffrind am mod i wedi bod yn ysgrifennwr brwdfrydig erioed. Mae CLIC yn wefan gan bobl ifanc, i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ledled Cymru. Mae’n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau a materion, gan gynnwys ble i gael cefnogaeth yn dy ardal leol. Platfform am ddim i bobl ifanc gael lleisio eu barn ar unrhyw beth sydd yn bwysig iddyn nhw. Dwi’n rhan o’r tîm golygyddol ar gyfer fy ngwefan lleol, WICID.TV, sef gwefan fy sir. Ar ôl ychydig wythnosau o weld fy ngwaith yn cael ei bostio ar wefan oedd ddim yn flog personol, teimlais yn hapus iawn. Roedd fy meddyliau a fy ysgrifennu yn gyhoeddus i bobl, i’m nghyfoedion, ei ddarllen.

Yn fis Chwefror 2011, cefais y cyfle i fynd i ffwrdd gyda’r grŵp golygyddol cenedlaethol (holl grwpiau golygyddol llai ledled Cymru yn hidlo i mewn i un tîm mawr i gael barn ar beth sydd yn digwydd gyda CLIC, y wefan genedlaethol) am benwythnos yn Ynys Môn. Roedd hyn yn gam enfawr i mi. Dwi’n dioddef o bryder a cyclothymia ac yn 15 oed doeddwn i erioed wedi aros yn unlle heb fy rhieni o’r blaen. Mae Ynys Môn wedi’r leoli ar frig Gogledd Cymru a dwi’n byw yn De Cymru. Roedd yn ffordd bell iawn ac yn rhywbeth dewr i mi ei wneud, o ystyried fy nghyflwr. Mae’n debyg bod y penwythnos yma yn un o’r rhai pwysicaf yn fy mywyd. Es i ar y bws yn bryderus ac yn swil a dychwelyd adref ar ôl gwneud cymaint o ffrindiau o ledled y wlad, yn fwndel newydd o hyder a llwyth o wybodaeth nad oedd yr ysgol erioed wedi dysgu i mi.

Cefais i gymaint o gyfleoedd yn 2011 nad fyddaf byth yn anghofio. O gyfweld â phobl i fynd ar benwythnosau preswyl a chymryd rhan mewn digwyddiadau yn ymwneud ag ieuenctid. Fe wnes i gymaint, a thyfu yn enfawr fel person. Penderfynais fy mod i eisiau bod yn newyddiadurwr fel gyrfa hefyd.

Ar ddiwedd y flwyddyn honno, yn y gwobrauCLIC cyntaf, cefais fy nghoroni yn CLICiwr y Flwyddyn. Hwn oedd y wobr fawr gan y wefan am bopeth maen rhywun wedi’i wneud. Mae pethau wedi newid yn enfawr i mi ers y penwythnos yna yn fis Chwefror i’r glits a’r glam o’r seremoni wobrwyo yn fis Tachwedd.

Hyd yn oed pan gefais gwymp yn fy mhryder a gorfod gadael yr ysgol yn gynharach nag yr oeddwn wedi’i feddwl, roedd CLIC bob tro yno i mi. O gyngor i gynnig cefnogaeth a bod yn le i mi gael ysgrifennu o’m nghalon i dynnu fy sylw o’r cyfnodau drwg, mae CLIC wedi bod fel ail deulu.

Dros y cyfnod dwi wedi bod yn rhan o’r prosiect, dwi wedi gwneud ffrindiau anhygoel gyda’r staff a’r bobl ifanc eraill. Gallet ti ddweud bod rhai yn ffrindiau am oes. Gwahanol oedrannau; gwahanol ethnigrwydd; gwahanol gefndiroedd; gwahanol allu; nid oes ots. Nid oes dim yn broblem. Roeddem i gyd yn un teulu mawr hapus ac yn caru ac yn cefnogi ein gilydd. Mae rhai gwefannau wedi selio ar waith yn unig. Ti’n gwneud dy 9-5 yn y swyddfa, ti’n cael ychydig o ‘banter’ ond dim ond gwaith ydyw. Nid oedd hyn erioed yn wir am CLIC. Roedd y gwasanaeth am ddim yn anhygoel gan y gallet ti ennill cymaint ar gyfer dy CV: cymwysterau, cyfleoedd nad fyddet ti yn ei ddarganfod yn unlle arall a gwaith portffolio. Roedd popeth yn ddefnyddiol iawn ac yn hwyl ar yr un pryd.

Hoffwn ddweud wrthyt ti am bob atgof dwi wedi cael efo CLIC, ond mae yna lawer gormod i ddweud. O’r amser treuliwyd 10 awr ar fws yn teithio ar draws y wlad, Brwydr y Bandiau, Gwobrau CLIC, ymweliadau i’r Eisteddfod, aros i fyny drwy’r nos mewn penwythnosau preswyl –  roedd bob dim yn uffern o hwyl ac wedi creu cymaint o atgofion hapus yn fy arddegau.

Os wyt ti’n edrych ar beth dwi’n ei wneud nawr a beth dwi wedi’i wneud, dwi’n amau’n fawr y byddai wedi bod yn bosibl o gwbl heb CLIC yn fy mywyd. Y bobl dwi wedi cyfarfod, y pethau dwi wedi’i wneud… Nid oes gen i syniad beth fyddwn i yn ei wneud nawr heb y wefan ieuenctid a’r gymuned anhygoel yma. Dwi ddim yn gwybod sut byddwn i wedi dod drwy’r adegau gwaethaf o’m mywyd neu os byddwn i wedi ennill yr hyder o’r penwythnos hanfodol yna yn ôl yn 2011.

Mae CLIC yn bwysig i gymaint o bobl ifanc. Nid oes llawer o wasanaethau fel hyn ac mae wedi gwneud cymaint o dda i gymaint o bobl. Mae’r profiad, ennill sgiliau, tyfu hyder ac, yn fwyaf pwysig, ein lleisiau yn gallu cael ei glywed drwy’r platfform. Beth fyddwn ni’n gwneud heb CLIC? Ble fyddwn ni? Sut fedrwn ni leisio ein meddyliau a’n barn nawr?

Dwi’n gwybod bod pethau da bob tro yn dod i ben a dwi’n deall weithiau bod pethau yn gorfod digwydd ac nad oes dim gallwn ei wneud am y peth. Ond os gallwn i, creda di fi, fe fyddwn i. Roedd clywed bod CLIC yn cau wedi dod a lwmp i’m ngwddf, llosg i’m llygaid, a theimlais fel bod rhan ohonof yn cael ei rwygo o’m nghorff. Hoffwn wybod beth allwn ei wneud i stopio hyn rhag digwydd a hoffwn petawn yn gallu gwneud pethau’n well. Dwi’n gwybod nad fi yw’r unig un sydd wedi fy ngofidio neu fy niweidio neu fy nghythruddo gan hyn hyd yn oed.

I bawb yn CLIC, diolch cymaint i chi. Diolch i chi am fod yno i mi a helpu fi i ddysgu a thyfu fel person. Hyd yn oed i’r bobl dwi wedi colli cysylltiad â nhw. Diolch. Dwi wedi cael amser anhygoel ac mae’n wir yn fy mhoeni fi i ddweud hwyl fawr. Ond ni fedraf ddweud hwyl fawr gan fod hynny yn golygu mynd i ffwrdd ac mae mynd i ffwrdd yn golygu anghofio… ni fyddaf byth yn anghofio dim un ohonoch a dwi’n gobeithio ac yn breuddwydio y byddem yn gallu cyfarfod eto a mynd ar un penwythnos preswyl arall neu wneud rhywbeth gyda’n gilydd. Dwi’n caru chi i gyd cymaint ag o waelod fy nghalon, dwi’n diolch i chi am bopeth. Ni fyddaf byth, byth, yn eich anghofio – rhan mor fawr a phwysig o’m mywyd.

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl