Adolygiad: The Borrowers yn y Theatr Sherman

By -
Dim Sylwadau

Addasiad gan Charles Way dan gyfarwyddyd Amy Leach, mae ‘The Borrowers’ yn addasiad o’r nofel i blant gan Mary Norton am y teulu Clock. Teulu bach sy’n byw o dan yr estyll mewn tŷ Fictoraidd. Mae Theatr y Sherman yn cynnig y stori glasurol i blant yma dros gyfnod y Nadolig.

Mae’r teulu yn goroesi trwy “benthyg” eitemau oddi wrth y “human beans” ac yn byw bywydau cudd, gydag ofn parhaol o gael eu darganfod. Ond, mae ein stori yn cychwyn oherwydd bod gan Arrietty (Kezrena James) yr awch am antur ac i weld beth sydd uwchben yr esgyll. Mae Arrietty yn mynd gyda’i thad, Pod (Keiron Self), er mwyn chwilio am bethau i’w benthyg, er nad yw ei mam, Homily (Cait Davis), yn hapus am y sefyllfa o gwbl! Yn ystod y daith maen nhw’n cwrdd â Boy (Huw Blainey) ac mae e ac Arietty yn dechrau cyfeillgarwch annhebygol iawn. Ond, mae cymeriad drygionus Mrs. Driver (Harvey Virdi) yn gweld Boy yn siarad gyda’r “Borrowers”, ac mae hi’n defnyddio peiriant mwg i gael gwared arnyn nhw! Felly mae’n haid i’r teulu ddianc o’r tŷ a dysgu sut i fyw yn yr awyr agored.

Mae perfformiad James yn anhygoel, gyda’i brwdfrydedd heintus. Mae hi a gweddill y cast yn rhyngweithio gyda’r set yn berffaith, ac mae’r symudiadau’n naturiol iawn. Mae hyn yn gwir glod i Leach am ei gwaith cyfeirio.

Mae ychwanegiad y band at y llwyfan yn cyd-fynd gyda phob rhan y perfformiad. Cafodd y gerddoriaeth ei hysgrifennu a’i gyfansoddi yn benodol gan Dom Coyote. Mae hyn yn amlwg gan fod pob darn o gerddoriaeth yn mynd gyda phob golygfa. Mae’r gerddoriaeth yn cyfoethogi awyrgylchoedd a thôn y perfformiad; mae teimlad y gerddoraeth yn drwm ac yn dywyll wrth i’r teulu fyw yn eu cartref o dan yr estyll, ond yn troi i naws ysgafnach ar ôl iddyn nhw ddianc, sy’n cyfleu teimladau Arrietty tuag at fod yn yr awyr agored. Mae yna sawl harmoni lleisiol ac offerynnol hyfryd i’w chlywed.

Er mwyn cyfleu’r ddelwedd o fod uwchben neu islaw’r estyll yn y tŷ, mae’r dechneg o lwyfannu ar lefelau gwahanol. Mae hyn yn dechneg syml ond un effeithiol iawn. Mae Hayley Grindle wedi creu set a llwyfan brydferth. Mae’r holl gelfi yn edrych yn wych ac yn cyfrannu’n dda at ddangos maint y ‘Borrowers’ o gymharu â’r ‘human-beans’. Enghreifftiau o hyn yw bod Homily yn defnyddio gwniadur ar gyfer y stôf; mae llythyron yn cael eu defnyddio i orchuddio waliau’r cartref; tomato sy’n cael ei ddefnyddio fel tegan neidio gan Arrietty; ac mae Pod yn defnyddio hanner siswrn fel arf! Serch hynny, roedd modd i wneud defnydd gwell o’r tafluniadau. Roedd y golygfeydd a oedd yn defnyddio’r taflunydd yn aneffeithiol ac yn ymddangos braidd yn rhy syml.

Er y cafodd nofel Norton ei ysgrifennu yn 1952, mae’r themau a’r trosiadau yn parhau i fod yn berthnasol i’n byd heddiw. Mae’r cynhyrchiad yn trafod materion derbyn ac ofn yr anhysbys. Cawn weld hyn yn bennaf trwy gymeriad Arrietty yn ceisio addysgu ei rieni ar ôl byw yn y cysgodion. Yn yr un modd, Boy sydd yn gofalu am y Borrowers, tra bod Mrs Driver a Crampfurl (Joseph Tweedale) sydd yn ceisio’u lladd nhw ar ôl eu gweld nhw am y tro cyntaf.

Mae’r cynhyrchiad yn un calonogol, sydd yn apelio at oedolion a phlant fel ei gilydd. Mae’r stori glasurol i blant wedi dod yn fyw mewn modd llwyddiannus ar lwyfan Theatr y Sherman, gyda pherfformiadau gwych yn ogystal â chyfeiliant prydferth a llwyfannu sy’n hyfryd i’w weld.

Bydd The Borrowers yn Theatr y Sherman tan 31 Rhagfyr. Archebwch docynnau yma  http://www.shermantheatre.co.uk/performance/children/the-borrowers/

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl