Fantastic Mr Fox Yn Y Theatr Newydd

By -
Dim Sylwadau

Roedd Roald Dahl yn awdur arbennig ac un o’r awduron gorau i blant. Mae Fantastic Mr Fox yn gyfraniad gwych at y casgliad o straeon creadigol. Mae’r stori yn pwysleisio’r cariad rhwng Mr Fox a’i ffrindiau oherwydd rydych yn cael eich ofni ac eich cyffroi yn ei ras i oroesi. Cafodd y perfformiad ei pherfformio yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd.

Mae Fantastic Mr Fox yn llwynog clyfar sy’n byw o dan y ddaear drws nesaf i goeden gyda’i wraig a’i blant. Roedd ei deulu a ffrindiau angen bwyd i oroesi felly roedd Mr Fox yn dwyn o 3 fferm pob nos sy’n cael ei redeg gan 3 ffermwyr ofnadwy a chreulon. Mae Mr Fox yn rhy alluog iddyn nhw felly maen nhw yn cynllunio i ladd Mr Fox sy’n anfon ef, ei deulu a’i ffrindiau ar antur i oroesi.

Roedd y perfformiadau yn wych gan yr actorion oedd yn cael llawer o egni ar gyfer cast bach iawn. Roedd y canu a dawnsio yn gyffrous ac roedden nhw yn cael llawer o hwyl. Greg Barnett oedd Mr Fox, Jade Croot oedd Kit, Raphael Bushay oedd y mochyn daear ac un o’r ffermwyr, Lillie Flynn oedd Mrs Fox, Sandy Foster oedd cwningen, Gruffudd Glyn oedd y twrch daear ac un o’r ffermwyr, a Kelly Jackson oedd y llygoden. Roedd y band ar y llwyfan am y perfformiad cyfan yn y cornel fel tri aderyn bach. Fy hoff gymeriad oedd y llygoden fawr a gafodd ei chwarae gan Richard Atwill oherwydd y comedi.

Roedd gwisgoedd y cymeriadau (yn enwedig y llwynog) yn ddarnau o gelf a’r set yn rhyfeddol gyda llawer o wahanol lefelau a oedd yn troi a symud. Roedd y goleuadau yn gwneud y caneuon hyd yn oed yn fwy cyffrous. Ysgrifennodd Arthur Darvill caneuon cofiadwy iawn sy’n tynnu sylw’r gynulleidfa.

Roedd hwn yn berfformiad oedd wedi goleuo fy noson ac yn dysgu neges bwysig: mae ffrindiau yn bwysig. Mae’n rhoi gwên ar wynebau llawer o bobl ac mae’r caneuon yn gwneud i chi eisiau dawnsio. Roedd y comedi yn dda (er weithiau braidd yn wirion i apelio at gynulleidfa iau) a’r lleisiau yn gryf wrth ganu. Roedd Fantastic Mr Fox yn perfformio yn y Theatr Newydd rhwng 21ain o Chwefror a 25ain.

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl